Arweinydd Cyngor Sir Gâr yn ymddiswyddo am resymau personol

Darren Price yn edrych tuag at y camera gyda choed ac adeilad gwyn yn y cefndir. Mae ganddo lygaid glas, gwallt brown ac yn gwisgo sbectol.Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Darren Price wedi ymddiswyddo fel arweinydd y cyngor

  • Cyhoeddwyd

Mae Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Darren Price, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo am resymau personol.

Dywedodd y cyngor mewn datganiad y bydd Mr Price yn parhau i wasanaethu fel cynghorydd Plaid Cymru dros ward Gorslas.

Yn ôl y cyngor, bydd y Dirprwy Arweinydd, Linda Evans, yn cyflawni dyletswyddau'r arweinydd dros dro nes i olynydd gael ei benodi.

Mae disgwyl i'r cyngor llawn benodi arweinydd newydd yn ystod cyfarfod ar 10 Rhagfyr 2025.

Cafodd Darren Price ei ethol yn arweinydd y cyngor ym mis Mai 2022 ar ôl i'r Cynghorydd Emlyn Dole golli ei sedd yn yr etholiadau lleol y flwyddyn honno.

Ar y pryd, dywedodd Mr Price fod ganddo "her aruthrol ond cyffrous" o'i flaen, gan addo adeiladu ar waith adfywio'r sir a chydweithio ag aelodau o bob plaid "er lles Sir Gâr".

Dywedodd AS Caerfyrddin Ann Davies fod gweithio gyda Mr Price dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn "bleser", gan ganmol ei broffesiynoldeb a'i ymroddiad.

Mae disgwyl i'r grŵp Plaid Cymru enwebu ymgeisydd ar gyfer arweinydd nesaf y cyngor, gyda'r penodiad yn cael ei gadarnhau yn y cyfarfod llawn ym mis Rhagfyr.

Straeon perthnasol