Pori drwy'r biniau wrth i Gymru geisio arwain ar ailgylchu

Alex Bull yn sefyll yn ei chegin yng Nghaerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alex Bull wedi ceisio trefnu ei chegin fel bod ailgylchu'n haws - gyda mannau penodol ar gyfer gwahanol fathau o wastraff

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru o fewn trwch blewyn o fod y wlad orau yn y byd am ailgylchu, yn ôl ymchwil newydd - wrth i gyfyngiadau pellach ar gasglu gwastraff cyffredinol gael eu hargymell.

Yn ôl canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru fe ddylai cartrefi fedru ymdopi ag un bag du 60 litr yr wythnos ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Mae ymchwil elusen WRAP Cymru yn awgrymu bod cyfradd ailgylchu'r wlad ond 0.4% y tu ôl i Awstria, sy'n arwain y byd ar hyn o bryd.

Maen nhw'n galw am ymdrech benodol i daclo gwastraff bwyd, gan ddadlau y byddai hynny'n arbed arian i bobl tra'n helpu Cymru gyrraedd brig y tabl ailgylchu rhyngwladol.

Disgrifiad,

Roedd Alex yn ddigon dewr i ganiatáu i BBC Cymru Fyw ffilmio arbenigwr ailgylchu yn pori drwy ei biniau

Fel nifer mae'n siŵr, mae Alex Bull yn disgrifio'i hun fel rhywun sy'n "trio fy ngore" i ailgylchu, ond yn amau hefyd y gallai fod yn gwneud mwy.

Rhwng rhedeg campfa a dosbarthiadau ffitrwydd yng Nghaerdydd a gofalu am ei merch fach, mae "on the go drwy'r dydd", a'r amser i ganolbwyntio ar wahanu sbwriel yn gywir yn brin.

Mae'n disgrifio'i hun fel "wishcycler" - rhywun sy'n gobeithio'r gorau wrth roi eitemau yn y bin ailgylchu, heb wybod i sicrwydd eu bod nhw yn y lle iawn.

Mae wedi trefnu ei chegin er mwyn hwyluso'r broses, gyda bag yn hongian ar ddolen y drws lle mae'n gosod papur a chardfwrdd, tra bod ei bin wedi'i wahanu'n ddwy ran ar gyfer deunyddiau i'w hailgylchu a gwastraff cyffredinol.

Bethan Davies o ymgyrch Cymru yn Ailgylchu.  Mae'n sefyll o flaen nifer o fagiau ailgylchu mewn gardd gefn.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru'n hynod o agos at arwain y byd ar ailgylchu, yn ôl Bethan Davies o ymgyrch Cymru yn Ailgylchu

Roedd Alex yn ddigon dewr i ganiatáu i BBC Cymru Fyw ffilmio arbenigwr ailgylchu yn pori drwy ei biniau.

"Dwi'n credu bod Alex yn 'neud yn rili dda," meddai Bethan Davies o ymgyrch Cymru yn Ailgylchu.

Ond roedd ganddi nifer o awgrymiadau hefyd ynglŷn â sut allai'r teulu leihau'r hyn y maen nhw'n ei daflu.

Yn eu plith, peidio rhoi plastigion meddal - fel bagiau bara a phecynnau creision - yn y bin du.

"Os ti'n casglu nhw at ei gilydd dros gwpl o ddiwrnode, fyse ti'n gallu mynd â nhw i'r archfarchnad pan ti'n mynd siopa, a mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw gyda blwch ar gyfer ailgylchu plastig meddal erbyn hyn," eglurodd Bethan.

Roedd canolbwyntio ar sicrhau bod gwastraff bwyd yn cael ei ddelio ag e'n gywir yn allweddol hefyd, meddai.

'Bag du yw'r last resort'

Yn ôl ymchwil WRAP Cymru, dyma'r ffordd hawsaf o leihau'r bwlch rhwng Cymru ac Awstria ar frig y rhestr o wledydd sydd orau am ailgylchu.

Petai gwerth 7,000 tunnell yn rhagor o fwyd wedi cael ei ailgylchu yn lle'i daflu i fagiau du, byddai hynny wedi bod yn ddigon i weld Cymru'n pasio Awstria, medden nhw - ar sail y ffigyrau pan luniwyd y tabl diwethaf.

Mae hynny gyfystyr â phawb yng Nghymru yn llwyddo i ailgylchu gwerth un croen banana yn ychwanegol bob wythnos.

Tabl
Disgrifiad o’r llun,

0.4% oedd yn gwahanu Cymru ag Awstria yn nhabl ailgylchu'r byd, yn ôl dadansoddiad WRAP Cymru

Mae'r elusen wedi pori drwy finiau "miloedd ar filoedd" o bobl yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn casglu data ynglŷn â'r bag du arferol yng Nghymru.

Fe ddaethon nhw i'r casgliad y byddai modd ailgylchu oddeutu hanner yr hyn mae pobl yn ei daflu fel gwastraff cyffredinol - ac yng Nghaerdydd roedd y ffigwr hwnnw'n 60%.

"Dyle'r bag du neu'r bag gwastraff cyffredinol gael ei weld fel last resort erbyn hyn," esboniodd Bethan.

"Mae gymaint o opsiynau gyda ni ar gyfer ailgylchu."

Roedd chwarter y sbwriel oedd yn cael ei daflu ar gam i fagiau du yn wastraff bwyd, ac oddeutu 80% o hynny dal yn fwytadwy, meddai.

"Mae'r teulu cyffredin o ryw bedwar o bobl yn gwastraffu bron i £90 bob mis ar wastraff bwyd."

Mae holl gynghorau Cymru'n casglu gwastraff bwyd ar wahân o gartrefi pobl, gan ei ddefnyddio i gynhyrchu ynni adnewyddadwy a chreu gwrtaith.

Graffeg Cyngor Caerdydd yn dangos bod 60% o'r hyn sy'n cael ei roi mewn bag du arferol yn y ddinas yn gallu cael ei ailgylchuFfynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Graffeg Cyngor Caerdydd yn dangos bod 60% o'r hyn sy'n cael ei roi mewn bag du arferol yn y ddinas yn gallu cael ei ailgylchu

Mae'n un o'r rhesymau pam fod Cymru wedi gweld cynnydd aruthrol o ran ei chyfradd ailgylchu yn y degawdau ers datganoli.

O lywodraeth i lywodraeth ym Mae Caerdydd, mae ailgylchu wedi cael blaenoriaeth, gyda chyllid a thargedau statudol i awdurdodau lleol gyrraedd neu wynebu dirwyon.

Ond mae'r momentwm fel petai wedi arafu ychydig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wrth i rai cynghorau ei chael hi'n anodd cyrraedd y nod o ailgylchu 70% o wastraff cartrefi erbyn 2025.

'Cenedl ddiwastraff' erbyn 2050

Mae Llywodraeth Cymru am i'r wlad fod yn "genedl ddiwastraff" erbyn 2050 - i bob pwrpas, cyfradd 100% o ran ailgylchu, compostio neu baratoi deunyddiau i'w defnyddio eto.

Mae canllawiau diweddaraf y llywodraeth ar gyfer cynghorau yn argymell peidio casglu gwastraff cyffredinol yn fwy rheolaidd nag unwaith pob tair i bedair wythnos.

Maen nhw'n nodi hefyd y dylai un bag du 60 litr ar gyfer gwastraff cyffredinol fod yn ddigon ar gyfer bob cartref yn wythnosol.

Wrth gael ei holi a oedd cyfyngu ymhellach yn deg ar bobl, dywedodd Bethan Davies o Cymru yn Ailgylchu mai'r cynghorau sydd eisoes yn symud tuag at gasglu gwastraff cyffredinol yn llai rheolaidd oedd yn gweld eu cyfradd ailgylchu yn gwella.

"Mae'n ffantastig ein bod ni'n ail yn y byd ar ailgylchu, a gyda tamed bach yn fwy o ymdrech fe allai Gymru cyrraedd rhif un - ry'n ni'n hynod o agos," meddai.

Trolibocs Sir Ddinbych
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan holl siroedd Cymru fesurau gwahanol yn eu lle o ran delio ag ailgylchu - dyma'r drefn yn Sir Ddinbych

Mae targedau'r llywodraeth yn gorfodi cynghorau i barhau i arloesi o ran sicrhau bod mwy o wastraff yn cael ei ailgylchu.

Ym Mro Morgannwg, sydd ymysg y perfformwyr gorau, maen nhw wrthi'n treialu casglu plastigion meddal ar stepen y drws, yn lle bod pobl yn eu taflu neu'n gorfod mynd â nhw i archfarchnadoedd.

"Ry'n ni'n rhoi cyfle arall i'r deunyddiau yma gael eu hailgylchu," eglurodd Hollie Smith o'r cyngor, tra'n tywys Alex Bull ar daith drwy ganolfan ailgylchu'r Bari.

"Ar hyn o bryd mae'r arbrawf yn digwydd yng ngorllewin y fro - mae'r plastigion meddal yn dod i fa'ma mewn bagiau ar wahân, yn cael eu sortio, eu beilio a'u hanfon i ffwrdd.

"Mae'n mynd yn anhygoel - mae gymaint o ymateb gwych wedi bod i'r cynllun gan drigolion yn barod.

"Os mae'n gallu gweithio fan hyn, gobeithio gall e gael ei ehangu ledled Cymru."

Hollie Smith o Gyngor Bro Morgannwg yn sefyll mewn canolfan ailgylchu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Hollie Smith o Gyngor Bro Morgannwg fod ymateb "gwych" wedi bod i'r cynllun

Dywedodd Alex iddi gael ei hysbrydoli o gael ymweld â'r ganolfan ailgylchu.

"Mae'n shocking i weld faint mae pobl yn taflu i ffwrdd i fod yn onest," meddai.

"Dwi'n inspiried ar ôl dod yma, dwi'n rili edrych ymlaen i fynd nôl nawr a 'neud pethe yn wahanol - ry'n ni gyd yn gallu neud rhywbeth i helpu."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "falch ofnadwy mai Cymru sydd ail yn y byd o ran ailgylchu".

"Mae'r diolch am y llwyddiant hyn yn eiddo i bobl Cymru sydd wedi cofleidio ailgylchu yn eu cartrefi ac yn y gwaith."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.