Pryderon am y broses o ddwyn gwasanaethau tân i gyfrif

Person mewn gwisg tan
  • Cyhoeddwyd

Mae adroddiad ynglŷn â rôl awdurdodau tân ac achub Cymru wedi codi pryderon ynglŷn â pha mor effeithiol ydyn nhw wrth ddwyn Gwasanaethau Tân i gyfrif.

Yn ôl Swyddfa Archwilio Cymru, mae yna bryder nad oes gan nifer o aelodau awdurdodau tân y wybodaeth sydd ei hangen i gyflawni eu gwaith yn effeithiol.

Doedd trosiant uchel o aelodau ddim yn help, meddai’r adroddiad.

Tra bod cyfrifoldebau allweddol o ran gwneud penderfyniadau wedi'u nodi'n glir, doedden nhw ddim wastad yn cael eu rhoi ar waith. Roedd hyn, meddai'r adroddiad, yn gwanhau effeithiolrwydd llywodraethu.

Ac er bod yr aelodau eu hunain yn aml yn teimlo bod ganddyn nhw ddealltwriaeth dda o'u cyfrifoldebau, doedd hynny ddim wastad yn amlwg yn y ffordd yr oedden nhw’n gweithredu.

Dechreuodd astudiaeth Archwilio Cymru cyn i Lywodraeth Cymru benodi pedwar Comisiynydd i redeg awdurdod tân ac achub De Cymru ym mis Chwefror 2024 ar ôl adroddiad damniol am aflonyddu rhywiol a chasineb tuag at ferched.

Mae'r awdurdodau tân ac achub yn gyfrifol am hyrwyddo diogelwch tân, ymladd tân, ymateb i ddamweiniau ffyrdd a delio ag argyfyngau eraill. Mae cynghorwyr yn cael eu henwebu i wasanaethu arnyn nhw.

Mae’r adroddiad yn dweud fod risg nad oes gan aelodau etholedig y sgiliau na’r wybodaeth angenrheidiol i allu cyflawni eu gwaith yn effeithiol ac mae’n nodi bod angen i awdurdodau tân ac achub ddarparu hyfforddiant sylweddol i aelodau.

Mae’n dweud efallai na fydd hyn yn ddigon i liniaru’r risg yma oherwydd trosiant uchel o aelodau ac mae maint yr awdurdodau yn ei gwneud hi’n anodd datblygu aelodaeth “wybodus sydd â diddordeb”.

Ychwanegodd fod penodi aelodau awdurdodau tân ac achub o gynghorau lleol hefyd wedi arwain at ddiffyg amrywiaeth.

Mae mwyafrif aelodau'r Awdurdod yn ddynion, gydag ychydig iawn ohonyn nhw o gefndir du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig, meddai.

Angen 'adolygu'r model llywodraethu'

Mae Archwilio Cymru wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r model llywodraethu i sicrhau bod gan aelodau awdurdodau tân ac achub y wybodaeth a’r arbenigedd priodol i allu cyflawni eu gwaith a sicrhau atebolrwydd.

Maen nhw hefyd yn galw ar awdurdodau tân ac achub i wella hyfforddiant ac i werthuso effeithiolrwydd yr hyfforddiant hwnnw.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn croesawu adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol.

"Rydym eisoes yn edrych ar gynigion i ddiwygio a chryfhau’r trefniadau presennol i fynd i’r afael â phroblemau llywodraethu a diwylliant yn y Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru.”