‘Da ni mewn sioc’: tristwch wrth i fecws olaf Caernarfon gau
- Cyhoeddwyd
Ers dros ganrif mae becws Carlton wedi bod yn gwerthu bara a chacennau i’r Cofis, ac fel y bedwaredd genhedlaeth i weithio yn y busnes teuluol tydi Dewi Roberts ddim yn cofio bywyd heb y lle. Ond mae hynny ar fin newid.
“Dwi jest yn cofio ista yn y siop pan o’n i’n fach yn tynnu ar y cwsmeriaid a pobl yn siarad efo fi,” meddai. “Roedd ‘na rai o’r cwsmeriaid yn mynd a fi adra i warchod fi, ac wedyn pan o’n i’n ysgol o’n i’n helpu yn ystod y gwylia.
“Dwi ‘di gweithio yma ers gadael ysgol pan o’n i’n 16. Dwi 'di gadael few times a chael gwaith arall ac wedyn dod nôl bob tro.
“O’n i’n arfer helpu allan yn neud y cakes. O’n i’n dysgu gan Mam. Do’n i ddim yn neud llawer o fara tan nes 'mlaen - o'n i’n reit hen yn dechrau gwneud rheina.”
Mae’n dweud bod ei frodyr a chwiorydd hefyd wedi gweithio yn y busnes teulu dros y blynyddoedd - a’i frawd Rhys, tan yn ddiweddar, oedd ‘brêns’ y busnes.
Fe gafodd y cwmni ei sefydlu gan ei hen nain a taid yn 1922 a’r perchennog presennol ydi ei dad Alun Roberts - neu ‘Cwstad’ i bobl Dre.
Maen nhw’n gwerthu cynnyrch yn eu siop ac yn cyflenwi busnesau eraill yr ardal.
Ond mae rhedeg becws yn waith caled - chwe diwrnod yr wythnos a dod i mewn ar ddydd Sul - ac mae colli staff yn ddiweddar wedi cynyddu’r baich.
Eglurodd Dewi: “Dwi’n codi tri y bore a dod fewn - a syth i ffwrdd dechra’ neud y bara a gneud siŵr bod y caffis a’r pybs a‘r siopa yn cael bob dim maen nhw angen mor gynnar â ‘da ni’n gallu - ma’r fan yn gadael yma am chwech.
“Wedyn dechra’ cael petha’n barod i’r siop sy’n agor am naw.
“Ma’n all go drwy’r dydd ac mae ‘na lot wedi gadael - mae ‘na bump wedi gadael blwyddyn yma felly mae’n hectic. Felly nesh i fynd at Dad a deud ‘dwi methu neud o ddim mwy’.
Cau'r siop
"O’n i’n stryglo a nath o decidio i gau'r siop as soon as possible. Neshi ddeud allai gario 'mlaen a jest neud y wholesale a dim y caffi ond nath o ddeud 'dwi ddim isho’r hassle'.
“Mae o’n wael ei hun ac mae o’n 83 ac mae o dal wedi bod yn neud y gwaith papur a’r llyfra a gweithio ers blynyddoedd ac mae o’n stryglo. Nath o jest penderfynu enough is enough. 'Da ni di cael digon.
“Doedd o ddim am cuttio lawr - 'da isho mynd allan on a high. Dydi pobl ddim yn sylweddoli faint o waith ydi o.”
Felly ar ddydd Sadwrn, 2 Tachwedd, daeth y cyhoeddiad annisgwyl i bobl Caernarfon bod eu hunig becws yn cau o fewn wythnos.
Ers hynny mae nifer fawr wedi bod yn dod i mewn i’r siop i brynu cynnyrch am y tro olaf, ac i ddymuno’n dda a diolch am y gwasanaeth.
Colli ffrindiau a gwaith
Dydd Sadwrn 9 Tachwedd fydd diwrnod olaf y busnes mewn 102 o flynyddoedd ac mae wedi bod yn sioc i’r staff a chwsmeriaid.
Mae Karen Morgan, sy’n dod o Gaernarfon, yn ffitio i’r ddau gategori.
“Roedd Mam yn arfer dod yma i gael treiffl a dwi’n cofio dod efo hi ac roedd hi’n arfer cael cacennau chocolate i’m mrawd ar ei ben-blwydd,” meddai.
“Mae o’n ofnadwy o drist. Dwi’n gweithio yma ers 24 mlynedd. Neshi ddechrau 11 Medi, 2000 - run blwyddyn ag Ann. 'Da ni’n ffrindia’ da ers hynny a wnaethon ni’n dwy weithio drwy Covid. Roedd hynny’n anodd.
“Nai golli ffrindiau a’r gwaith - dwi’n nabod lot o'r cwsmeriaid achos maen nhw o Gaernarfon hefyd.
“Lle fydd pobl yn cael bara rŵan dwi’m yn gwybod. Dwi wedi prynu lot yn barod cyn i ni gau a rhewi nhw.”
Mae ‘na ddagrau yn llygaid ei chyd-weithiwr a chyfaill Ann Jones, o Bontnewydd, wrth sôn am y cau.
“Fydd o’n golled fawr," meddai. "Mae pobl wedi bod yn tu hwnt o dda efo ni.
“Roedd Dewi yn stryglo - mae o wedi neud ei orau. Roedda ni jest yn gobeithio fasa ni wedi gallu cario mlaen ond yn anffodus tydi petha’ heb ddigwydd fel yna.”
Un sy’n gweithio yno ers 15 mlynedd ydi Brenda Jones, hefyd o Gaernarfon.
“Geshi wybod dydd Sadwrn dwytha pan nath y bos ffonio a deud bod ni’n mynd i gau dydd Sadwrn yma," meddai.
“O'n i’n meddwl ella fasa ni’n aros yn agored am ryw dri mis ella cyn cau, ond mond wythnos. Mae o’n golled i’r dre.
"Roedd pobl yn dod yma am fara a teisienna’ penblwydd. Dwi’m yn gwybod lle neith pobl gael bara nhw rŵan - dwi’m yn gwybod lle gai fara. Nai fethu rolls Carlton yn ofnadwy.”
Gyda sawl becws wedi cau yn y dref dros y blynyddoedd diwethaf, Carlton oedd yr olaf - ond y gobaith ydi y bydd rhywun yn prynu’r busnes.
Ac mae’n fusnes sydd wedi ffynnu ar gefnogaeth cwsmeriaid lleol a chynnyrch traddodiadol.
Meddai Dewi: “Da ni wedi bod yn neud yn brilliant o ran busnas - 'sna ddim diffyg support ac mae o’n goldmine i rywun.
“Y petha’ sy’n mynd orau ydi’r eclairs, custard tarts, almond slices, rolls a bara. 'Da ni’n neud sourdough i un o’r pybs a natho ni neud ‘chydig yn y siop ond doedda nhw ddim yn mynd yn grêt - y bara gwyn a brown basic a rolls sy’n mynd.
"Os oedda ni’n neud rhywbeth ffansi doedd o ddim yn gwerthu - stick to what you know.”
Ond mae’r hyn mae o’n gwybod popeth amdano yn dod i ben, a bydd yn cymryd amser iddo fo a phawb arall gynefino.
Bydd yn anodd gweld y siop wedi cau, meddai, wrth iddo fynd mewn dros yr wythnosau nesaf i baratoi ar gyfer y gwerthiant.
Ar ôl hynny mae o’n bwriadu cymryd amser i ffwrdd i ddod at ei hun, a threulio amser gyda’i deulu ifanc, cyn chwilio am waith a dod i’r arfer efo Caernarfon heb Carlton.
Meddai: “Mae pawb mewn sioc ofnadwy. Mae’r dref i gyd wedi cael sioc - y staff, cwsmeriaid, teulu - a fi hefyd.
“Ers i ni ddeud bod ni’n cau, mae pobl wedi bod yn rili neis - mae o wedi bod reit overwhelming i fod yn onast.”
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd1 Mai 2024
- Cyhoeddwyd5 Awst 2023
- Cyhoeddwyd11 Medi 2024