Angen mwy o hyfforddiant iechyd meddwl yng nghefn gwlad

Wyn Thomas ac ei giFfynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Wyn Thomas bod ansicrwydd am y dyfodol yn 'ofid mawr' i ffermwyr

  • Cyhoeddwyd

Mae undeb amaethyddol yn galw am hyfforddi mwy o bobl i adnabod arwyddion o iselder a phryder ymhlith ffermwyr.

Mae bron i dair mil o bobl wedi bod ar gwrs Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl sy’n cael ei redeg gan yr elusen wledig Sefydliad DPJ.

Ond yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) mae angen hyfforddi llawer mwy.

Yn y cyfamser, mae elusen sy’n cynnig cymorth i ffermwyr ynglŷn ag amrywiaeth o faterion, o gwblhau gwaith papur i broblemau iechyd meddwl, yn dweud bod ei gwaith achos wedi bod ar ei lefel uchaf erioed yn 2023.

Disgrifiad o’r llun,

Gareth Davies yw Prif Weithredwr elusen Tir Dewi

Cafodd Tir Dewi ei sefydlu yn 2015 i gynnig cymorth i ffermwyr a’u teuluoedd.

Eleni mae'r elusen - sydd â saith aelod o staff a thua 70 o wirfoddolwyr - wedi helpu 160 o ffermydd, gan weld tri achos newydd yr wythnos.

Dywedodd Prif Weithredwr yr elusen, Gareth Davies, fod cyfuniad o ffactorau yn gyfrifol am y cynnydd, gan gynnwys costau cynyddol yn arwain at bwysau ariannol ar ffermydd, ansicrwydd am gymorthdaliadau amaethyddol a hefyd y ffaith bod pobl yn fwy parod i drafod problemau iechyd meddwl.

Yn ôl Wyn Thomas, aelod o staff Tir Dewi: “Mae ansicrwydd yn ofid mawr, ansicrwydd am y dyfodol a beth sy’n mynd i ddigwydd gyda’r taliadau sengl ac yn y blaen.

"Mae TB wedi bod yn ofid yn ystod y flwyddyn eleni.

'Mae olyniant yn beth mawr'

"Ond hefyd ni’n gweld llawer o achosion sy’n ymwneud gyda anghymod o fewn teuluoedd.

"Mae olyniant yn beth mawr, mae ffermwyr yn mynd yn hŷn ac mae ansicrwydd ynglŷn â phwy sy’n mynd i’w dilyn nhw i mewn i’r busnes." 

Mewn ymateb, mae undeb amaethyddol yn galw am roi hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl i fwy o bobl i’w helpu i adnabod arwyddion pryder ac iselder ac i gynnig cefnogaeth lle mae ei angen.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin Jenkins yn dweud bod problemau iechyd anifeiliaid yn 'gwbl niweidiol' i iechyd meddwl ffermwyr

Dywedodd Elin Jenkins, swyddog polisi gydag UAC, fod ffermwyr yn teimlo dan bwysau am nifer o resymau.

“Dw i’n meddwl mai’r un mwyaf sy’n effeithio ar ffermwyr yw’r gwaith papur – mae’n achos straen mawr," meddai.

"Mae problemau iechyd anifeiliaid hefyd. Does dim byd mwy dinistriol i ffermwr na chael eich taro â'r diciâu.

"Mae’n gwbl niweidiol i iechyd meddwl unrhyw un... Mae yna ansicrwydd hefyd yn ymwneud â chyllid – [mae’n] eithaf aneglur ar hyn o bryd."

Mae UAC yn un o lawer o sefydliadau gwledig sydd wedi anfon staff ar hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl sy’n cael ei ddarparu gan Sefydliad DPJ, elusen sy’n cefnogi pobl yn y sector amaethyddol.

Dechreuodd Sefydliad DPJ roi Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl ym mis Awst 2018.

Ers hynny mae bron i 3,000 o bobl wedi derbyn yr hyfforddiant o wahanol feysydd gwaith gan gynnwys ffermwyr, milfeddygon, staff marchnadoedd da byw ac undebau ffermio. 

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwrs hyfforddiant wedi gwneud gwahaniaeth ymarferol, yn ôl Kay Helyar

Kay Helyar yw Rheolwr Hyfforddiant Sefydliad DPJ.

Dywedodd fod rhai o'r rheini sydd wedi cael yr hyfforddiant wedi cysylltu â hi i ddweud bod y cwrs yn gwneud gwahaniaeth ymarferol. 

"Ces i e-bost gan fenyw a oedd wedi defnyddio’r hyfforddiant i weld yr arwyddion bod rhywun yn ei theulu yn meddwl am hunanladdiad.

"Ac roedd hi'n gallu gofyn y cwestiwn anodd hwnnw, oherwydd ry’n ni'n delio gyda hynny ar y cwrs.

"Ac roedd hi’n gwybod, pan gafodd hi ateb cadarnhaol, roedd hi’n gwybod ble i gyfeirio’r person hwnnw am gefnogaeth ac mae’n teimlo bod yr hyfforddiant wedi achub bywyd y person hwnnw."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Elen Williams, dydi'r galw am gymorth 'ddim yn mynd i ddistewi'

Mae Elen Williams yn gweithio i Sefydliad DPJ yn y gogledd: “Dydy’r galw am gymorth efo iechyd meddwl ddim yn mynd i ddistewi.

"Da ni’n dal yn mynd i yrru 'mlaen efo’r gwaith fel elusennau amaethyddol a gweithio gyda’n gilydd. 

"Hyd yn oed os ydych chi’n gweithio yn y siop leol, yn y dafarn leol neu rywbeth yn y gymdeithas mae’r hyfforddiant yma ar gael i unrhyw un sy’n ymwneud â phobl mewn amaethyddiaeth.

"Os ydych chi’n gallu sylweddoli ar y pethau bach yna sy’n golygu nad ydyn nhw cweit yn iawn, ond ‘da chi ddim yn gwybod lle i droi neu sut i helpu nhw, wel mae’r hyfforddiant yma i chi."

Disgrifiad o’r llun,

Fe aeth Emily Jones ar y cwrs ar ôl gweld 'newid' yn ei chymuned leol

Fe wnaeth Emily Jones o Dregaron gofrestru ar y cwrs ar ôl gweld newidiadau yng nghymeriad pobl yn ei chymuned leol.

"Wrth siarad â phobl, do’n nhw ddim mor fywiog, doedd ganddyn nhw ddim y sbarc hwnnw amdanyn nhw ac ro’n i’n gallu gweld bod pobl yn dioddef ac yn cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl.

"Ro’n i eisiau ceisio helpu trwy estyn allan at bobl.

"Mae'n ddiwydiant unig iawn… ac ro’n i eisiau bod yn rhywun mae pobl yn gallu dod ati i siarad."

Stigma ymysg ffermwyr hŷn

Dros y blynyddoedd diwethaf bu mwy o ffocws ar drafod iechyd meddwl, a dywed Gareth Davies, Prif Weithredwr Tir Dewi, fod hyn wedi helpu i leihau’r stigma yn enwedig ymhlith ffermwyr iau.

Ond mae’r stigma’n dal i fodoli, meddai ymysg y to hŷn: “Os y’ch chi’n dweud wrth ffermwr, ‘Ry’ch chi’n amlwg yn cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl’, yna efallai y byddan nhw’n dweud, ‘O, felly nawr ry’ch chi’n meddwl fy mod i’n wallgo ar ben popeth arall.’

"Mae’n label nad y’n nhw’n defnyddio yn aml iawn, felly mae’n rhaid i ni fod yn ofalus. 

“Yr hyn maen nhw yn ei ddweud, mewn llawer o achosion, yw nad y’n nhw’n teimlo eu hunain neu nad y’n nhw’n cysgu'n dda, neu allan nhw ddim canolbwyntio ar wneud rhywbeth.

"Yr hyn maen nhw'n ei ddweud mewn gwirionedd yw eu bod yn cael trafferth gyda phethau fel gorbryder, gyda phethau fel iselder. 

“Dwi’n meddwl bod y ffaith ein bod ni’n profi’r lefelau uchaf erioed o achosion, yn rhannol oherwydd bod y sgwrs am iechyd meddwl wedi cael ei normaleiddio yn fwy, ond hefyd oherwydd bod cymaint o broblemau bellach o fewn y byd amaeth.”

Beth bynnag yw’r heriau sy’n wynebu ffermwyr, neges yr elusennau yw bod cymorth cyfrinachol ar gael.

Maen nhw’n annog ffermwyr i gysylltu wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer blwyddyn brysur arall yn 2024.

Pynciau cysylltiedig