Cludo chwaraewr Wrecsam i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad

Elliot LeeFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cwaraeodd Elliot Lee yn erbyn Bolton Wanderers nos Fawrth wrth iddyn nhw ennill 1-0

  • Cyhoeddwyd

Mae chwaraewr canol cae Wrecsam, Elliot Lee, wedi ei gludo i'r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad ar ei ffordd adref o'u gêm yn erbyn Bolton Wanderers nos Fawrth.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys car arall a bu'n rhaid i yrwyr y ddau gerbyd fynd i'r ysbyty.

Mewn datganiad dywedodd Clwb Pêl-droed Wrecsam bod y "gwasanaethau argyfwng wedi cyrraedd y safle'n gyflym a hoffai'r clwb ddiolch iddyn nhw am ymateb a gweithredu mor fuan".

Dywedon nhw: "Dydy'r chwaraewr ddim wedi cael unrhyw anafiadau difrifol, tra bod gyrrwr y cerbyd arall yn cael ei drin am anafiadau."

"Ni fydd y clwb yn gwneud sylw pellach ar hyn o bryd."

Fe chwaraeodd Lee yn erbyn Bolton Wanderers yn Nhlws yr EFL nos Fawrth wrth iddyn nhw ennill 1-0.

Mae Lee wedi chwarae 134 o gemau i'r clwb gan sgorio 38 o goliau.

Mi fydd y Dreigiau'n wynebu Peterborough United yn y rownd gyn-derfynol ddiwedd y mis.