Pwy yw’r actorion Cymreig yn y gyfres The Rings of Power?

Rings of powerFfynhonnell y llun, Amazon Prime
  • Cyhoeddwyd

Gydag ail gyfres The Rings of Power, y ddrama ffantasi sy’n seiliedig ar fyd The Lord of the Rings JRR Tolkien, wedi ei rhyddhau ar Prime Video ac yn parhau nos Iau, pwy yw’r actorion o Gymru sy’n serennu unwaith eto yn y stori epig?

Mae rhai o’r Cymry oedd yn ffigyrau amlwg yn y gyfres gyntaf yn ôl i’r ail, ac yn cael dipyn go lew o amser sgrin, gyda thri ohonynt yn siaradwyr Cymraeg.

Morfydd Clark

Ffynhonnell y llun, Amazon Prime

“Morfydd Clark yw calon y gyfres,” meddai'r adolygydd Lowri Cooke. “Hi wrth gwrs yw Galadriel; os cofiwch chi Cate Blanchett wnaeth ei phortreadu hi yn y ffilmiau ar droad y mileniwm.

“O mam bach mae hi’n dod ag urddas a gravitas. Mae hi’n actores sy’n ymddangos yn arallfydol; mae gyda hi gymaint o bresenoldeb.”

Mae’r ffaith bod yr actores o Benarth yn siarad Cymraeg yn siŵr o fod yn help iddi ynganu iaith yr Elves, sef Sindarin, sydd wedi ei dylanwadu gan sŵn y Gymraeg.

Tybed a welwn ni fwy o enghreifftiau ohoni’n taflu ambell i air Cymraeg i mewn?

Owain Arthur

Ffynhonnell y llun, Amazon Prime

Owain Arthur, gynt o Rownd a Rownd, sy’n chwarae rhan Durin IV, tywysog y corachod sy’n byw yng nghrombil y mynydd yn Khazad-dûm.

“Falle welson ni lot o Morfydd Clark yn y bennod gyntaf o’r ail gyfres; Owain Arthur sy’n cael lle blaenllaw yn yr ail bennod,” meddai Lowri Cooke.

“Gan fod y gyfres gyntaf wedi cyflwyno’r holl gymeriadau... nawr rydyn ni’n cael ein plymio’n syth i fewn i’r stori.

“A chware teg mae 'na olygfa rhwng Durin a’i dad, y brenin, bobl bach mae’n ddirdynnol lle mae 'na ymddiheuro rhwng tad a mab, sôn am emosiwn!”

Mae Owain yn dod o Rhiwlas ger Bangor ac mae wedi siarad am y cyfle oedd i siarad Cymraeg gyda’i gyd-actorion ar y set: "Roedd yn braf iawn, yn enwedig yn y gyfres gyntaf pan oedden ni'n ffilmio yn Seland Newydd, gan ein bod ar ochr arall y byd, roedd cael y math yna o gartref oddi cartref yn helpu gyda’r hiraeth," meddai.

Trystan Gravelle

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Un arall o’r siaradwyr Cymraeg sy’n chwarae un o’r prif rannau yw Trystan Gravelle o Drimsaran ger Llanelli, cyn ddisgybl yn Ysgol y Strade.

Yn yr ail gyfres fe gawn ni syniad cliriach o stori ei gymeriad Pharazôn, brenin olaf Númenor, a’i ran yn y digwyddiadau sy’n siapio Middle Earth a’r frwydr yn erbyn Sauron, filoedd o flynyddoedd cyn cyfnod llyfrau Tolkien.

Meddai Morfydd Clark am siarad Cymraeg gyda Trystan ac Owain yn ystod y cyfnod ffilmio yn Seland Newydd:

“'Oedd bod yn rhan o hwn efo dau berson oedd yn siarad Cymraeg trwy'r amser gyda'i gilydd - o'n i'n meddwl fod Cymraeg fi yn well na mae wedi bod erioed. Ar ôl 10 mlynedd o fod yn Llundain, dwi wedi siarad mwy o Gymraeg yn Seland Newydd!”

Lloyd Owen

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Er iddo gael ei eni a’i fagu yn Llundain, gwreiddiau Cymreig sydd gan yr actor Lloyd Owen, sy’n chwarae rhan y capten Elendil o Númenor.

Roedd ei dad a’i fam yn Gymry a’r ddau hefyd yn actorion: roedd Glyn Owen, oedd yn fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Jack Rolfe yn Howard’s Way, yn byw yng Nghaernarfon ar ddiwedd ei oes, a Patricia Mort yn dod o Dreforys ger Abertawe.

Megan Richards

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mewn cyfweliad ar Radio Cymru fe soniodd Morfydd Clark hefyd am Megan Richards wrth sôn am gysylltiadau Cymreig y cast: “Mae lot o bobl Cymraeg yn y cast - ni efo Trystan Gravelle, Owain Arthur ond hefyd Lloyd Owen - mae ei dad e'n Gymraeg - ac mae Megan Richards efo tad Cymraeg. Felly mae'n rili hyfryd.”

Megan sydd yn actio rhan Poppy Proudfellow, un o’r Harfoot a ffrind Nori; mae wedi ei magu yn Llundain.

Ymhlith y Cymry amlwg eraill sydd wedi portreadu cymeriadau Middle Earth ar y sgrin yn y gorffennol mae John Rhys-Davies, sef Gimli y corrach, a Luke Evans, yr arwr Bard the Bowman yn The Hobbit.

Pynciau cysylltiedig