Y Seintiau Newydd yn ennill Cwpan Cymru

Jordan Williams sgoriodd y gôl i'w gwneud hi'n 2-1 i'r Seintiau Newydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Seintiau Newydd wedi ennill Cwpan Cymru ar ôl trechu Cei Connah yn y rownd derfynol yn Rodney Parade.
Cei Connah oedd yn fuddugol pan wynebodd y ddau dîm ei gilydd yn ffeinal y llynedd, a'r deiliaid aeth ar y blaen brynhawn Sul wedi wyth o funudau.
Yn dilyn chwarae da lawr yr asgell dde gan Rhys Hughes fe lwyddodd Declan Poole i daro'r bêl yn gywir i gornel isa'r rhwyd.
Daeth y Seintiau yn gyfartal wedi 17 o funudau diolch i gic-rydd ardderchog gan Rory Holden.
Daeth yr ail gôl i bencampwyr y Cymru Premier wedi 54 o funudau.
Wedi chwarae taclus ar ymyl y cwrt cosbi gan Holden a Daniel Williams fe groesodd Daniel Redmond y bêl tuag at Jordan Williams a beniodd yn bwerus heibio'r golwr.
Er i Cei Connah greu ambell i gyfle i ddod yn gyfartal, roedd amddiffyn y Seintiau Newydd yn ddigon cadarn i sicrhau eu bod yn cipio'r fuddugoliaeth.
Cei Connah yn dechrau gyda 10 dyn
Fe ddechreuodd Cei Connah y gêm gyda deg dyn ar y cae ar ôl iddyn nhw wneud camgymeriad wrth gofnodi'r tîm.
Roedd Kai Edwards, sydd wedi anafu ar hyn o bryd, wedi ei gynnwys yn yr 11 - ac ar ôl sylwi bod y tîm yn anghywir, roedd Cei Connah am ei gyfnewid am Chris Marriott.
Ond gan nad oedd Marriott wedi ei gynnwys ymhlith yr eilyddion yn wreiddiol, bu'n rhaid iddyn nhw ddewis y golwr Jon Rushton yn ei le.
Yn hytrach na chychwyn y gêm gyda Rushton mewn safle anghyfarwydd, fe ddechreuodd Cei Connah gyda deg dyn cyn dod â Marriott ymlaen fel eilydd pan aeth y bêl yn farw am y tro cyntaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd28 Ebrill