Dedfrydu dyn am ymosod ar blismyn yn ystod terfysg Trelái

McKenzie DanksFfynhonnell y llun, Athena Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd McKenzie Danks ei ddedfrydu i 12 wythnos o garchar, wedi'i ohirio am 12 mis

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 22 oed o Gaerdydd wedi cael dedfryd o garchar wedi ei ohirio ar ôl cyfaddef ymosod ar ddau blismon yn ystod y terfysg yn ardal Trelái ddwy flynedd yn ôl.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod McKenzie Danks o ardal Caerau wedi gwthio un swyddog a thaflu esgid at un arall, ond heb achosi anaf, yn ystod cyfnod cynnar yr anhrefn ym mis Mai 2023.

Cafodd y terfysg ei sbarduno gan farwolaeth dau fachgen.

Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15 mewn gwrthdrawiad beic trydan yn Nhrelái ar 22 Mai 2023.

Wrth ddedfrydu Danks, dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke ei bod yn derbyn ei "edifeirwch diffuant" am ei weithredoedd, gan ei ddedfrydu i 12 wythnos o garchar, wedi'i ohirio am 12 mis.

Cafwyd Danks yn ddieuog ar gyhuddiad ar wahân o derfysg ym mis Hydref eleni ond ddydd Mercher dywedodd y Barnwr Lloyd-Clarke fod yn rhaid gweld ei weithredoedd "yng nghyd-destun" y terfysg o'i gwmpas.

Beth wnaeth Danks?

Clywodd y llys fod Danks wedi cyrraedd Ffordd Snowden ar 22 Mai 2023 ar ôl clywed am wrthdrawiad ffordd yn cynnwys dau fachgen, ac iddo ddeud celwydd ei fod yn frawd i un ohonyn nhw.

Roedd yn "rwystr goddefol" i swyddogion ac "ni ufuddhaodd i geisiadau i symud yn ôl ac roedd yn rhaid ei symud yn gorfforol ar adegau".

Ar un adeg cafodd ei "wthio'n ôl" gan swyddog yr heddlu ac yna syrthiodd dros feic.

"Fe wnaeth hynny dy wneud yn flin," meddai'r Barnwr Lloyd-Clarke wrth ddedfrydu.

"Dy ymateb oedd codi a gwthio PC Attwell. Collaist dy esgid 'slider' a'u codi nhw a'u taflu fesul un at PC Rogers."

Clywodd y llys nad oedd PC Thomas Attwell a PC Daniel Rogers wedi'u hanafu ond dywedodd y Barnwr Lloyd-Clarke fod gweithredoedd Danks "yn sicr wedi achosi ychydig o bryder i'r swyddogion".

"Roeddet ti'n defnyddio dy esgidiau fel taflegryn ac rwy'n ystyried hynny fel defnyddio arf neu'r hyn sy'n cyfateb i hynny," ychwanegodd.

Trelai
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau eu taflu at yr heddlu yn yr anhrefn

Clywodd y llys fod McKenzie Danks newydd droi'n 20 oed ar adeg y drosedd ac roedd yn "anaeddfed" ond yn "wir edifeiriol" am ei weithredoedd.

Dywedodd ei fargyfreithiwr Hannah Friedman wrth y llys fod Danks â swydd llawn amser ond ei fod yn "cael trafferthion enfawr" gyda bil cyfreithiol "mawr iawn" o'r achos llys pum wythnos a wynebodd fis Hydref.

Cafodd Danks ei ddedfrydu i 12 wythnos o garchar, wedi'i ohirio am 12 mis, am ymosod ar ddau swyddog heddlu trwy guro.

Mae hefyd wedi cael ei orchymyn i gyflawni 200 awr o waith di-dâl a thalu costau a thâl dioddefwr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.