Bad achub pob tywydd yn dychwelyd i Bwllheli wedi ffraeo
- Cyhoeddwyd
Fe fydd bad achub pob tywydd yn dychwelyd i Bwllheli ar gyfer ailddechrau hyfforddi ym mis Gorffennaf.
Yn gynharach eleni, fe gafodd bad achub dosbarth Shannon ei hatal rhag gweithredu a bu’n rhaid cau gorsaf bad achub Pwllheli am gyfnod oherwydd ffraeo rhwng aelodau o’r criw.
Roedd "methiant difrifol" yn y berthynas rhwng aelodau o'r criw yno, medd yr RNLI.
Mae dwy ran o dair o'r criw bellach wedi cytuno i ddychwelyd fel gwirfoddolwyr, ac mae ymgyrch recriwtio yn y gymuned leol.
Fe fydd cyfnod dwys o hyfforddiant yn dechrau ar gyfer yr aelodau newydd o’r criw ac ail-ymgyfarwyddo i'r criw presennol cyn i'r bad achub ddychwelyd yn swyddogol.
Mae aelodau'r criw gwirfoddol wedi cael eu canmol am eu hymrwymiad i hyfforddi tra bod bad yr orsaf yn cefnogi canolfannau RNLI eraill yn ardal Poole, Dorset.
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2024
Yn ôl Andy Vowell, Rheolwr Gweithrediadau'r Bad Achub ym Mhwllheli, mae’r newyddion yn galonogol tu hwnt.
“Nid yw'r orsaf wedi teimlo'r un fath heb fad achub Shannon a'r ffaith ei bod yn dod yn ôl yw'r bennod gyntaf yn ein dyfodol.”
“Mae'r ymateb i'n hymgyrch recriwtio yn dweud cyfrolau am y gefnogaeth sydd gennym gan y gymuned, ac rydym yn hynod ddiolchgar am hynny.”
“Bydd angen llawer iawn o ymrwymiad gan ein criw, ond rwy'n gwybod eu bod 100% yn barod i ddychwelyd i'r hyn maen nhw’n ei wneud orau."
Dywedodd Ryan Jennings, Arweinydd Achub Bywyd Rhanbarthol yr RNLI: "Roedd yn hanfodol bod y bad achub pob tywydd yn cael ei defnyddio i gefnogi gweithgareddau gweithredol mewn mannau eraill tra nad oedd yn weithredol ym Mhwllheli, gan fod dyletswydd arnom i sicrhau bod arian ein rhoddwyr yn cael ei ddefnyddio'n ddoeth.”
“Rydym wedi cael ein plesio'n fawr gan ymrwymiad a gwytnwch y criw. Maent bellach yn fwy na pharod i ddechrau hyfforddi ac mae'r amser yn iawn ar gyfer dychwelyd y Shannon.”
“Rydym yn hyderus y gallwn, drwy weithio gyda'n gilydd, ddarparu gorsaf bad achub gynaliadwy ym Mhwllheli am flynyddoedd lawer i ddod."