Ysbyty Llwynhelyg: Teyrnged i 'ferch fach brydferth'

  • Cyhoeddwyd
Mabli Cariad HallFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

"Mi fyddwn o hyd yn cofio gwên fach bert Mabli," meddai ei theulu

Mae teulu merch fach wyth mis oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ger Ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro wedi rhoi teyrnged i'w "merch fach brydferth".

Bu farw Mabli Cariad Hall o'i hanafiadau yn Ysbyty Plant Bryste fore Sul, wedi'r gwrthdrawiad rhwng car a cherddwyr bedwar diwrnod ynghynt.

Dywedodd ei theulu bod eu "calonnau wedi torri".

Mae gyrrwr y car - BMW gwyn - yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol, ond sydd ddim yn peryglu bywyd.

Mae teithiwr o'r BMW a'r cerddwr arall a gafodd ei daro eisoes wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty.

'Gwerthfawrogi'r amser y cawsom gyda hi'

Dywedodd rhieni Mabli, Rob a Gwen Hall: "Mae ein calonnau wedi torri gan farwolaeth ein merch fach brydferth Mabli.

"Roedd hi'n cael ei charu gennym ni a'i phump o frodyr a chwiorydd, a daeth â chymaint o lawenydd i ni yn ei bywyd byr.

"Mi fyddwn o hyd yn cofio gwên fach bert Mabli ac yn gwerthfawrogi'r amser y cawsom gyda hi."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd rhieni Mabli Cariad Hall ei bod wedi dod "â chymaint o lawenydd i ni yn ei bywyd byr"

Ychwanegodd ei rheini: "Hoffem ddiolch i bawb a geisiodd ein helpu ar yr adeg drasig yma; y bobl oedd yno pan ddigwyddodd, y gwasanaethau brys a ddaeth i'n helpu a'r staff anhygoel yn Llwynhelyg, yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd ac yn Ysbyty Plant Bryste.

"Gwnaeth eu cryfder a'u cefnogaeth ein galluogi i ganolbwyntio ar Mabli."

Mae ymgyrch codi arian wedi casglu dros £26,000 i'r teulu.

Pynciau cysylltiedig