Cau BBC Sounds i wrandawyr tramor ymhen wythnos

Fe fydd modd gwrando ar orsafoedd radio'r BBC yn fyw ond nid ar alw
- Cyhoeddwyd
Fe fydd gwefan ac ap BBC Sounds yn cael ei ddiffodd i wrandawyr y tu allan i'r Deyrnas Unedig ar 21 Gorffennaf.
Ond fe fydd modd parhau i allu gwrando ar holl orsafoedd radio'r BBC - gan gynnwys Radio Cymru a Radio Cymru 2 - yn fyw.
Roedd penderfyniad gwreiddiol adain fasnachol y gorfforaeth, BBC Studios, ym mis Mawrth eleni i gyfyngu'r dewis i wrandawyr tramor i Radio 4 a'r World Service yn unig wedi arwain at feirniadaeth gan Gymry alltud.
Daeth cyhoeddiad adeg y Pasg bod y BBC wedi oedi'r cynllun, er mwyn gweithio ar gynlluniau "i sicrhau argaeledd gorsafoedd eraill y BBC i wrandawyr y tu allan i'r DU ar lwyfannau eraill".
Mae'r penderfyniad terfynol wedi'i wneud ac fe fydd BBC Sounds yn cau i wrandawyr tramor ymhen wythnos, gyda gwefan ac ap newydd yn cynnig gwasanaeth i bobl sy'n byw y tu fas i'r DU.
O dan y drefn newydd, fe fydd modd gwrando ar Radio Cymru a Radio Cymru 2 yn fyw, ond fydd dim modd gwrando ar alw.

Mae Esyllt Nest Roberts a'i theulu yn gwrando ar Radio Cymru drwy BBC Sounds ym Mhatagonia
"Dwi'n falch o glywed ein bod ni yn gallu gwrando ar Radio Cymru," meddai Esyllt Nest Roberts, sydd wedi byw ym Mhatagonia ers dros 20 mlynedd.
"I ni yma wrth gwrs a ninnau efo gwahaniaeth amser efo Cymru, da ni ddim yn mynd i godi am dri o'r gloch y bore i wrando ar raglenni brecwast Radio Cymru!
"Dwi'n meddwl dyma'r gorau o'r gwaetha' da ni wedi cael, a da ni yn gallu gwrando ar Radio Cymru, a dyna'r peth pwysica' wrth gwrs."
Fe fydd pobl o'r DU sy'n teithio dramor ar wyliau neu i weithio er enghraifft, yn dal i allu defnyddio BBC Sounds am hyd at fis.
Mwy o bodlediadau

Mae angen gwneud hi'n haws dod o hyd i bodlediadau Cymraeg, meddai Andy Bell yn Awstralia
Cyhoeddodd y BBC hefyd y bydd dewis o bodlediadau Cymraeg a Gaeleg ar gael yn rhyngwladol trwy'r wefan ac ap newydd.
Er yn croesawu hynny, mae Andy Bell yn Awstralia, sy'n cynhyrchu podlediad darlledu, yn dweud bod angen mwy o bodleidiadau Cymraeg, a'i gwneud hi'n haws i bobl ddod o hyd iddyn nhw
"Y cwestiwn sydd 'da fi, a fydd na ryw bennawd ar yr ap yn dweud 'Cymraeg' er mwyn cynorthwyo pobl i ddod o hyd i'r cynnyrch?
"Mae na dros 1,000 o bodlediadau, ac ond llond dwrn yn y Gymraeg ar hyn o bryd, a heb bennawd bydd yn gwneud y dasg o ddod o hyd i gynnyrch Cymraeg yn anoddach byth."
Cadw cysylltiad yn 'hollbwysig'
Yn ôl Esyllt Nest Roberts, mae cadw cysylltiad â Chymru trwy gyfryngau fel Radio Cymru yn hollbwysig, yn enwedig wrth i gylchgronau a phapurau newydd grebachu.
"Dydan ni ddim yn cael gymaint o gyhoeddiadau Cymraeg yma ag oeddan ni," meddai.
"Felly mae gwasanaeth fel Radio Cymru ac S4C, a'r cysylltiad uniongyrchol yna drwy'r tonfeddi, mae o mor, mor werthfawr, a dwi ddim yn meddwl bod pobl y tu allan i Gymru yn deall gwerth hynny i ddeud y gwir i ni, ac i sefyllfa'r Gymraeg yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth
- Cyhoeddwyd18 Ebrill