Dylan Jones yn ymddeol o raglenni newyddion y BBC

Dylan JonesFfynhonnell y llun, Rhodri Clark
Disgrifiad o’r llun,

Dylan Jones yn darlledu o'i gartref yn Ninbych yn 2024

  • Cyhoeddwyd

Wedi dros 30 mlynedd o ohebu a chyflwyno rhaglenni newyddion BBC Cymru, mae Dylan Jones wedi penderfynu ymddeol.

Bu'n cyflwyno ei raglen olaf o Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru ddydd Gwener.

Dywedodd ei fod yn "hynod falch o'r cyfle i gael gweithio i adran newyddion y BBC am gyhyd".

Bydd yn parhau i gyflwyno'r rhaglen bêl-droed Ar y Marc ar foreau Sadwrn.

'Cyfle rŵan i ymlacio a bod yn daid'

Dylan Jones yn siarad ar Dros Frecwast am y profiad "chwerw-felys" o ymddeol

Ers 1990 mae Dylan wedi gohebu ar rai o ddigwyddiadau newyddion mawr Cymru, Prydain a'r byd.

Ond fe ddechreuodd ddarlledu i'r BBC yn 1986.

Bryd hynny roedd yn athro hanes a gwleidyddiaeth yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug.

Anfonodd lythyr i'r BBC yn dweud fod ganddo ddiddordeb mewn pêl-droed a'i fod yn awyddus i roi tro ar adrodd ar rai gemau ar brynhawniau Sadwrn.

Dylan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dylan Jones ar flaen cylchgrawn Spec yn 1988

Ar ôl sawl blwyddyn o ohebu ac adrodd ar gemau pêl-droed, fe newidiodd ei yrfa'n llwyr yn dilyn trychineb Hillsborough ym mis Ebrill 1989.

"Doedd Nic Parry na John Hardy ar gael y diwrnod hwnnw i fynd fyny i stadiwm Hillsborough i wneud y gêm rhwng Nottingham Forest a Lerpwl.

"Dyma fi'n mynd yn meddwl mai dim ond adroddiad gêm oedd ei angen, ond fe newidiodd hynny'n sydyn," meddai.

O fewn 10 munud o'r gic gyntaf, fe drodd adroddiad ar gêm bêl-droed yn stori drasiedi nad oedd erioed wedi'i gweld o'r blaen ar faes pêl-droed ym Mhrydain.

Roedd Dylan nawr yn adrodd ar stori newyddion, roedd yn ddibrofiad yn y maes yma, ond roedd yn rhaid iddo addasu.

Dylan Jones a Dylan Llewelyn
Disgrifiad o’r llun,

Dylan Jones yn ymweld â stadiwm Hillsborough gyda Dylan Llewelyn

Yn dilyn y digwyddiad a'r ffordd y gwnaeth Dylan ymateb i'r trychineb, fe gafodd gynnig swydd yn yr adran newyddion.

Dyma droi ei gefn ar y byd addysg a throi'n newyddiadurwr llawrydd oedd yn gweithio yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

Bulger, Diana a Dunblane

"Y diweddar Gwilym Owen roddodd y swydd i mi ond mae'n rhaid i mi dalu teyrnged hefyd i bennaeth Ysgol Glan Clwyd, ble o'n i'n dysgu ar y pryd, Glyn Jones, am drin y sefyllfa mor dda," meddai.

Roedd Dylan yn gweithio yn swyddfa'r BBC yn Yr Wyddgrug ac un o'r straeon cyntaf iddo weithio arni oedd diflaniad amheus Trevaline Evans, y perchennog siop hen bethau o Langollen.

Am ei fod yn gweithio'n agos at y ffin, roedd Dylan yn cael ei anfon yn aml i wneud straeon mawr yn Lloegr.

"Un o'r rheiny oedd diflaniad James Bulger yn 1993. Prin o'n i'n gwybod y ffeithiau pan ges i alwad i fynd draw i Lerpwl. Dim ond bachgen ar goll oedd y newyddion ar y pryd.

"Nes i ddilyn yr achos yna'n ofalus ac roeddwn yn y llys yn dilyn yr achos yn erbyn y ddau fachgen bach arall oedd wedi'u cyhuddo o'i lofruddio."

Dylan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dylan yn gohebu yn 1994

Ychwanegodd: "Roedd hwnna'n achos anodd i mi fel rhiant, roedd gen i blant fy hun o gwmpas yr un oed â James Bulger, ac roedd yr effaith a gafodd y digwyddiad ar ddinas Lerpwl yn un enfawr.

"Ond yno o'n i yn gohebu ac yn cwrdd â Chymry Lerpwl oedd wastad yn barod i helpu, yn yr un modd Heddlu Glannau Merswy oedd gyda pharch mawr at y Gymraeg," meddai.

Dros y blynyddoedd daeth rhagor o straeon mawr fel trychineb ysgol Dunblane a marwolaeth y Dywysoges Diana.

Dyman ym Mharis
Disgrifiad o’r llun,

Dylan yn darlledu ym Mharis yn dilyn marwolaeth y Dywysoges Diana ym mis Awst 1997

Daeth ei raglen radio gyntaf yn 2002, ac yna daeth syniad i greu rhaglen amser cinio oedd yn rhoi cyfle i wrandawyr ymateb i straeon y dydd - Taro'r Post.

"Mae'n rhaid i mi ddeud fod cyflwyno Taro'r Post yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa," meddai.

"Yn aml doedd 'na neb ar gael i roi safbwynt penodol ar stori i'w gneud hi'n gytbwys, felly ro'n i'n gorfod chwarae'r rhan yna weithiau a chael fy lambastio ar brydiau o geisio cadw'r ddysgl yn wastad, ond roedd o'n lot o hwyl."

Dylan yn cyflwyno Taro'r Post
Disgrifiad o’r llun,

Y diweddar Brynle Williams - ffrind da i Taro'r Post yn rhoi ei farn ar faes y sioe Frenhinol

Ynghanol y gwaith radio, roedd Dylan hefyd yn cyflwyno'r Clwb Pêl-droed ar S4C rhwng 2006-08 a rhaglen materion cyfoes, Taro Naw, gan gynnwys rhaglenni arbennig gyda Noel Thomas am sgandal y Swyddfa Bost a ddaeth â'r stori i amlygrwydd am y tro cyntaf.

Ar ôl degawd o gyflwyno Taro'r Post fe symudodd Dylan i weithio yn y boreau a chyflwyno'r Post Cyntaf a Rhaglen Dylan Jones.

Daeth ei gyfnod o godi'n gynnar i ben pan ddaeth yn gyflwynydd Post Prynhawn yn 2021.

Dylan yn Bordeaux
Disgrifiad o’r llun,

Dylan a chriw Ar y Marc yn darlledu yn Bordeaux cyn gêm gyntaf Cymru yn Euro 2016

Er bod Dylan yn gadael yr adran newyddion, mae'n dweud ei fod yn falch iawn o allu parhau i gyflwyno Ar y Marc.

Mae'r rhaglen yn rhedeg yn ddi-dor ers 1992, gyda Dylan yn cyflwyno ers y rhaglen gyntaf un.

"Chwe rhaglen oedd hi fod yn wreiddiol, ond mwy na 30 mlynedd yn ddiweddarach mae hi dal yn rhan o amserlen fore Sadwrn Radio Cymru," meddai.

"Drwy gyflwyno'r rhaglen yma daeth uchafbwynt arall o fy ngyrfa, a hynny drwy gael dilyn Cymru yn Euro 2016 yn Ffrainc.

"Na'i byth anghofio cyflwyno Ar y Marc o Bordeaux cyn y gêm gyntaf yn erbyn Slofacia, a'r lle yn llawn Cymry oedd yn eu hwyliau."

Ffordd Ffarrar
Disgrifiad o’r llun,

Dylan a chriw Ar y Marc yn cyflwyno rhaglen fyw o ystafell newid Ffordd Farrar Bangor cyn y gêm olaf un yn y stadiwm

Mae Dylan yn dweud ei fod yn falch iawn o'r holl gyfleodd y mae wedi ei gael ac yn ddiolchgar iawn i'r staff i gyd sydd wedi gweithio ar ei raglenni.

"Mae cymaint o gyd-weithwyr y gallwn restru yma o ran diolch iddyn nhw i gyd, maen nhw i gyd wedi chwarae rhan bwysig yn fy ngyrfa," meddai.

Dywedodd Dafydd Meredydd, Golygydd BBC Radio Cymru: "Mae Dylan wedi bod yn gwmni difyr i gynifer ohonom drwy gyfrwng ei raglenni ar Radio Cymru dros y blynyddoedd.

"Hoffwn ddiolch iddo am ei wasanaeth ac am yr holi a'r stilio brwd.

"Byddwn yn parhau i'w glywed yn trin a thrafod y bêl gron Ar y Marc a dwi mor falch y bydd o'n dal i wylio'r goliau."