Ysgolion ar gau wrth i amodau rhewllyd barhau yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae degau o ysgolion ar gau eto ddydd Gwener wrth i dywydd rhewllyd barhau yng Nghymru.
Mae 29 o ysgolion ar gau yng Ngwynedd, dolen allanol, 21 yn Sir Ddinbych, dolen allanol a 12 yn Sir Conwy, dolen allanol.
Mae rhai ysgolion ar gau hefyd yn Sir y Fflint, dolen allanol, Ceredigion, dolen allanol a Sir Gaerfyrddin, dolen allanol oherwydd yr amodau rhewllyd.
Ond mae nifer o'r ysgolion yn nodi eu bod ar agor i ddisgyblion sy'n sefyll arholiadau ddydd Gwener.
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf ar wefannau'r cynghorau sir unigol.
Roedd dau rybudd melyn am rew mewn grym fore Gwener - un ar gyfer mwyafrif Cymru a ddaeth i ben am 10:00 ac un ar gyfer mwyafrif siroedd y de a ddaeth i ben am 11:00.
Roedd dros 80 o ysgolion ar gau yng Nghymru ddydd Iau yn dilyn y noson oeraf y gaeaf yma hyd yn hyn.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi annog unrhyw un sy'n bwriadu ymweld ag Eryri dros y penwythnos i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r peryglon a pharatoi'n gywir.
Daw wedi i gwpl a'u ci gael eu hachub o fynydd Carnedd y Filiast yn y Glyderau ddydd Iau ar ôl colli eu ffordd yn yr eira.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 awr yn ôl