Toriadau posib Prifysgol Caerdydd yn 'dorcalonnus' yn ôl myfyrwyr
- Cyhoeddwyd
Mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi cael "sioc" ar ôl clywed bwriad y brifysgol i gael gwared ar rai o bynciau ac adrannau'r brifysgol yn llwyr, ac uno adrannau eraill.
Mae'r pynciau hynny'n cynnwys cerddoriaeth, nyrsio, ieithoedd modern a chyfieithu.
Dywedodd myfyrwyr wrth Cymru Fyw fod y cynigion yn "dorcalonnus" a bod y dyfodol yn edrych yn ansicr.
Mae'r brifysgol hefyd wedi nodi eu bod yn bwriadu torri 400 o swyddi academaidd llawn amser er mwyn "diogelu dyfodol hirdymor" y sefydliad.
Mewn datganiad, pwysleisiodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd "mai cynigion yw'r rhain, does dim penderfyniadau terfynol wedi cael eu gwneud".
"Bydd y brifysgol yn sicrhau y bydd pob myfyriwr yn gallu cwblhau eu hastudiaethau," ychwanegodd.
Mae un fyfyrwraig yn ei hail flwyddyn yn astudio Cymraeg a Ffrangeg wedi dweud mai "dyma hoelen ola' arch ieithoedd tramor yng Nghymru".
Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Fflur James o Sir Benfro mai "dyma fydd ei diwedd hi".
Ychwanegodd fod y newyddion "wir wedi fy siomi" gan ddweud bod y posibilrwydd o "gau Ysgol Ieithoedd Modern y brifysgol wir yn hollol siomedig".
"Mae'n amhosib meddwl beth fydd dyfodol ei myfyrwyr hi. Dwi ond yn fy ail flwyddyn, gyda dwy flynedd i fynd eto, a dwi wir ddim yn gwybod lle mae hyn yn fy ngadael i."
'Athrawes bron yn ei dagrau'
Dywedodd nad yw'r myfyrwyr wedi cael unrhyw ohebiaeth swyddogol gan y brifysgol.
Mae'n dweud iddi "gael gwybod yn fras iawn gan ei hathrawes Ffrangeg" fore Mawrth - athrawes sydd wedi bod yn dysgu yn y brifysgol am 31 o flynyddoedd.
"Roedd hi bron yn ei dagrau yn rhannu'r newyddion bod hi ar fin mynd i gyfarfod fydd yn penderfynu tranc ysgol ieithoedd modern" y brifysgol.
Aeth ymlaen i ddweud fod y cyhoeddiad yn "dweud cyfrolau fod y brifysgol am droi cefn ar bynciau sydd wir am fod o fudd i fyfyrwyr".
Dywedodd un sydd yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio nyrsio, fod y newyddion wedi dod fel "sioc" a'i fod yn "dorcalonnus".
Dywedodd Elain Owen sy'n wreiddiol o Gaerfyrddin: "Yn bersonol ma'n anodd gweld y rhesymau pam taw nyrsio sydd wedi cael ei ddewis fel un o'r cyrsiau i'w dorri allan gan ei fod yn gwrs hollol bwysig.
"Fi nawr yn dod i ddiwedd y cwrs nyrsio ond i'r rhai sydd yn y flwyddyn gyntaf a'r ail, fi'n siŵr bod nhw'n peri gofid am eu dyfodol ar y cwrs.
"O'dd 'na ddim cyfathrebu gan y brifysgol ynglŷn â'r toriadau sydd ddim yn deg i staff a myfyrwyr."
Aeth ymlaen i ddweud bod y toriadau yn "peri gofid" iddi ar "sut mae dyfodol y GIG a nyrsio yn edrych yma yng Nghymru.
"Mewn ffordd, mae'n teimlo fel dechrau'r diwedd i'r GIG."
Cwrs arall allai ddod i ben yn y brifysgol yw cerddoriaeth.
Dywedodd Gwenllian Howells, sydd yn ei thrydedd blwyddyn yn astudio'r pwnc, fod y newyddion yma yn "hollol dorcalonnus".
"Mae'n tynun sylw at y ffaith nad yw cerddoriaeth yn cael ei werthfawrogi mewn gwlad sy'n cael ei alw'n 'Wlad y Gân'.
"I'r myfyrwyr sydd eisiau astudio cerddoriaeth yn y brifddinas, siomedig yw'r newyddion na fydd 'na gyfle iddynt yn y dyfodol."
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Myfyrwyr Caerdydd: "Rydym eisiau mynegi ein cefnogaeth i bob myfyriwr ac ry'n ni'n cyd-sefyll gyda staff a allai gael eu heffeithio."
Ychwanegodd y llefarydd eu bod "wedi cael ymrwymiad gan y brifysgol y bydd yr holl fyfyrwyr sydd yn cael eu heffeithio yn cael cyfathrebiad ganddyn nhw" ddydd Mercher.
Ddydd Mawrth, dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Wendy Larner: "Mae ein strategaeth newydd, a grëwyd ar y cyd â'n cymuned, yn gosod dyfodol uchelgeisiol i'n prifysgol lle mae'n gydweithredol, yn arloesol ac yn darparu gwerth i Gaerdydd, Cymru a'r byd ehangach.
"Mae sicrhau'r dyfodol hwnnw, yng nghyd-destun tynhau cyllid, yn golygu bod angen i ni wneud penderfyniadau anodd i wireddu ein huchelgeisiau i wella ein haddysg a'n hymchwil, a gwella profiad staff a myfyrwyr.
"Rwyf am bwysleisio mai cynigion yw'r rhain, a bydd ein cynlluniau terfynol yn cael eu llunio gan ein cymuned – yn fewnol ac yn allanol – drwy ymgynghoriad ffurfiol."
'Cynlluniau i gefnogi myfyrwyr'
Wrth ymateb i bryderon myfyrwyr dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd y byddan nhw'n "sicrhau y bydd pob myfyriwr yn gallu cwblhau eu hastudiaethau".
"Os fydd unrhyw raglenni yn cau yn sgil y cynigion yma bydd cynlluniau'n cael eu datblygu er mwyn gwarchod a chefnogi myfyrwyr, gan sicrhau y bydd myfyrwyr yn parhau i gael profiad o'r safon uchaf.
"Byddwn ni'n ymgynghori gyda myfyrwyr a staff i drafod y cynlluniau hynny."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n deall y pryder difrifol y mae cyhoeddiad Prifysgol Caerdydd wedi ei achosi i'r rhai sydd wedi eu heffeithio.
"Mae prifysgolion ar draws y DU yn wynebu cyfnod ariannol heriol o ganlyniad i nifer o ffactorau, ac ry'n ni'n disgwyl i sefydliadau weithio gydag undebau llafur, staff a myfyrwyr wrth lunio eu cynigion.
"Mae prifysgolion yn sefydliadau annibynnol, ond mae'r ffaith bod cyrsiau nyrsio yn rhan o'r cyhoeddiad yma yn siomedig, ac ry'n ni'n gweithio ar frys gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i sicrhau ein bod ni'n hyfforddi'r un nifer o nyrsys yng Nghymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2024