Cau'r ffenestr drosglwyddo: Diweddglo prysur i glybiau Cymru
![Joe Taylor](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/0e59/live/1d5a1d80-df1f-11ef-814c-5f7558660cab.jpg)
Fe symudodd y Cymro ifanc, Joe Taylor o Luton i Huddersfield yn Adran Un am ffi o tua £3m
- Cyhoeddwyd
Fe gaeodd y ffenestr drosglwyddo yn hwyr nos Lun gyda chlybiau ar hyd cynghreiriau pêl-droed Lloegr yn rhuthro i brynu a gwerthu chwaraewyr tan yr eiliadau olaf.
Mae llai o drosglwyddiadau yn dueddol o ddigwydd ym mis Ionawr o'i gymharu â'r haf, ond mae clybiau Cymreig yr EFL i gyd wedi ceisio cryfhau eu carfannau eleni.
Mae Caerdydd a Chasnewydd yn paratoi ar gyfer brwydrau i aros yn eu cynghreiriau, tra bod Luke Williams eisiau ychwanegu mwy o ddyfnder at garfan ifanc Abertawe, a Wrecsam yn chwilio am fwy o goliau i'w tanio i frig Adran Un.
Yn y cyfamser mae ambell i drosglwyddiad allai fod o ddiddordeb i Craig Bellamy a chefnogwyr Cymru hefyd.
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2024
Caerdydd
![Yousef Salech](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2048/cpsprodpb/e982/live/e3099cd0-dd68-11ef-902e-cf9b84dc1357.jpg)
Fe sgoriodd Salech ei gôl gyntaf i Gaerdydd yn erbyn Millwall
Gyda Chaerdydd yn brwydro tua gwaelod y Bencampwriaeth roedd Omer Riza yn edrych i gryfhau'r garfan ar gyfer misoedd ola'r tymor.
Cyn y gêm ddarbi fawr yn erbyn Abertawe fe wnaeth yr Adar Gleision arwyddo Yousef Salech am ffi o fwy na £3m o glwb Sirius yn Sweden, gyda'r ymosodwr ifanc o Ddenmarc yn sgorio ei gôl gyntaf i'r clwb yn erbyn Millwall.
Fe ymunodd y chwaraewr canol cae o Norwy, Sivert Mannsverk ar fenthyg o Ajax tan ddiwedd y tymor, tra bod Will Alves hefyd wedi ymuno ar fenthyg o Leicester City.
O ran ymadawiadau, cafodd y Cymro ifanc Joel Colwill ei adalw o'i gyfnod ar fenthyg gyda Cheltenham yn Adran Dau, cyn cael ei anfon allan ar fenthyg i Gaerwysg yn yr Adran Gyntaf.
Mae chwaraewr canol cae Groeg, Manolis Siopis wedi ymuno â Panathinaikos, yr ymosodwr Kion Etete wedi symud i Bolton Wanderers ar fenthyg tan ddiwedd y tymor a Michael Reindorf wedi mynd ar fenthyg i Bristol Rovers.
Abertawe
![Matt Grimes](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/109d/live/be4f5e70-deee-11ef-bd1b-d536627785f2.jpg)
Cafodd Grimes ei benodi yn gapten ar yr Elyrch yn 2019
Mewn cyfnod lle'r oedd nifer o gefnogwyr Abertawe yn galw am gryfhau'r garfan, roedd hi'n sioc i nifer i weld capten y clwb yn gadael am un o glybiau eraill y Bencampwriaeth.
Mae Matt Grimes wedi bod yn un o sêr mwyaf cyson yr Elyrch dros y blynyddoedd, ond fe symudodd y chwaraewr canol cae i Coventry am ffi sydd heb ei ddatgelu.
I lenwi'r bwlch hwnnw, daeth Lewis O'Brien i mewn ar fenthyg o Nottingham Forest.
Daeth Hannes Delcroix - sydd wedi chwarae un gêm i Wlad Belg - i mewn hefyd ar fenthyg o Burnley tan ddiwedd y tymor.
Mae Melker Widell o Sweden wedi cael ei arwyddo o AaB Aalborg, ond mae o wedi dychwelyd i'w gyn-glwb tan ddiwedd y tymor.
Fe adawodd Azeem Abdulai, y chwaraewr canol cae 22 oed, am Leyton Orient am ffi sydd heb gael ei ddatgelu, tra bod sawl chwaraewr arall wedi gadael y clwb ar fenthyg hefyd; Josh Thomas i Drogheda United, Nathan Broome i Port Vale ac Andy Fisher i St Johnstone.
Wrecsam
![Ryan Longman](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/4847/live/d279df30-df1e-11ef-814c-5f7558660cab.jpg)
Fe sgoriodd Ryan Longman bedair gôl mewn 62 o gemau i Hull City
Roedd hi wedi bod yn Ionawr eithaf tawel i Wrecsam gyda'r Dreigiau ond yn arwyddo un chwaraewr newydd tan ddyddiau olaf y cyfnod trosglwyddo.
Cafodd Ryan Longman, 24, ei ddenu o Hull City am ffi sydd ddim wedi'i ddatgelu, gyda'r asgellwr yn arwyddo cytundeb tan ddiwedd tymor 2026/27.
Roedd clybiau yn y Bencampwriaeth - gan gynnwys Rhydychen - hefyd wedi dangos diddordeb yn arwyddo Longman, a sgoriodd pedair gôl mewn 62 o gemau i Hull.
Wedi ambell i ganlyniad siomedig, a diffyg goliau yn achosi rhwystredigaeth ar y Cae Ras, fe wnaeth Phil Parkinson arwyddo dau ymosodwr i roi hwb i'r llinell flaen.
Fe wnaeth y Dreigiau dalu ffi o dros £1m am ymosodwr Reading, Sam Smith, 26 - y tro cyntaf i'r clwb dalu gymaint am chwaraewr yn eu hanes.
Maen nhw hefyd wedi denu ymosodwr profiadol Burnley, Jay Rodriguez sydd wedi chwarae dros 150 o gemau yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Casnewydd
![Bryn Morris](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1800/cpsprodpb/8f3d/live/6b967ae0-dd79-11ef-902e-cf9b84dc1357.jpg)
Fe adawodd Bryn Morris am Harrogate ar ddechrau'r cyfnod trosglwyddo
Yn dilyn cyfnod heriol mae Nelson Jardin wedi ceisio cryfhau carfan Casnewydd yn ystod y cyfnod trosglwyddo.
Mae David Ajiboye wedi ymuno ar fenthyg o Peterborough United, ar ôl iddo dreulio hanner cynta'r tymor gydag Efrog yn y Gynghrair Genedlaethol.
Mae'r alltudion hefyd wedi arwyddo'r cefnwr chwith 21 oed, Tom Davies o Gaerdydd a'r golwr Lewis Webb a dreuliodd y tymor diwethaf gyda Chaernarfon yn y Cymru Premier, tra bod yr amddiffynnwr canol ifanc, Jaden Warner wedi ymuno o Norwich City.
Roedd 'na ergyd i'r Alltudion wrth i'r chwaraewr canol cae, Bryn Morris adael am Harrogate Town am ffi sydd ddim wedi ei ddatgelu.
Cafodd Jamie Miley ei adalw gan Newcastle United hefyd, tra bod Hamzad Kargbo, Josh Seberry, Nelson Sanca a Jac Norris hefyd wedi gadael ar fenthyg.
![Tom Bradshaw](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/3410/live/efe61bf0-df1f-11ef-814c-5f7558660cab.jpg)
Mae Tom Bradshaw wedi ymuno â'i gyd-Gymry Mark Harris a Will Vaulks yn Rhydychen
Mae rhai wynebau cyfarwydd i ddilynwyr y tîm rhyngwladol wedi newid clybiau ym mis Ionawr hefyd.
Mae'r asgellwr Rabbi Matondo wedi symud o Rangers yn yr Alban i Hannover 96 yn yr Almaen.
Ymunodd y chwaraewr canol cae ifanc, Charlie Crew â Doncaster Rovers ar fenthyg am weddill y tymor.
Fe symudodd Tom Bradshaw o Millwall i Rydychen, tra bod yr ymosodwr ifanc, Joe Taylor wedi ymuno â Huddersfield o Luton Town am ffi o fwy na £3m.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
- Cyhoeddwyd26 Ionawr