Morgannwg yn penodi Richard Dawson yn brif hyfforddwr dros dro
- Cyhoeddwyd
Mae clwb criced Morgannwg wedi penodi Richard Dawson yn brif hyfforddwr tan ddiwedd y tymor.
Fe enillodd Dawson y Cwpan Undydd yn ystod ei gyfnod fel prif hyfforddwr Sir Gaerloyw, ac mae hefyd wedi bod yn rhan o dîm hyfforddi Lloegr ers 2021.
Roedd Morgannwg wedi bod yn chwilio am brif hyfforddwr newydd ar ôl i Grant Bradburn adael y rôl ym mis Rhagfyr yn dilyn cyhuddiad o gamymddwyn gan y rheolydd criced annibynnol.
Wedi'r penodiad ddydd Llun, dywedodd Dawson ei fod yn "edrych ymlaen at ymgymryd â'r rôl ac i adeiladu ar lwyddiant y clwb yn y gystadleuaeth 50 pelawd y llynedd".
Fe fydd Dawson yn dechrau ei gyfnod fel prif hyfforddwr dros dro ym mis Mawrth, tra bod Morgannwg yn dweud eu bod yn bwriadu penodi hyfforddwr ar gyfer Cwpan Undydd 2025 "yn y misoedd i ddod".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd23 Medi 2024