Arestio dyn wedi adroddiadau am docynnau ffug i gigs Oasis

Roedd Oasis yn perfformio yn Stadiwm Principality nos Wener a nos Sadwrn diwethaf
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 42 oed wedi cael ei arestio yn dilyn adroddiadau bod unigolyn wedi bod yn gwerthu tocynnau ffug ar gyfer cyngherddau Oasis.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o dwyll trwy gynrychiolaeth ffug.
Mae'n parhau yn y ddalfa ac mae'r llu wedi lansio ymchwiliad.
Daw wedi i ffans honni eu bod wedi prynu tocynnau ar gyfer cyngherddau diweddar y band yng Nghaerdydd, ond na chafon nhw'r tocynnau gan y gwerthwr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl