Cynnydd costau ysgol yn rhoi 'straen' ar deuluoedd

Crysau polo gwyrdd a rhesi o wisgoedd ysgol  wedi eu trefnu yn ol lliw mewn siop
Disgrifiad o’r llun,

Er gwaethaf camau i sicrhau bod gwisg ysgol yn fforddiadwy, mae'n parhau yn "gost fawr" yn ôl un elusen

  • Cyhoeddwyd

Mae nifer o deuluoedd yn wynebu "trafferth go iawn" yn talu costau danfon eu plant i'r ysgol, yn ôl elusen.

Dywedodd y Child Poverty Action Group (CPAG) bod y straen yn "arbennig o ddwys" ar ddechrau tymor ysgol newydd, wrth i rieni orfod prynu gwisg ysgol ac offer.

Mae CPAG wedi amcangyfrif mai'r isafswm ar gyfer plentyn oedran uwchradd yn y Deyrnas Unedig yw bron £2,300 y flwyddyn - i fyny £600 ers 2022.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud popeth posib i gefnogi teuluoedd.

Ellie Harwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhieni dan straen yn meddwl am sut i ddod i'r afael â chostau, medd Ellie Harwood

Yn ôl Ellie Harwood, swyddog addysg CPAG, mae'r symiau sy'n wynebu teuluoedd er mwyn talu am gostau sylfaenol fel bwyd, trafnidiaeth ac offer yn "wirioneddol sylweddol".

"Mae aelwydydd ar incwm isel a chanolig yn gallu wynebu trafferth go iawn i dalu'r costau ac yn amlwg, y mwyaf o blant sydd gennych chi, y mwyaf yw'r gost."

Ar ddechrau tymor ysgol, mae'r costau yn gallu bod yn uwch, meddai.

"Mae rhai plant yn dechrau'r ysgol am y tro cyntaf neu'n symud i'r ysgol uwchradd.

"Efallai bydd angen gwisg newydd sbon arnoch chi gyda rheolau gwahanol, cit ymarfer corff gwahanol a phethau felly.

"Mae rhieni dan straen ar hyn o bryd yn meddwl am sut i ddod i'r afael â'r costau hyn."

Owain Schiavone
Disgrifiad o’r llun,

"Mae 'na bwysau cynyddol ar blant i gadw i fyny gyda'u ffrindiau," meddai Owain Schiavone

Mae Owain Schiavone yn dad i dri o blant, a dywed bod yna lot o gostau i rieni yn sgil gweithgareddau amrywiol y tu allan i'r ysgol.

Ond fel hyfforddwr chwaraeon ychwanegodd ei fod yn croesawu'r gweithgareddau hynny.

"Mae'n gallu bod yn heriol i rai teuluoedd mae'n amlwg, ond mae 'na gynlluniau cymorth ar gael," meddai.

"Yr hyn sydd ei angen yw sicrhau bod y wybodaeth yna yn hygyrch i rieni – bod nhw yn gwybod lle i chwilio.

"Be' sy' wedi newid yw'r pwysau sydd ar blant i gydymffurfio fel eu ffrindiau – y pwysau yna ydy'r her ychwanegol erbyn hyn – y peiriannau, y pethe sgrîns.

"Mae 'na bwysau cynyddol ar blant i gadw i fyny gyda'u ffrindiau. Mae popeth yn adio fyny sy'n ei gwneud yn heriol i lot o deuluoedd."

Emlyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Emlyn Jones, mae "costau echrydus" yn wynebu rhieni ar ddechrau blwyddyn ysgol

Mae Emlyn Jones, a arferai weithio yn y byd addysg ei hun, yn berchen ar siop dillad ysgol CIT yn Aberystwyth.

"Mae costau byw, cynnal teulu a'r holl bethau sydd ymlaen mewn ysgolion – mae'n gostus iawn," meddai.

"Mae llawer mwy o dripiau ac mae'r plant eisiau gwisgo y dillad gorau ac ati, felly mae 'na gostau echrydus yn enwedig ar ddechrau blwyddyn fel hyn.

"Mae lot nawr yn edrych ar ailgylchu, sy'n grêt o beth, a pasio dillad ymlaen fel o'n ni'n arfer 'neud.

"Mae lot yn dal nôl a siopa rownd. Mae rhai ddim yn gwisgo'r wisg – does dim rhaid tan 11 oed – felly maen nhw'n gwisgo gwisg eu hunain.

"Mae'n lot o gost – rhai yn newid gwisg o'r haf i'r gaeaf, hefyd tripiau – ac os ydyn nhw'n chwarae i dimau neu academi mae mwy o gost."

Laura Hiscox
Disgrifiad o’r llun,

Mae Laura Hiscox yn dweud ei bod yn lwcus am fod gwisg ysgol ei merched yn dal i ffitio

Dywedodd Laura Hiscox nad oedd hi'n teimlo bod talu am wisg yn faich ormodol.

"Dwi'n lwcus – mae dillad fy merched yn dal i ffitio ac felly'n costio llai," meddai.

Costau'n weddol gyson, ond yn 'ddrud'

Dywedodd Ellie Harwood, er bod eu hymchwil yn awgrymu bod costau gwisg ysgol wedi aros yn gymharol gyson, mae'n parhau yn "ddrud".

Dywedodd ei bod yn gobeithio mai camau gan lywodraethau'r DU - gan gynnwys Llywodraeth Cymru - i sicrhau bod gwisg ysgol yn fforddiadwy, sy'n esbonio pam nad yw'r gost wedi cynyddu'n sylweddol.

Ond mae costau bwyd a thechnoleg uwch i blant ysgol uwchradd wedi cynyddu'r baich, meddai.

Mae'r elusen wedi amcangyfrif mai tua £1,000 yw'r gost flynyddol i blentyn ysgol gynradd yn y DU.

Ond dywedodd Ms Harwood bod y prydiau ysgol am ddim i blant iau yng Nghymru "yn arbed tua £500 y flwyddyn am bob plentyn - felly'n gyfraniad mawr".

Dywedodd bod angen ehangu'r cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer costau ysgol a chynyddu'r trothwy incwm fel bod mwy yn gymwys.

"Mae tua 25,000 o ddysgwyr o dan 18 oed sy'n byw mewn tlodi sydd ddim yn gymwys am gefnogaeth gyda'r grantiau hyn nac am brydau ysgol am ddim," meddai.

'Ysgolion angen hybu cyfnewid'

Mae nifer o ysgolion ac elusennau wedi bod yn cynnal ffeiriau cyfnewid neu brynu gwisgoedd ysgol ail law.

Mae Elain Lloyd yn gydlynydd Hwb Ddinbych a wnaeth gynnal ffair arbennig ar ddechrau mis Awst.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast bore Mawrth, dywedodd Ms Lloyd ei bod wedi "dychryn efo gymaint o rieni oedd yn disgwyl tu allan i'r drws am 09:00 i bigo'r wisg ysgol i fyny".

Mae hi'n galw ar fwy o ysgolion i gynnig cyfnewid gwisg ysgol i leihau'r gost i rieni a gwarchgeidwaid.

"Dwi'n meddwl fod o'n rhywbeth i drafod bod ysgolion yn hybu'r cyfnewid gwisg ysgol eu hunain a bod 'na lai o bwyslais ar bethau newydd."

Ychwanegodd y gallai ysgolion ailystyried yr angen am blasers costus a gwisg addysg gorfforol wedi'i frandio i gadw'r gost i lawr.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi teuluoedd yng Nghymru.

"Rydym yn parhau i fonitro effaith posib chwyddiant ar nifer y dysgwyr yn gymwys ar gyfer prydiau ysgol am ddim a'r Grant Hanfodion Ysgol, dolen allanol".

Am gostau gwisg ysgol, dywedodd y llefarydd ei fod "yn gallu bod yn faich ariannol ar deuluoedd."

"Mae ein canllawiau statudol ar bolisi gwisg ysgol yn dweud y dylai fod yn flaenoriaeth i sicrhau bod y wisg yn fforddiadwy, ac ni ddylai eitemau gyda logo fod yn orfodol."

"Rydym yn adolygu effaith y newidiadau i'r canllawiau ar hyn o bryd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.