Pennaeth gwasanaeth tân y de yn 'fwli', medd swyddog undeb

Stuart MillingtonFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân y De
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd gwasanaeth tân y de nad oedd gan Mr Millington "sylw i'w wneud ar y mater hwn"

  • Cyhoeddwyd

Mae pennaeth dros dro Gwasanaeth Tân De Cymru wedi cael ei alw yn "fwli" gan un o brif gynrychiolwyr undeb y frigâd dân.

Cafodd Stuart Millington ei benodi gan gomisiynwyr ar ran Llywodraeth Cymru ddechrau'r flwyddyn yn dilyn adroddiad damniol am y diwylliant o fewn y gwasanaeth.

Ond yn ôl Cerith Griffiths o Undeb y Frigâd Dân (FBU), mae pethau wedi "gwaethygu" dan arweiniad Mr Millington.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru nad oedd gan Mr Millington sylw i wneud ar y mater.

Mae Stuart Millington yn wynebu tribiwnlys cyflogaeth yn gysylltiedig â'i waith fel dirprwy brif swyddog tân gyda Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru.

Ym mis Chwefror, fe benderfynodd y llywodraeth y dylai comisiynwr redeg gwasanaeth tân y de.

Cafodd Mr Millington ei benodi fel pennaeth dros dro'r gwasanaeth ym mis Chwefror 2024.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cerith Griffiths o undeb y frigâd dân yn dweud "nad ydi pethau wedi newid... os rhywbeth maen nhw wedi gwaethygu"

Mae Cerith Griffiths yn cynrychioli Cymru ar bwyllgor gweithredol Undeb y Frigâd Dân.

Dywedodd mai nod y penodiad oedd newid y diwylliant a’r gwerthoedd, ond fod y pennaeth dros dro newydd yn canolbwyntio ar “ymosod ar delerau ac amodau aelodau” yn hytrach na mynd i’r afael â’r problemau a godwyd yn yr adroddiad damniol.

Ychwanegodd ei fod wedi "siarad gyda sawl unigolyn" sydd wedi awgrymu fod Mr Millington yn "delio gyda pethau sydd ddim fel bydde ni'n disgwyl wrth rywun sy'n rhedeg y gwasanaeth, ac sydd yn gweithio yn y rôl fel prif swyddog tân".

Mae hefyd wedi galw Mr Millington yn “fwli”.

Ychwanegodd ei fod yn ymddangos "nad ydi pethau wedi newid... os rhywbeth maen nhw wedi gwaethygu".

Cynnig o ddiffyg hyder

Fe wnaeth aelodau o Undeb y Frigâd yn ne Cymru basio cynnig o ddiffyg hyder yn Mr Millington ym mis Chwefror.

Fe wadodd Mr Griffiths nad oedd diffoddwyr tân wedi rhoi cyfle iddo, gan ddweud: "O ystyried rhai o'r pryderon gafodd eu codi ganddon ni... roedd yna gyfiawnhad i gymryd y penderfyniad hwnnw.”

Dywedodd gwasanaeth tân y de nad oedd gan Mr Millington "sylw i'w wneud ar y mater hwn".