'Angen trin dyfarnwyr pêl-droed gyda mwy o barch'
- Cyhoeddwyd
Mae dau o'r cynghreiriau sy'n cael eu heffeithio gan streic dyfarnwyr pêl-droed yng Nghaerdydd y penwythnos hwn wedi gohirio eu gemau.
Mae cynghreiriau'r Cardiff Combination a Chynghrair Dydd Sul Lazarou wedi dweud eu bod nhw wedi gwneud hynny i gefnogi safiad y dyfarnwyr.
Dyw Cynghrair Rhanbarth Caerdydd (Cardiff and District) ddim wedi gohirio gemau ond maen nhw wedi dweud wrth dimau nad oes raid iddyn nhw chwarae.
Ddechrau'r wythnos fe gyhoeddodd Cymdeithas Dyfarnwyr Caerdydd na fydden nhw'n cymryd rhan mewn gemau y penwythnos hwn mewn ymateb i achosion diweddar o gamdriniaeth.
Fe ddaeth y cyhoeddiad yn dilyn ymosodiad honedig ar ddyfarnwr yn dilyn gêm brynhawn Sul.
Un o'r timau sydd wedi eu heffeithio yw CPD Treganna - tîm newydd a gafodd ei sefydlu gan griw o ffrindiau dros yr haf. Maen nhw'n cystadlu yng Nghyngrair Cardiff Combination.
"Da' ni'n gutted - dan ni ishe chwarae pob penwythnos," meddai'r chwaraewr canol cae, Ifan Emyr.
Er hynny, meddai, mae'r tîm yn cefnogi streic y dyfarnwyr.
"Mae dyfarnwyr yn caru eu swydd nhw gymaint ag ydan ni'n caru chwarae pêl-droed. Maen nhw isho bod yna.
"Maen nhw'n cymryd amser mas dydd Sadwrn a dydd Sul i wneud y gwaith. Maen nhw angen cael eu trin gyda mwy o barch."
"Mae'n bwysig iawn bod y refs yn cael ein cefnogaeth," meddai Owen Edwards, is-gapten y tîm.
"Ar y cyfan mae ymddygiad pobl yn ein gemau ni wedi bod yn iawn ond mae 'na rai yn meddwl eu bod nhw'n gallu siarad â'r dyfarnwr fel maen nhw isho...
"Os yw hwnna am gario 'mlaen bydd mwy o refs yn stopio dyfarnu neu bydd mwy o streics maes o law."
Mae Cynghreiriau Cardiff Combination a Chynghrair dydd Sul Lazarou wedi gohirio gemau'r penwythnos er mwyn dangos cefnogaeth i'r dyfarnwyr.
Dywed Cynghrair Rhanbarth Caerdydd nad yw'r streic yn cael llawer o effaith arnyn nhw am fod timau'n gyfarwydd gyda chwarae heb ddyfarnwyr swyddogol bob penwythnos.
Maen nhw wedi dweud y gall timau ddewis a ydyn nhw am chwarae. Mae gwrthwynewbyr Clwb Sparta wedi dewis peidio chwarae.
Tra'n cydymdeimlo gyda'r dyfarnwyr maen nhw'n amau gwerth y streic.
"Dyw canlso un penwythnos ddim yn mynd i wneud llawer o wahaniaeth," meddai rheolwr y clwb, David Morgan.
"Mae angen arweiniad o'r top a chosb mwy difrifol ar dimau ar ddechrau'r tymor er mwyn newid eu hymddygiad."
Mae Cadeirydd Sparta, Cobi Flowers, yn poeni nad yw timau yn cymryd y sefyllfa o ddifri.
Mae sawl tîm wedi trefnu gemau gyfeillgar dros y penwythnos, meddai.
"A fydd y timau wedi newid, neu wedi cymryd unrhyw sylw o beth sydd wedi digwydd yr wythnos yma os maen nhw'n chwarae friendlies dros y penwythnos? Sa i'n siŵr," meddai.
'Mae pawb yn gwneud camgymeriadau'
Mae Matthew Jones wedi bod yn dyfarnu yn y gogledd ers 20 mlynedd, a dyw e ddim yn synnu fod dyfarnwyr Caerdydd wedi gweithredu.
Bu bron i ddyfarnwyr Eryri wneud yr un peth ychydig flynyddoedd yn ôl, meddai.
"Nid chwarae bach ydy gwneud rhywbeth fel hyn - mae 'na potential neith cymdeithasau eraill ddilyn yr un trywydd oni bai bod pethe'n gwella," dywedodd.
Mae e am weld y Gymdeithas Bêl-droed yn ganolog yn ymdrin â honiadau o fygwth, yn hytrach na'r cymdeithasau lleol.
Mae pawb yn gwneud camgymeriadau, meddai, ac mae angen derbyn fod hynny'n rhan o'r gêm.
"Ti'm yn mynd ar gae pêl-droed i benderfynu bod ti am gosbi rhif saith am faglu rhywun neu be bynnag - ti jyst yn trio dy orau i reoli'r gêm fel ti'n ei weld o.
"Y gwir ydy mi wyt ti'n 'neud camgymeriadau - llawer o gamgymeriadau - bob dydd Sadwrn a dyna sydd eisiau i chwaraewyr gofio."
Ar ddiwedd y dydd, meddai Owen Edwards o GPD Treganna, dim ond gêm yw hi.
"Mae pawb ishe ennill ond dydyn ni ddim mewn Champion's League final - mae pawb yn chwarae am hwyl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd24 Awst 2023
- Cyhoeddwyd31 Mai 2023