Y perygl o fatris lithiwm yn achosi tân 'yn cynyddu'

e-sgwteri melynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae lithiwm-ion yn cael eu defnyddio mewn nifer o ddyfeisiau gan gynnwys cerbydau trydan

  • Cyhoeddwyd

Mae'r perygl o dannau sy'n cael eu hachosi gan fatris lithiwm yn "cynyddu yn gyflym," yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Mae'r batris - rhai lithiwm-ion yn benodol - yn cael eu defnyddio mewn nifer o ddyfeisiau gan gynnwys cerbydau trydan, ffonau symudol, gliniaduron ac e-sigaréts.

Daw'r rhybudd diweddaraf ar ôl i saith o bobl gael eu cludo i'r ysbyty yn gynharach eleni ar ôl i sgwter sy'n cynnwys un o'r batris yma fynd ar dân mewn cartref yng Nghaerdydd.

Galw ar bobl i gael gwared â'r batris yn gywir y mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ar ôl i nifer o dannau gael eu hachosi o ganlyniad i bobl yn peidio â'u trin yn gywir wrth eu taflu.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, cafodd 136 o dannau yn gysylltiedig â batris lithiwm-ion eu cofnodi yn ne Cymru rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2025 - gyda 100 o'r rheiny yn digwydd yn y ddwy flynedd diwethaf.

Roedd 39 o'r tannau hynny yn ymwneud ag e-sgwteri neu e-feiciau.

Cafodd 26 o ddigwyddiadau yn gysylltiedig â batris lithiwm-ion eu cofnodi gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn yr un cyfnod, tra bod 62 wedi eu cofnodi gan Wasanaeth Tân ac Achub y Gogledd.

'Ffrwydrad fel tân gwyllt'

Mae tymheredd y batris yn gallu cynyddu yn sgil adweithiau cemegol, sydd wedyn yn "gallu arwain at dân, ffrwydrad ac ymddygiad tân anrhagweladwy," yn ôl Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân.

"Y risg mwyaf sy'n gysylltiedig â'r e-sgwteri yma yw'r batris lithiwm-ion a'r gwres sy'n gallu cael ei gynhyrchu ganddynt," meddai Marc Davies, rheolwr diogelwch cartref o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Dywedodd Mr Davies fod nifer o ffactorau sy'n gallu arwain at berygl o dân gan gynnwys diogelwch a sefydlogrwydd y batri, a bod tymheredd mewnol y batri yn aros o fewn terfynau penodol.

"Os yw'n mynd yn rhy boeth, mae'n gallu arwain at ffrwydrad fel tân gwyllt."

Roedd ffactorau eraill, meddai, yn cynnwys cydrannau o safon isel, dyluniad gwael, difrod yn sgil defnydd dros amser a'r math o bwynt gwefru sy'n cael ei ddefnyddio.

Ychwanegodd Mr Davies y dylai pobl wneud gwaith ymchwil cyn prynu dyfeisiau sy'n cynnwys batris o'r fath, gan rybuddio hefyd nad yw eitemau ffug, neu anghyfreithlon, yn aml yn cyd-fynd â safonau diogelwch.

ffôn symudolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o ffonau symudol a dyfeisiau gwefru hefyd yn cynnwys batris lithiwm

Dywedodd llefarydd ar ran Electrical Safety First - elusen sy'n ceisio lleihau nifer yr anafiadau a marwolaethau sy'n cael eu hachosi gan drydan yn y DU - fod tannau sy'n cael eu hachosi gan fatris e-sgwteri ac e-feiciau yn digwydd ar hyd a lled y wlad.

"Mae'r tannau hyn yn arbennig o beryglus oherwydd yr ynni sy'n cael ei ryddhau os yw'r batri yn methu, mae hynny'n gallu achosi proses sydd bron yn amhosib i'w stopio," meddai'r llefarydd.

Mae CNC a'r gwasanaeth tân wedi rhybuddio fod batris o'r fath hefyd wedi arwain at dannau ar safleoedd gwastraff.

Mae tannau fel hyn yn rhyddhau nwyon niweidiol a mwg sydd yn gallu peri risg sylweddol i bobl a'r amgylchedd, yn ôl CNC.

Fe all sgil effeithiau tannau mewn safleoedd gwastraff hefyd lygru dŵr, meddai'r rheoleiddiwr amgylcheddol, sydd wedyn yn arwain at broblemau hirdymor sydd yn anodd ac yn ddrud i'w datrys.

Dywedodd Nia Brunning, arweinydd tîm rheoleiddio a gorfodaeth gyda CNC, fod tannau nid yn unig yn niweidio'r amgylchedd, "ond maen nhw hefyd yn peryglu cymunedau a'r gwasanaethau brys".

Pynciau cysylltiedig