Menyw, 70, yn pledio'n euog i achosi marwolaeth babi wyth mis oed
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 70 oed wedi cyfaddef iddi achosi marwolaeth babi wyth mis oed mewn gwrthdrawiad y tu allan i ysbyty.
Bu farw Mabli Cariad Hall o Gastell-nedd bedwar diwrnod wedi i gar daro ei phram y tu allan i Ysbyty Llwynhelyg ger Hwlffordd ar 21 Mehefin 2023.
Clywodd cwest i'w marwolaeth yn 2023 fod Mabli wedi bod yn ei phram y tu allan i'r ysbyty pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Bu farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach yn Ysbyty Plant Bryste o anaf difrifol i’w hymennydd.
Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, fe blediodd Bridget Carole Curtis, o Fegeli, Sir Benfro, yn euog i achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.
Bydd hi'n cael ei dedfrydu ar 22 Tachwedd.
Cafodd tad Mabli, Rob, ei anafu yn y digwyddiad ac roedd yn y llys - ochr yn ochr â theulu ehangach Mabli - ddydd Gwener.
Roedd ei mam, Gwen, yn dal tegan meddal yn ystod y gwrandawiad.
Roedd Curtis yn ymddangos yn simsan wrth iddi gerdded i'r doc ac fe gaeodd ei llygaid pan ofynnwyd iddi gyflwyno ple.
Dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyniad John Dye fod ganddi drwydded yrru lân a dim hanes o droseddu.
Gorchmynnodd y Barnwr Geraint Walters waharddiad gyrru dros dro i Curtis a chaniataodd fechnïaeth tan y gwrandawiad nesaf.
- Cyhoeddwyd22 Awst 2024
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2024
Mewn teyrnged yn dilyn marwolaeth Mabli, dywedodd ei theulu: "Mae ein bywyd teuluol wedi newid am byth a hyd heddiw rydym yn dal i geisio dod i delerau â'r hyn sydd wedi digwydd.
“Wnawn ni fyth anghofio’r cariad a’r gefnogaeth sydd wedi cael ei ddangos i ni, ac er cof am ein hangel gwerthfawr, Mabli Cariad.”
Ym mis Mehefin, gadawodd teulu Mabli flodau yn y man lle cafodd Mabli ei hanafu, flwyddyn yn union ers y digwyddiad.