Pwllheli: Gadael hwyl parti Calan Gaeaf i ateb galwad frys
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i aelodau un o griwiau'r RNLI yn y gogledd adael parti Calan Gaeaf ar gyfer plant lleol yng ngorsaf y bad achub er mwyn ymateb i alwad frys.
Roedd y plant yng nghanol gêm ddawnsio disgo wrth i'r parti ddirwyn i ben yng ngorsaf bad achub Pwllheli pan ganodd ddyfeisiau'r gwirfoddolwyr i'w hysbysu bod argyfwng wedi codi.
Gwasanaeth Gwylwyr y Glannau oedd yn eu galw, am 16:46 brynhawn Sul, wedi i nam mecanyddol achosi i gwch hwylio 40 troedfedd fynd yn beryglus o agos at greigiau'r harbwr.
Bu'n rhaid gwagio'r neuadd wrth i'r achubwyr baratoi i fynd i roi cymorth, ac fe aeth rhai o'r plant, yn eu gwisgoedd ffansi, i'r traeth i wylio'r bad achub yn mynd i'r môr.
'Gwnaethon nhw'r peth cywir'
"Gyda'r gwynt yn codi a'r llanw ar fin troi, gwnaethon ni benderfynu mai'r peth mwya' diogel i'w wneud oedd tynnu'r cwch i Farina Pwllheli lle byddai timau Gwylwyr y Glannau o Gricieth ac Abersoch yn ein cwrdd," meddai Dave Williams oedd wrth y llyw.
"Cafodd aelod bad achub ei roi ar y cwch i helpu'r criw, oedd oll ag offer da ac yn gwisgo siacedi achub.
"Fe wnaethon nhw'r peth cywir trwy gysylltu â Gwylwyr y Glannau pan wnaethon nhw."
Roedd hi'n "gyffrous", medd cadeirydd codi arian RNLI Pwllheli, Alison Hayes, "i weld galwad frys yn digwydd o flaen ein llygaid".
"Hoffwn ni ddiolch i'r holl blant a'u rhieni am fod mor amyneddgar wrth i'w parti ddarfod ychydig funudau'n gynt na'r disgwyl, ond rydan ni'n meddwl bod o werth o [iddyn nhw] weld beth yw bad achub.
"Aeth llawer o'r parti i'r traeth hyd yn oed yn y glaw trwm a'r gwynt, yn eu gwisgoedd ffansi, i weld lansiad y bad achub.
"At ei gilydd roedd yn brynhawn ardderchog sy'n dangos i bawb pam mae codi arian mor bwysig o ran achub bywydau yn y môr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Medi 2024
- Cyhoeddwyd8 Mai 2024