Cyngor 'wedi deall' effaith newid rheolau caniatáu ail gartref

AberdaronFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n orfodol dan reol Erthygl 4 i berchnogion sicrhau caniatâd cynllunio cyn troi tŷ yn ail gartref neu lety gwyliau

  • Cyhoeddwyd

Mae adolygiad barnwrol wedi clywed gan wrthwynebwyr bod Cabinet Cyngor Gwynedd naill ai wedi eu camarwain neu wedi camddeall pan aethon nhw ati i newid rheolau cynllunio.

Fe bleidleisiodd y cabinet ym mis Hydref 2022 dros fesurau i dynhau rheolau ar ail gartrefi mewn ymgais i gael gwell rheolaeth dros dai gwyliau.

Mae'r cyngor yn dadlau bod y Cabinet wedi cael y wybodaeth gywir ac wedi deall effaith y newid a ddaeth i rym fis Medi y llynedd.

Golyga'r newid bod angen caniatâd cynllunio ar rai newidiadau yr oedd modd eu gwneud heb ganiatâd ynghynt, ond mae rhai pobl yn anfodlon am effaith hynny arnyn nhw.

Gwynedd yw'r awdurdod cyntaf i wneud defnydd o'r rheoliadau, sy'n cael eu hadnabod fel Cyfarwyddyd Erthygl 4, gyda'r bwriad o fynd i'r afael â'r hyn mae'r cyngor wedi ei ddisgrifio fel "argyfwng tai".

Fe fydd y barnwr yn ystyried yr hyn y mae wedi ei glywed cyn cyhoeddi dyfarniad maes o law.

Fe wnaed y cais am adolygiad barnwrol gan Enlli Williams o ardal Abersoch - un o'r ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu'r mesurau.

Ym mis Tachwedd 2024 fe wnaeth barnwr Uchel Lys wrthod pedwar honiad arall gafodd eu cyflwyno ganddi.

Fe glywodd gwrandawiad ddydd Llun fod y newid polisi wedi cael effaith ar brisau tai ac ar allu pobl i gael morgeisi.

Roedd ei bargyfreithiwr yn dadlau bod Cabinet Cyngor Gwynedd wedi bwrw ymlaen â'r newidiadau am eu bod nhw'n meddwl y byddai ganddyn nhw reolaeth dros newid defnydd tai.

"Doedd swyddogion ddim yn eglur bod y rheolau ond yn berthnasol i newidiadau sylweddol," meddai.

'Cam i helpu, nid datrys, y sefyllfa'

Yn ôl bargyfreithiwr Cyngor Gwynedd roedd y cabinet yn deall cyfyngiadau cyflwyno'r rheolau newydd, a'u bod wedi gwneud hynny i geisio ymateb i'r ffaith fod yna gynifer o dai gwyliau mewn sawl cymuned.

Fe gyfeiriodd at y ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi newid canllawiau cynllunio er mwyn cydnabod bod tai gwyliau yn broblem mewn rhai cymunedau, gan roi'r hawl i awdurdodau gyflwyno gorchymyn Erthygl 4 i geisio sicrhau gwell rheolaeth dros y broses gynllunio.

Doedd swyddogion ddim wedi addo y byddai hyn yn datrys y sefyllfa, meddai, dim ond dweud y gallai helpu'r sefyllfa.

Roedd yn rhaid i'r achwynydd brofi, meddai, fod camarwain wedi digwydd - doedd hi ddim yn ddigon iddyn nhw ddweud bod yna ryw fath o amheuaeth.

Doedd dim cwestiwn, fe ychwanegodd, fod swyddogion yn deall y sefyllfa gyfreithiol, - dau ddewis oedd yn agored iddyn nhw, sef ceisio gwneud rhywbeth neu gwneud dim.

Arwydd 'Hawl i Gymunedau Barhau' yn ystod protest ynghylch y trafferthion rhai i brynu tai yn eu cymunedau eu hunain
Disgrifiad o’r llun,

Mae trafferthion y mae llawer o bobl yn eu wynebu wrth geisio brynu tŷ yn eu cymunedau eu hunain yn bwnc llosg ers blynyddoedd

Yn ôl y grŵp ymgyrchu Pobl Gwynedd Yn Erbyn Erthygl 4, sydd wedi codi dros £70,000 i gyllido adolygiad barnwrol, fe fyddai'r mesurau'n dibrisio pob cartref yn y sir, ac yn gwneud tai yn anoddach i'w gwerthu.

Gan ddadlau o blaid y mesurau, dywedodd Dr Jeff Smith o Gymdeithas yr Iaith: "Mae poblogaeth Gwynedd yn wynebu argyfwng tai sy'n bygwth tanseilio ei chymunedau a'r Gymraeg wrth i deuluoedd a phobl ifanc gael eu gorfodi i adael oherwydd anfforddiadwyedd tai i'w prynu neu rentu."

Mae Dr Smith "yn erfyn ar awdurdodau lleol eraill i gyflwyno mesurau tebyg".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig