Y Cofi i'r carn sy'n 'Kit Man' i Loegr - pwy yw Pat Frost?

John Stones a Pat FrostFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pat Frost wedi bod yn gyfrifol am gadw trefn ar offer tîm dynion Lloegr ers 2018

  • Cyhoeddwyd

Pan fydd cyfnod rheolwr newydd Lloegr yn dechrau gyda gêm yn erbyn Albania yn Wembley ar 21 Mawrth, fe fydd gan un aelod o staff Thomas Tuchel un llygad ar yr ornest rhwng Caernarfon a'r Bala.

Pat Frost sydd wedi bod yn gyfrifol am offer tîm dynion Lloegr ers 2018, ond yn ogystal â'i gariad at West Brom, mae gan y kit man berthynas arbennig gyda Chlwb Pêl-droed Caernarfon.

Ers blynyddoedd mae Pat wedi bod yn dilyn y Cofis ar hyd y wlad, ac mae o bellach yn aelod o fwrdd rheoli'r clwb yn y Cymru Premier.

Fe fyddai rhai, o bosib, yn cofio gweld ei faner - sy'n cynnwys bathodynnau Caernarfon a West Brom ar groes San Siôr - yn denu sylw ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod Euro 2024.

Ond beth sy'n gwneud i rywun sy'n byw dros 100 milltir o'r Oval i fod eisiau dilyn, a bod yn rhan o stori'r 'Canaries'?

Pat a'i deulu yn dathlu buddugoliaeth Caernarfon yng ngemau ailgyfle'r Cymru PremierFfynhonnell y llun, Pat Frost
Disgrifiad o’r llun,

Pat a'i deulu yn dathlu buddugoliaeth Caernarfon yng ngemau ail gyfle'r Cymru Premier y tymor diwethaf

Fe ddechreuodd cysylltiad Pat gydag ardal Caernarfon pan symudodd ei deulu i'r ardal yn 1967.

"Fe symudon ni o ardal West Bromwich gan fod Dad wedi prynu gwesty Plas y Bryn ym Montnewydd, felly yno fuon ni'n byw am flynyddoedd," meddai wrth siarad â Cymru Fyw.

"Nes i ddechrau mynd i wylio Caernarfon yn eithaf buan gyda Dad neu fy mrodyr a chwiorydd - pwy bynnag oedd ar gael!

"Ond yng nghanol yr 80au fe symudon ni'n ôl i ganolbarth Lloegr a nes i golli cysylltiad gyda phawb o'n i'n eu nabod i ddweud y gwir…

"Mi oedden ni'n dod am benwythnos bach fan hyn a fan draw i weld y teulu ac i dreulio amser yn Ninas Dinlle, ond doedd o ddim yr un peth."

'Ond yn colli tua chwe gêm bob tymor'

Ond fe newidiodd pethau i Pat pan aeth i wylio gêm yn yr Oval tua phum mlynedd yn ôl: "Nes i weld llwyth o bobl do'n i heb weld ers oes a ges i fy nhynnu nôl mewn.

"Dwi'n dal i fyw yng nghanolbarth Lloegr ac yn dilyn West Brom yn grefyddol, ond dwi ond yn colli tua chwe gêm [Caernarfon] bob tymor gan fod gymaint yn cael eu chwarae ar nos Wener neu yng nghanol yr wythnos.

"Dwi'n cofio un cefnogwr yn dweud wrtha' i 'mae 'na rai cefnogwyr sydd heb ddigon o fynadd i gerdded i gemau, ond ti'n dewis teithio pum awr yma ag yn ôl'.

"Mae dilyn Caernarfon yn gwbl wahanol i ddilyn West Brom, mae'r clwb yng nghalon y dref, gwirfoddolwyr sy'n ei reoli ac mae'r cefnogwyr yn anhygoel. Mae'r holl beth reit humbling i ddweud y gwir."

Rheolwr Caernarfon yn dathluFfynhonnell y llun, Mabon Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

Un o uchafbwyntiau Pat ers iddo ddechrau dilyn y clwb oedd gwylio Caernarfon yn ennill yn erbyn Crusaders yng Ngogledd Iwerddon

Cafodd wahoddiad i ymuno â bwrdd rheoli'r clwb tua phedair blynedd yn ôl ac mae'n edrych ymlaen at weld y clwb yn parhau i ddatblygu dros y blynyddoedd i ddod.

"Pan ddechreuais i doedd gan y clwb ddim pres - 'sa ni'n cael cyfarfod i benderfynu os oedden ni'n gallu sbario £100 i brynu oergell newydd - roedden ni wir mewn sefyllfa anodd yn ariannol.

"Mae pethau'n well erbyn hyn diolch i'r arian gawsom ni am gyrraedd Ewrop, ond yr un bobl sydd yma, mae'r stadiwm yr un fath."

Ychwanegodd mai un o'r uchafbwyntiau ers iddo ailddechrau dilyn y clwb oedd taith Ewropeaidd y Cofis a'u buddugoliaeth yn erbyn Crusaders ar ddechrau'r tymor.

"Oherwydd fy ngwaith nes i fethu'r cymal cyntaf, ond y diwrnod ar ôl i mi gyrraedd 'nôl o'r Almaen - ar ôl 60 diwrnod gyda thîm Lloegr - nes i ddal fferi draw i Ddulyn i weld y gêm. Mi oedd o'n anhygoel."

Southgate a thîm Lloegr yn gwylio Caernarfon

Mae Pat yn gweithio i Gymdeithas Bêl-droed Lloegr ers 2004, ac ers 2018 mae'n gyfrifol am gadw trefn ar offer tîm cyntaf y dynion - ond mae'n dweud bod y staff a'r chwaraewyr i gyd bellach yn ymwybodol o'i gysylltiad â gogledd Cymru.

"Mi oedd pawb yn arfer holi am West Brom, ond erbyn hyn mae'r staff a'r chwaraewyr i gyd yn holi am hanes Caernarfon, sut 'da ni'n 'neud eleni ac ati.

"Yn ystod yr Euros yn yr Almaen fe lwyddodd y tîm video analysis i gael gêm Caernarfon yn erbyn Crusaders ar y sgrin fawr yn yr ystafell gemau.

"Roedd Gareth Southgate, Steve Holland a rhwng 20 a 30 o staff a chwaraewyr yn eistedd yn gwylio'r gêm efo fi.

"Fe wnaeth Ollie Watkins ddweud, gyda thafod yn ei foch, y byddai gorffen ei yrfa gyda Chaernarfon os o'n i dal yn ymwneud â'r clwb. Fydda i bendant yn ei ffonio mewn ryw bum neu chwe mlynedd!"

Pat Frost yn 2017Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pat wedi bod yn gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Lloegr ers 2004, gan weithio gyda nifer o wahanol dimau dros y blynyddoedd

Mae Pat yn teithio i bob un o gemau tîm dynion Lloegr fel rhan o'i swydd, ac yn teithio gyda fo i bob gêm mae ei faner - rhywbeth wnaeth ddenu cryn dipyn o sylw ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr Euros y llynedd.

"Nes i 'falu'r we' y noson honno! Ond i fod yn onest, mi wnaeth rhai o'r sylwadau fynd ar fy nerfau.

baner Lloegr PatFfynhonnell y llun, Pat Frost
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tipyn o ymateb ar-lein i faner Pat yn ystod ymgyrch Lloegr yn Euro 2024

"Roedd 'na ryw agwedd gan rai nad oedd hawl gan Sais fel fi i ddilyn Caernarfon - dwi'n cofio un person yn dweud 'o mae'n siŵr na ryw Sais efo jet ski ac ail gartref ydi hwn'.

"Ond y gwir ydi, dwi wedi rhoi lot o arian fy hun i mewn i'r clwb, ac mae taith i wylio gêm gartref yn gallu bod yn wyth awr i mi ar adegau.

"Ond er i rai geisio beirniadu, mi wnaeth y 'Cofi Army' fy amddiffyn chwarae teg."

Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen at arddangos y faner wrth deithio rownd y byd gyda Lloegr yn ystod yr ymgyrch nesaf… a pharhau i ddangos baner y 'West Brom Cofis' yn yr Oval hefyd wrth gwrs.

baner 'West Brom Cofis'Ffynhonnell y llun, Pat Frost

Pynciau cysylltiedig