'Mwy o addysg iechyd menywod i helpu gyda diagnosis cynt'
- Cyhoeddwyd
Byddai mwy o addysg am iechyd menywod yn helpu gyda chael diagnosis yn gynt, yn ôl elusen sy'n cefnogi cleifion.
Mae Triniaeth Deg i Ferched Cymru yn dweud mai'r "un hen stori" yw bod diagnosis ar gyfer cyflyrau fel endometriosis neu PCOS yn aml "yn cymryd blynyddoedd".
Mae myfyrwyr meddygaeth yng Nghaerdydd yn dweud fod mwy o le i'r pynciau mewn cyrsiau prifysgol ac yn yr ysgol.
Dywedodd Prifysgol Caerdydd fod iechyd menywod yn rhan greiddiol o'u cwricwlwm ac ychwanegodd Llywodraeth Cymru fod addysg am y mislif a chyflyrau cysylltiedig yn orfodol yn y cwricwlwm newydd i Gymru.
Mae Elin Bartlett, 22, a Celyn Jones-Hughes, 19, newydd orffen cyhoeddi cyfres gyntaf eu podlediad, Paid Ymddiheuro.
"Dan ni 'di sôn am ddulliau atal cenhedlu, 'dan ni hefyd 'di sôn am y menopos a'r defnydd o HRT, 'dan ni'n trafod PCOS, endometriosis, am migraines," dywedodd Celyn.
"Wrth i'r gyfres gyntaf 'ma fynd 'mlaen 'dw i rili 'di sylwi cyn lleied o addysg 'dan ni'n ei gael ar y cyflyrau 'ma, yn yr ysgol ac fel myfyrwyr," ychwanegodd Elin.
"Stwff fel endometriosis sydd efo'r stigma 'ma o'i gwmpas o... mae'n cymryd blynyddoedd i fenywod gael diagnosis ohono fo.
"Dw i wir yn credu os fysan ni efo addysg gwell o'r cychwyn, ella' fysa'r menywod 'ma ddim yn gorfod diodda' cymaint cyn hyd yn oed derbyn diagnosis."
Dywedodd ei bod wedi dilyn prosiect unigol ar y menopos yn y brifysgol ac y bydd uned ar iechyd menywod yn cael ei gynnwys yn ei phedwaredd flwyddyn, sy'n bwysig iddi.
Dywedodd Celyn y gallai pethau wella yn yr ysgol: "Ma petha' angen newid yn bendant yn yr ysgol, nid yn unig o ran y menopos, ond hefyd o ran petha' fel PCOS ac endometriosis."
Mae Elinor Williams, 23 o Borthcawl sy'n byw ag endometrisosis, yn un o'r menywod a siaradodd ar bodlediad Paid Ymddiheuro am "brofiad erchyll" a cheisio cael atebion a thriniaeth ers yn 13 oed.
"O'n i'n 20, just ar ôl i'r pandemig ddechrau, oedd yn rhaid i fi fynd mewn i A and E. Fi byth 'di diodde poen fel hyn yn fy mywyd i. Dyna pryd 'naeth yr uffern rili ddechrau. O'n i mewn a mas o A and E tua chwech gwaith mewn wythnos.
"'Steddais i mewn stafell 'da'r doctor yma, o'n i just yn methu credu be o'n i'n clywed. Oedd e'n iste' 'na yn gweud 'wel, ti'n gwybod beth, mae lot o fenywod jyst yn gorfod byw 'da fe'.
"Rhywbeth oedd yn rili, rili glir oedd y complete diffyg addysg."
Dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg fod profiad Elinor "yn achos pryder" a'u bod wedi datblygu clinigau endometriosis yn eu tri ysbyty.
Dywedodd Julie Richards, sy'n ymddiriedolwr gydag elusen Triniaeth Deg i Ferched Cymru, bod lle i fwy o addysg am iechyd menywod yn gynt.
"Be' sy'n fy nharo i wrth wrando ar y podlediad yma yw mai'r un hen stori yw hi. Yr un hen brofiad, ei bod hi'n cymryd blynyddoedd fwy neu lai i gael dod o hyd i beth sy'n bod," dywedodd Julie.
"Cyn gynted ag y mae rhywun yn gallu dysgu am hwnna, pa bynnag oedran lle bynnag maen nhw yn eu haddysg, mae'n hollbwysig. Dydy hwn ddim yn bwnc arbenigol."
'Angen dysgu nhw am bopeth'
Mae Dr Llinos Roberts yn feddyg teulu yn Sir Gaerfyrddin ac yn darlithio ym Mhrifysgol Abertawe a dywedodd fod cydbwysedd yn bwysig.
"Dw i'n meddwl beth sy'n gallu bod yn anodd hefo'r cyflyrau yma, ydy bod hi'n gallu bod yn anodd cyrraedd diagnosis, a falle nad ydy hynny oherwydd yr addysg mae'r doctor wedi ei gael, ond oherwydd natur y cyflyrau 'ma.
"Yr hyn fydden ni'n dweud yw bod iechyd menywod yn cael lle amlwg o fewn y cwricwlwm meddygol, yn sicr yma yn Abertawe, ac yn cael lle haeddiannol.
"Ac wrth ddysgu myfyrwyr i fod yn feddygon, mae angen i ni ddysgu nhw am bopeth."
'Sylw i iechyd menywod ym mhob blwyddyn prifysgol'
Ychwanegodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd fod iechyd menywod yn "rhan greiddiol" o'r cwricwlwm meddygol a'i fod yn "cael ei gydbwyso gydag elfennau pwysig eraill o addysg feddygol".
"Mae iechyd menywod yn cael sylw o fewn cwricwlwm Caerdydd ar draws pob un o'r pum mlynedd wrth i fyfyrwyr feithrin eu dealltwriaeth o'r anatomeg, ffisioleg a phatholeg sylfaenol, gyda hyfforddiant sgiliau cyfathrebu penodol."
Dywedon bod y mislif a beichiogrwydd yn cael ei addysgu ym mlynyddoedd 1 a 2 ac yna ym mlwyddyn 4, bydd ffocws sylweddol ar iechyd menywod, gyda sylw i'r menopos, PCOS a mwy.
Mae Prifysgol Bangor yn cyflwyno'r un cwricwlwm â Phrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod dysgu am y mislif a chyflyrau eraill yn orfodol o fewn y cwricwlwm newydd i Gymru, gyda lle i ysgolion ystyried cyflyrau fel endometriosis.
"Mae'n bwysig nad 'gwers untro' yn unig yw dysgu am lesiant mislif a chyflyrau cysylltiedig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2023
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2022