Treial yn y gogledd yn ceisio taclo norofeirws
- Cyhoeddwyd
Mae gwirfoddolwyr yn Wrecsam yn cymryd rhan mewn treial clinigol byd-eang i ddod o hyd i frechlyn yn erbyn symptomau norofeirws.
Mae'r salwch, sy'n achosi dolur rhydd a chwydu, yn effeithio ar bron i bedair miliwn o bobl yn y DU bob blwyddyn, gan gostio £100m i'r gwasanaeth iechyd.
Bydd cyfranwyr yn cael brechiad treial neu blasebo, cyn cael eu monitro dros gyfnod o ddwy flynedd.
Mae meddygon yn gobeithio y bydd brechlyn yn arwain at lai yn gorfod mynd i'r ysbyty, a llai o wardiau ynghau er mwyn atal heintiau rhag lledu.
Be' ydy norofeirws?
Norofeirws yw'r byg stumog mwyaf cyffredin yn y DU, ac mae'n heintus iawn.
Mae'n fwy cyffredin yn ystod misoedd y gaeaf ac yn gallu lledaenu trwy gartrefi nyrsio.
Gall pobl oedrannus neu fregus ddatblygu symptomau difrifol.
Mae June Price, 75 oed o Sir Caer, yn un o'r gwirfoddolwyr sy'n rhan o'r treial Nova 301 yng Nghanolfan Ymchwil Clinigol Gogledd Cymru (NWCRF) yn Wrecsam.
Cafodd asesiad iechyd trylwyr i sicrhau ei bod yn gymwys, ac fe gafodd bigiad a allai fod yn frechlyn norofeirws neu yn blasebo.
"Dwi'n meddwl y dylem ni gymryd rhan oherwydd sut arall fydden nhw'n dod o hyd i bethau fel y brechlyn ffliw?" meddai.
"Dwi'n meddwl am y bobl sydd wedi fy helpu i yn y gorffennol, pobl nad ydw i'n eu hadnabod, felly mi hoffwn i helpu pobl yn y dyfodol."
Bydd y tîm yn Wrecsam yn monitro'r gwirfoddolwyr dros y ddwy flynedd nesaf ac yn cofnodi unrhyw newidiadau yn eu hiechyd.
- Cyhoeddwyd2 Ionawr
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2024
Mae'r brechlyn Nova 301 yn cael ei ddatblygu gan y cwmni fferyllol Moderna.
Mae 25,000 o wirfoddolwyr o bob rhan o'r byd wedi'u recriwtio ar gyfer y treial, gan gynnwys 2,500 yn y DU.
Fel y brechlyn Moderna a gafodd ei ddefnyddio yn erbyn Covid-19, mae'r astudiaeth yma yn cynnwys mRNA.
Pan fydd yn cael ei ddefnyddio mewn brechlynnau, mae mRNA yn dangos rhywfaint o god genetig o'r bacteriwm neu'r firws i gelloedd y corff.
Dydy hyn ddim yn ddigon i achosi haint yn ei hun, ond gall ddysgu'r corff sut i amddiffyn ei hun.
Mae'r corff yn darllen ac yn trosi'r cod ac mae'r celloedd imiwn naturiol yn cymryd drosodd.
Dr Orod Osanlou ydy cyfarwyddwr NWCRF, ac ef sy'n arwain y treial yng ngogledd Cymru.
Dywedodd: "Mae mRNA yn dameidiau y gall y system imiwnedd eu codi, felly os ydych chi'n dod i gysylltiad â norofeirws, gobeithio y bydd eich corff yn gallu ymateb yn gynt ac yn fwy effeithiol i helpu atal pobl rhag mynd yn sâl."
Yn ôl Dr Osanlou, mae norofeirws yn costio "dros £100m" i'r GIG yn y DU bob blwyddyn.
Os yw'r treial yn llwyddiannus fe fydd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn penderfynu a ellir ei drwyddedu.
Dywedodd Lynne Grundy, cyfarwyddwr cyswllt ar gyfer ymchwil a datblygu ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, fod pobl ar y cyfan yn "falch iawn" i gymryd rhan mewn treialon clinigol.
"'Dan ni'n gwneud llawer o ymchwil," meddai.
"'Dan ni wedi ymrwymo iddo fo, oherwydd os na fyddwn ni'n gwneud ymchwil a datblygu'r triniaethau a'r brechlynnau yma, fyddwn ni ddim yn gallu gwella'r gofal i gleifion.
"Felly hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb sy'n cymryd rhan yn yr ymchwil."