Genedigaeth pedwar llo iach yn brofiad 'unwaith mewn oes'
- Cyhoeddwyd
Mae staff fferm ym Mhowys wedi disgrifio'r profiad "anhygoel" o weld buwch yno yn rhoi genedigaeth i bedwar llo.
Cafodd y tarw a thair heffer eu geni yn Fferm Calcourt yn Wernllwyd - a'r rheiny i gyd yn fyw ac yn iach.
Mae beichiogrwydd o'r fath mewn gwartheg yn anghyffredin iawn, gyda'r tebygolrwydd fod y pedwar llo yn goroesi yn tua un ymhob 11 miliwn.
Dywedodd Matthew Hicks, rheolwr beichiogrwydd y fferm, fod y cyfan yn "brofiad unwaith mewn gyrfa, ac unwaith mewn oes mwy na thebyg".
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2023
Roedd yn sioc fawr i'r gweithwyr pan gyrhaeddodd y pedwar llo ar y fferm laeth.
"Mi'r oedden ni'n gwybod ei bod hi'n cario efeilliaid, ond pan ddigwyddodd y cyfan, ro'n i'n pendroni rhywfaint... dydi'r fath beth just ddim yn digwydd," meddai Mr Hicks.
"Ro'n i wedi bod yn y dafarn, a dydi dod adref yn gweld dwbl ddim yn beth newydd i mi, ond ar y noson honno doeddwn i bendant heb yfed digon!"
Mewn cyfweliad â BBC Radio Wales Breakfast, ychwanegodd Mr Hicks fod y diolch am enedigaethau diogel y lloi yn mynd i Jess a Lee - dau o weithwyr y fferm.
"Roedd dau ar y llawr, un bron ar y llawr... ac erbyn i mi roi trefn ar bethau a chael fy nillad arbennig ymlaen, roedd y pedwerydd llo wedi ei eni."
"Efallai byddwn ni'n gweld set o efeilliaid bob mis, mae hynny yn digwydd, ond pedwar? Byth."
Y lloi a'r fam yn 'gwneud yn dda'
Roedd angen "ychydig mwy o ofal" ar y lloi ar ôl iddyn nhw gael eu geni, ac roedd angen eu bwydo bedair gwaith y dydd am gyfnod i sicrhau eu bod nhw'n aros yn iach.
"Mae'r pedwar yn rhan o grŵp o loi eraill erbyn hyn, ac maen nhw'n neud yn dda iawn," meddai Mr Hicks.
"Lwc sydd y tu ôl i'r holl beth dwi'n meddwl, mi wnes i brynu tocyn loteri wedyn - ond dwi'n dal yn y gwaith felly yn amlwg wnes i ddim llwyddo."
Esboniodd fod y fam hefyd yn iach, gan ychwanegu "nad ydi hi'n deall pa mor enwog yw hi erbyn hyn".