Jane Davidson a'i thaith i fod yn hunan-gynhaliol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Jane Davidson

"Dwi'n byw ac yn brwydro dros un neges: paid â gwneud niwed."

Mae 10 mlynedd ers i Jane Davidson gyflwyno'r gost am fag plastig yng Nghymru yn 2011.

Ond dyw'r cyn-Weinidog Amgylchedd yn Llywodraeth Cymru heb fod yn segur ers hynny ac mae wedi targedu ei hegni at fyw bywyd cynaliadwy a'r ymdrech i fod yn garbon niwtral.

Erbyn hyn mae'n byw gyda'i gŵr Guy ar fferm fach 10-acr cynaliadwy ger Aberteifi. Ac mae'n chwerthin wrth ddweud: "Dwi dal i gael fy adnabod fel y 'menyw bag plastig'!

Disgrifiad,

Y cyn-Weinidog Amgylchedd sy'n sôn am sut mae hi a'i theulu'n ceisio byw'n wyrdd.

Gwneud un peth mawr

"Dechreuodd ein siwrne gwyrdd ni gyda'r teulu'n ymrwymo i wneud un peth mawr gwyrdd bob blwyddyn.

"Os fyddai pob teulu'n gwneud un peth bob blwyddyn, byddai effaith anferth ar yr amgylchedd - p'un ai yw'n peidio hedfan am wyliau, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, inswleiddio adeiladau, bwyta llai o gig - neu beth bynnag sy'n teimlo'n fwyaf addas i chi.

"Mae 'na gyfrifianellau carbon ar-lein sy'n gallu helpu chi i gychwyn. Ni dal i wneud un peth gwyrdd mawr y flwyddyn 15 mlynedd yn hwyrach."

Yn ogystal â pheidio hedfan a dewis cerdded a seiclo pryd bynnag mae'n bosib, mae teulu Jane hefyd wedi treulio blynyddoedd yn gwneud y tŷ yn gynaliadwy drwy ychwanegu paneli solar a phwmp gwres.

Ar y fferm maen nhw'n tyfu ffrwythau a llysiau organig ac yn rhannu a chyfnewid offer ac eiddo o fewn y gymuned.

Mae Guy, gŵr Jane, yn esbonio: "Yn realistig ni siŵr o fod yn cynhyrchu rhwng hanner a tri-chwarter o'n bwyd ni dros y flwyddyn.

"Ni'n gallu tyfu rhan fwya' o'n llysiau ein hunain ac mae ganddom ni rewgell yn llawn o gig. Dydyn ni ddim wedi gorfod prynu wyau ers blynyddoedd ac mae gennym ddigon o fêl trwy'r flwyddyn.

"Ein dau brif amcan yw i gadw'n carbon footprint yn isel ac i adael y tir mor bio-diverse ac heb niwed â sy'n bosib ar gyfer y cenedlaethau nesaf."

Erbyn hyn mae'r teulu yn garbon niwtral ar ôl 10 mlynedd o waith ac ymdrech. Ond doedd hi ddim yn siwrne hawdd i gyrraedd y nod.

Pa gyngor sy' gan Jane i bobl sy'n awyddus i wneud yr un peth?

"Dwi'n awgrymu fod pobl yn dechrau gyda'r gweithredoedd hynny sy'n gallu arbed arian a rhoi pleser iddynt.

"Byddai inswleiddio'r tŷ yn lleihau biliau ynni sy'n hanfodol ar hyn o bryd; byddai newid i gwmni ynni adnewyddadwy yn gwneud eich ffynhonnell ynni'n fwy diogel ac yn creu mwy o ynni adnewyddadwy.

"Ac o ran pleser, dwi'n gryf o blaid tyfu cymaint o'ch bwyd eich hun yn organig gan fod hynny'n golygu gallwch chi fwyta'n dymhorol, bydd eich cynnyrch yn rhydd o blaladdwyr ac ar ôl i chi gael y byg, mae'n ymrwymiad oes!"

Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n gryf o blaid tyfu cymaint o'ch bwyd eich hun yn organig gan fod hynny'n golygu gallwch chi fwyta'n dymhorol"

Yr her fwyaf

"Dwi'n credu mai'r her fwyaf o hyd yw'r ffaith bod dewis byw'n gynaliadwy yn dal i gael ei wneud gan yr ychydig, nid y mwyafrif," meddai.

"Er ei bod yn hawdd iawn dod o hyd i blymwr i osod boiler nwy neu olew, mae'n anoddach o lawer dod o hyd i bobl sydd â'r sgiliau a'r dealltwriaeth o ddewisiadau amgen adnewyddadwy. Ac mae'r dechnoleg yn aml yn ddrytach."

Mae Jane a'r teulu wedi gwneud eu cartref mor garbon niwtral â phosibl trwy insiwleiddio'r tŷ yn dda, cyflwyno paneli solar ac hefyd gosod pwmp gwres o'r ddaear.

Mae wedi bod yn waith dros gyfnod hir, yn ôl Jane, sy' hefyd yn Is-Ganghellor Emeritws ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: "Mae wedi cymryd degawd i ni ac mae gennym y system mwyaf cymhleth o redeg ein bywydau dyddiol ni o unrhyw un dwi'n ei 'nabod!

"Er mwyn normaleiddio byw fel hyn, mae angen ehangu'r dechnoleg yn gyflym ac ailhyfforddi ar frys. Mae angen cael cymhellion gan y llywodraeth a chyngor da i wneud i hyn ddod yn 'normal newydd'."

Cymru'n arwain y byd

Mae Jane yn falch iawn mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno cost am fagiau plastig, deddfwriaeth wnaeth hi ei gyflwyno fel Gweinidog Amgylchedd.

Bu gostyngiad o 94% mewn defnydd o fagiau plastig un defnydd yn unig o fewn blwyddyn. O fewn pedair blynedd dilynodd weddill y Deyrnas Unedig esiampl Cymru gan gyflwyno cost am fagiau plastig.

Meddai Jane, sy' erbyn hyn yn cynghori llywodraethau ar draws y byd ynglŷn â'r amgylchedd: "Yn bersonol, byddwn i wrth fy modd yn gweld defnydd o blastig yn dod i ben yn gyfan gwbl.

"I fi mae'r gwleidyddol wastad wedi bod yn bersonol a'r personol yn wleidyddol. Alla'i ddim hyrwyddo beth dwi ddim yn credu ynddo. Beth daeth yn glir i fi yn 2007 oedd mod i ddim yn gallu parhau i fod yn rhan o'r problem.

"Fel person a fel gweinidog yn y Senedd, sut allwn i hyrwyddo ffordd o fyw gwahanol os nad oeddwn i'n barod i'w fyw fy hun?

"Fel gwleidydd, penderfynais yn syth i beidio hedfan os nad oedd yn hollol angenrheidiol - felly roedd dipyn o siwrneiau trên hir iawn!

"Erbyn 2011 symudon ni i ffwrdd o dŷ heb ei inswleiddio'n dda gyda gwres canolog nwy, i fyw ar ein fferm fach ni gyda dau gae a choedwig i'n cadw ni'n gynnes, mewn tŷ wedi ei inswleiddio'n dda, yn defnyddio egni'r haul a'r ddaear a'r goedwig i bweru ein bywydau, gan gynnwys creu ein dŵr twym a'n gwres, tyfu cymaint o'n bwyd ein hunain â phosib gan gynnwys mêl a seidr, a gyrru car trydan.

"Mae'r daith i fyw mewn ffordd sy'n llai o faich i'r blaned wedi bod yn antur gwych. Mae ychwanegu pwrpas i'n bywydau wedi gwella ansawdd ein bywydau a'n hapusrwydd ac mae'n gwneud i ni feddwl mwy am y penderfyniadau ni'n gwneud a pham ni'n gwneud nhw.

"Ni'n trio bod yn rhan o'r ateb yn hytrach na'n rhan o'r broblem - a dyna'r peth lleiaf gall pob un ohonom wneud."