Llwyddiant Antur Aelhaearn 'yn brawf o gryfder cymuned'
- Cyhoeddwyd
Hanner canrif yn ôl fe gafodd menter gymunedol gyntaf y DU ei sefydlu ym mhentref Llanaelhaearn, Gwynedd.
Er mwyn nodi'r garreg filltir honno mae arddangosfa arbennig yn agor nos Wener er mwyn edrych yn ôl ar hanner canrif o waith cymunedol.
Cafodd Antur Aelhaearn ei sefydlu yn 1974 yn dilyn ymgyrch lwyddiannus i achub ysgol gynradd y pentref.
Ers hynny mae wedi esblygu i gynnal bob math o brosiectau cymunedol.
Dywedodd Lynda Cox, ysgrifennydd y fenter, bod gwerth mewn cofio'n ôl i ddechreuad y cyfan, ond bod edrych ymlaen at gynlluniau'r dyfodol hefyd yn bwysig.
Er i'r gymuned lwyddo i sicrhau dyfodol yr ysgol leol, roedd y mater wedi tynnu sylw at angen am atebion hirdymor.
Cafodd Cymdeithas y Pentrefwyr ei sefydlu yn gyntaf i geisio gwneud Llanaelhaearn yn le mwy deniadol i bobl ifanc, cyn i'r meddyg teulu Carl Clowes gael ei ysbrydoli gan fudiadau yn Iwerddon oedd yn ceisio cynnal cymunedau trwy werthu cynnyrch yn lleol.
Wedi sawl ymweliad ag Iwerddon, a chynnal cyfarfod cyhoeddus yn y pentref ym 1973, fe ddechreuodd y gwaith o sefydlu Antur Aelhaearn dan arweiniad Dr Clowes.
Roedd yna gyfle i drigolion brynu cyfranddaliadau yn y mudiad am £1 yr un, ac fe ddefnyddiwyd y cyllid i agor busnesau crochenwaith a gweuwaith, gan greu swyddi yn lleol.
Erbyn hyn, mae gan Antur Aelhaearn tua 180 o aelodau, ac maen nhw'n cynnal pob math o brosiectau cymunedol - o glwb swper a ffilm i blant i siop gymunedol.
Mae cynlluniau hefyd ar y gweill i ddatblygu hen ysgol y pentref i fod yn gampfa gymunedol, a defnyddio Capel y Babell fel canolfan ffitrwydd.
'Ydrych ymlaen yn arw'
Dywedodd Lynda Cox, sy’n helpu i drefnu’r dathliadau: "Dydi llawer o bobl ddim wir yn gwybod sut cychwynnodd popeth.
"Dechreuodd Antur o frwydr i gadw’r ysgol ar agor, ac yna symudodd ymlaen i greu cyfleoedd gwaith lleol.
"Roedd yn fater o sicrhau bod pobl ifanc yn aros yn y pentref a bod y gymuned yn parhau i ffynnu.
"Dros y blynyddoedd, 'dan ni wedi gweld cymaint o brosiectau’n datblygu, ac mae hyn yn dangos pa mor gryf mae cymuned yn gallu bod pan fydd pawb yn cydweithio."
Mae’r arddangosfa, Dathlu’r 50, yn dwyn ynghyd hen luniau, dogfennau, a straeon o ddyddiau cynnar y mudiad, yn ogystal â rhoi sylw i brosiectau mwy modern.
"'Dan ni'n edrych ymlaen yn arw i ddathlu'r pen-blwydd," meddai Ms Cox.
"Mae gynnom ni bob math o bethau pwysig yn yr arddangosfa - o luniau hanesyddol o’r cyfarfod cyntaf, i wasgodau a sgertiau’r dyddiau cynnar, ac i’r faner a ddefnyddiwyd yn y brotest yn erbyn cau’r ysgol yng Nghaernarfon!"
Dros y blynyddoedd, mae Antur Aelhaearn wedi addasu i geisio ateb anghenion y gymuned.
Ymhlith y cynlluniau diweddaraf mae Coedlan Carl - coetir newydd wedi’i enwi er cof am Dr Carl Clowes, a fu farw yn 2021.
Mae’n cynnwys llwybr pren trwy goetir newydd gyda dros 3,000 o goed wedi’u plannu, yn ogystal â 11 o gychod gwenyn, gyda’r mêl yn cael ei werthu yn y siop gymunedol leol.
"Er ei bod hi'n teimlo fel bod hi 'di cymryd amser hir iawn i ni gyrraedd y pwynt yma, 'dan ni'n andros o falch o'r gwaith sydd wedi'i wneud," ychwanegodd Ms Cox.
"Yn anffodus, ac yn reit chwerwfelys, mae'r ysgol gynradd ddaru gychwyn yr holl beth wedi cau erbyn hyn. Fe wnaeth hi ostwng lawr i chwech o blant, a pan ddaeth y cyfnod clo roedd yn rhaid iddi gau.
“Ond mae cymaint o deimlad o gymuned yma – yn ystod y pandemig, 'oedden ni’n dosbarthu anrhegion Nadolig i blant.
"Bellach, rydym yn rhedeg pantri bwyd am ddim a chynnal sesiynau iechyd meddwl, cymorth cyntaf, cyrsiau cadw gwenyn a gymaint mwy."
Mae’r gymuned hefyd wedi prynu Becws Glanrhyd ac wedi sefydlu pantri newydd, a enwyd ar ôl Beti Hughes, sy'n drysorydd ar y fenter ers blynyddoedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2021