'Ffaelu rhoi pris' ar y profiad o faethu
- Cyhoeddwyd
Mae sefydliad Maethu Cymru yn rhybuddio bod rhaid "chwalu'r camsyniadau" o faethu i fynd i'r afael â galw cynyddol y system ofal.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf mae dros 7,000 o blant yn y system ofal yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda dim ond 3,800 o deuluoedd maeth ar gael.
Mae'r sefyllfa bresennol yn "heriol iawn", meddai Maethu Cymru.
I rai teuluoedd maeth mae'r profiad yn gallu bod yn anodd, ond mae hefyd yn "fendith" ac yn "amhrisiadwy".
I Lydia Power a'i theulu, mae maethu wedi bod yn "fendith".
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Lydia wedi bod yn ofalwr maeth seibiant - yn derbyn plant am gyfnodau byr fel bod gofalwyr maeth hir dymor yn gallu cael saib.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd bod y profiad wedi bod yn "agoriad llygaid" iddi hi a'i gŵr, ond hefyd i'w plant eu hunain.
- Cyhoeddwyd22 Awst 2023
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2024
"Ma'r profiad wedi bod yn fendith i'n bywydau ni, yn enwedig ein plant ni," meddai.
"Mae'n agor llygaid ein plant ni i'r ffaith, ambell waith, bod bywyd ddim yn deg i rai pobl a dyw eu profiadau nhw ddim yr un peth.
"Mae 'di rhoi cyfle iddyn nhw, hyd yn oed eu hoedran nhw, i deimlo fel ma' nhw'n gallu helpu trwy jest caru pobl eraill.
"Mae'n swnio'n syml iawn – ond fi 'di gweld sut ma' nhw wedi aeddfedu trwy'r broses.
"Ambell waith yn iste lawr a gwylio plant ni yn chwarae gyda'r plant – ti ffaelu rhoi pris ar hwnna."
'Gwneud gwahaniaeth i'w bywydau'
Er hyn, mae hefyd yn cydnabod bod cyfnodau anodd gyda'r broses, a theimlad o "alar" pan mae'r plant yn symud ymlaen.
"Ni di cal dau fachgen ar wahân, ni di cal dwy ferch - chwiroydd - a gaethon ni am y flwyddyn gyfan - bron pob mis.
"So daethon ni rili i 'nabod y merched yna a chael perthynas lyfli gyda nhw."
Cafodd y ddwy ferch eu mabwysiadu, a gadael Lydia yn "gymysg o emosiynau".
"Chi mor hapus bod pethau yn gweithio mas, bod nhw'n mynd i gael teulu sy'n mynd i garu nhw am weddill eu bywydau.
"Ond wedyn achos bod ti wedi dod i 'nabod nhw a dod i garu nhw dy hunain, ma' 'na sense o golled.
"I gallu chwarae rôl ym mywydau'r merched yna, ma' fe'n fraint i fod yn onest - mae'n tynnu ar eich calon chi.
"Chi'n gweld y gwahaniaeth mae'n 'neud i'w bywyd nhw."
Yn ôl Meinir Bebb, swyddog marchnata rhanbarthol Maethu Cymru, mae'r sefyllfa bresennol yn "heriol iawn".
"Bron 'da ni ddim yn cyrraedd hanner y plant sydd mewn gofal ar hyn o bryd," meddai.
Esboniodd bod gan Maethu Cymru nod o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026.
"Be' 'da ni angen sicrhau yw bod gyda ni ddigon o ofalwyr maeth newydd yn dod i fewn ar gyfer pan mae rhai yn ymddeol, ac wrth gwrs, ma' 'na fwy a mwy o blant yn dod mewn i ofal."
Ychwanegodd, heb ddigon o ofalwyr maeth, fe allai plant gael eu gorfodi i symud o'u cymunedau ac i ffwrdd o "bob dim sydd yn bwysig iddyn nhw".
Ond mae Meinir hefyd yn rhybuddio bod angen "chwalu'r camsyniadau" sy'n gysylltiedig â maethu.
"Pan 'da ni'n mynd allan i'r gymuned i siarad efo pobl neu mynd i ddigwyddiadau, ma' 'na bobl yn dod atom ni yn deud 'dwi wedi bod yn meddwl am faethu erioed', ond ma' llawer iawn o bobl wedi penderfynu yn barod efallai bod nhw ddim yn gymwys i wneud am wahanol resymau."
'Gwneud dim yn wahanol'
Un arall sydd wedi estyn llaw i blant mewn gofal yw Gwen Sills.
Wedi dros 10 mlynedd o faethu ym Manceinion ac yng Nghonwy, dywedodd bod ei siwrne maethu hi a'i theulu "ymhell o fod ar ben".
"'Da ni 'di cael babis, plant yn eu harddegau, plant hefo anghenion, plant hefo sialensiau eraill," meddai.
"Ma'r plant sy'n dod atom ni, ma' nhw'n dod efo anghenion fel arfer.
"Ma' nhw un ai isio lot o sylw neu dim sylw – 'da ni'n gorfod meddwl sut fedrwn ni helpu'r plentyn yna a ma' isio bod yn sensitif iawn."
Er iddi hi hefyd gydnabod bod yna heriau wrth faethu, dywedodd bod ei phlant ei hun wedi elwa o'r broses.
"Ma'r plant yma 'di tyfu fyny efo empathi i blant eraill fysa ti ddim yn gallu talu amdano.
"Ma' ganddyn nhw'r amynedd, yr emosiwn - i ni fel teulu fyswn i wedi 'neud dim byd yn wahanol."