'Rhwystredigaeth' myfyrwyr gyda rheolau teithio ôl-Brexit

Erin Mared yn Granada, SbaenFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Erin eisoes wedi treulio cyfnod yn astudio yn Granada, Sbaen, ond yn dweud bod y broses o gael fisa yn gymhleth iawn

  • Cyhoeddwyd

Mae myfyriwr o Aberystwyth yn dweud ei bod yn teimlo'n rhwystredig bod rheolau ôl-Brexit yn golygu na all fynd ar wyliau i wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) am gyfanswm o chwe mis wrth dreulio cyfnod yn gweithio yn Yr Almaen.

Fel rhan o'i chwrs prifysgol yn Glasgow yn astudio Sbaeneg ac Almaeneg, bydd Erin Mared, 25, yn mynd i weithio yn Yr Almaen am dri mis gyda chwmni sgriptio yn Berlin.

Ond oherwydd y rheolau ni fydd hi'n gallu teithio i'r UE am 90 diwrnod cyn nac ar ôl ei chyfnod yno.

Mae'n dweud ei bod yn "upset" pan wnaeth hi ddarganfod hynny, a'n teimlo bod pobl ifanc o'r DU yn cael eu "cyfyngu gymaint".

Dywed Llywodraeth y DU bod angen i ddinasyddion Prydeinig sy'n bwriadu aros yn yn un o wledydd yr UE am fwy na 90 diwrnod mewn cyfnod o 180 diwrnod gael caniatâd y wlad berthnasol honno.

"Gall hynny olygu gwneud cais am fisa neu hawlen (permit).

"Er ein bod yn cydnabod mai mater i wledydd sy'n aelodau o'r UE yw ymestyn y cyfnod o 90 mewn 180 diwrnod, bydd y Llywodraeth yn parhau i wrando ar ddinasyddion y DU," medd llefarydd.

'Proses mor mor gymhleth'

Cafodd Erin drafferthion yn 2024 hefyd wrth geisio cael fisa i astudio yn Sbaen fel rhan o'i chwrs.

Mae'n dweud nad oedd y brifysgol yn siŵr sut i'w helpu oherwydd bod y rheolau yn newydd.

"Oedd e'n broses mor, mor gymhleth, nath e gymryd misoedd i fi i gasglu'r holl bapurau at ei gilydd," meddai.

"O'dd raid i fi gael tystysgrif gan yr heddlu, tystysgrif meddygol, bob math o bethau.

"A wedyn, unwaith o'n i wedi casglu'r holl bapurau 'ma, o'dd raid i fi dalu i gael nhw i gyd wedi eu cyfieithu i Sbaeneg a thalu i gael nhw i gyd wedi eu stampio gan gyfreithiwr."

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd Erin yn gallu teithio na mynd ar wyliau i'r UE am gyfnod cyn nac ar ôl gweithio yn Yr Almaen

Ychwanegodd bod y broses yn "gostus a chymhleth a reit stressful".

Wrth baratoi i fynd i'r Almaen mae'n dweud y byddai'n hoffi aros yno am bum neu chwe mis er mwyn gwella ei sgiliau iaith.

Ond dywedodd ei bod hi'n "annhebygol" ar hyn o bryd y byddai'n gallu aros am fwy na 90 diwrnod oherwydd yr "holl gyfyngiadau".

"Ar hyn o bryd dwi'n gorfod bod yn ofalus... er mwyn cael mynd i ffwrdd am y tri mis, ar hyn o bryd fi ddim yn cael mynd i ffwrdd i Ewrop am 90 diwrnod cyn i fi fynd, a fyddai ddim yn cael mynd allan am 90 diwrnod ar ôl dod nôl."

Beth ydy'r rheolau?

Yn dilyn Brexit fe gollodd dinasyddion y DU yr hawl awtomatig i deithio'n rhydd o fewn gwledydd yr UE.

Gall dinasyddion y DU dreulio hyd at 90 diwrnod o fewn unrhyw 180 diwrnod heb fisa o fewn yr ardal Schengen - sy'n cynnwys 25 o wledydd yr UE.

Gallwch fod angen fisa os ydych yn teithio i weithio neu'n aros dros 90 diwrnod.

Gwiriwch y rheolau ar gyfer y wlad benodol rydych yn teithio iddi.

Mae David Ingham yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf yn astudio Ffrangeg ac Almaeneg ym Mhrifysgol Rhydychen, ac eisoes yn bryderus am y broses o fynd i astudio neu weithio o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

"Roedd ceisio ffeindio profiad gwaith tramor cyn mynd i'r brifysgol flwyddyn diwethaf yn brofiad rhwystredig iawn. Roedd e'n anodd hyd yn oed trial gwirfoddoli mewn llefydd oherwydd y sefyllfa gyda cael fisas."

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae David Ingham yn dweud y gallai ystyried symud ar ôl graddio er mwyn cael dinasyddiaeth gwlad arall i allu teithio ar ôl gweithio yn Ewrop

Mae'n rhagweld y gallai symud i Ewrop ar ôl graddio a chael dinasyddiaeth gwlad arall, er mwyn "gallu teithio a gweithio mewn gwledydd eraill heb y drafferth o orfod cael fisa drwy'r amser".

Mae hefyd yn poeni am effaith y rheolau teithio ar yr iaith Gymraeg.

"Mae'r ffaith bod e'n anoddach i bobl i ddod yma hefyd yn ynysu'r Gymraeg. Mae fel petai'r ynys hon yn arnofio ymhellach ac ymhellach o Ewrop ac o weddill y byd sy'n cyfyngu ar gyfleoedd pobl ifanc."

'Angen adolygu'r rheolau'

Yn ôl cyfarwyddwr Fforwm Erasmus, Hywel Williams, mae'r rheolau yn "gwbl afresymol ac yn gyfyngiad annheg ar symudiad personol myfyrwyr o Gymru a Phrydain".

Dywedodd bod angen adolygu'r rheolau ac ymgyrchu yn eu herbyn.

"Mae 'na nifer o gyfyngiadau ar allu myfyrwyr o Gymru i astudio ieithoedd tramor yn barod ac mae'r nifer sydd yn astudio Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg yn lleihau bob blwyddyn.

"Felly dylen ni fod yn ehangu y cyfleoedd sydd ar gael, nid cyfyngu ar eu rhyddid personol."

Mae Erin hefyd yn poeni y gallai'r rheolau olygu y bydd myfyrwyr yn fwy cyndyn o fynd i astudio o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

"O'n i mor benderfynol bo' fi mo'yn mynd i ffwrdd i astudio dramor, a 'nes i dal ffeindio'r broses yn arbennig o anodd.

"Felly os oes rhywun ddim cweit mor siŵr beth maen nhw mo'yn 'neud, fi bendant yn meddwl bod y syniad o orfod mynd drwy'r broses o gael fisa just yn mynd i roi pobl off."

Pynciau cysylltiedig