Athrawon Cymru i gael codiad cyflog o 4% o fis Medi

Disgyblion mewn dosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r codiad yn unol â'r un i athrawon yn Lloegr

  • Cyhoeddwyd

Bydd athrawon yng Nghymru yn cael codiad cyflog o 4% o fis Medi ymlaen, sy'n unol â chodiad cyflog athrawon yn Lloegr.

Ond mae'n is na'r 4.8% a gafodd ei argymell gan y corff adolygu cyflogau annibynnol yng Nghymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Addysg Cymru, Lynne Neagle, ei bod yn "gwerthfawrogi'r rhwystredigaeth" gan ailadrodd "pwysigrwydd darparu cyllid llawn a chynaliadwy ar gyfer cyflog athrawon".

Roedd dau undeb athrawon wedi mynegi siom ynghylch y cynnig.

Roedd adroddiad y Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB) yn argymell y dylai'r holl gyflogau a lwfansau gael eu cynyddu 4.8% o fis Medi 2025 ymlaen.

Roedd awdurdodau lleol ac undebau sy'n cynrychioli'r gweithlu addysg wedi pwysleisio pa mor bwysig oedd hi bod unrhyw ddyfarniad cyflog athrawon yn cael ei ariannu'n llawn.

Dywedodd Lynne Neagle ddydd Iau: "Byddwn yn awr yn dechrau'r broses ddeddfwriaethol i roi effaith i'r cyhoeddiad hwn, gyda'r nod o osod Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) cyn gynted â phosibl yn dilyn toriad yr haf."

Ond fe ychwanegodd mai "mater i gyflogwyr fydd amseriad penodol gweithredu'r dyfarniad ar ôl i'r Gorchymyn Cyflog gael ei wneud.

"Byddaf yn pwysleisio i awdurdodau lleol fy nisgwyliad cadarn y bydd y dyfarniad hwn yn cael ei wneud cyn gynted â phosibl," meddai.

Pryder a siom undebau

Roedd Laura Doel o undeb athrawon NAHT Cymru wedi dweud ei bod yn "bryderus" ynghylch cynnig y llywodraeth.

Dywedodd: "Mae'n annheg i Lywodraeth Cymru ddweud y byddai talu athrawon ac arweinwyr ysgolion yr hyn y maen nhw werth yn rhoi mwy o bwysau ar gyllidebau ysgolion."

Fe ddywedodd Claire Armitstead o Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau fod y cynnig yn "siomedig".

Yn ôl y Llywodraeth maen nhw'n bwriadu i'r dyfarniad cyflog ddod i rym ar 1 Medi 2025 a chael ei weithredu mewn pryd ar gyfer pecynnau cyflog mis Hydref 2025.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.