Cymru yn paratoi am eira wrth i rybudd tywydd newid i oren
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi uwchraddio'r rhybudd am eira mawr a rhew i Gymru dros y penwythnos o felyn i oren.
Mae'r rhybudd oren mewn grym ar gyfer mwyafrif helaeth y wlad, oni bai am y mannau mwyaf gorllewinol, a'r arfordir.
Bydd y rhybudd hwnnw mewn grym rhwng 18:00 nos Sadwrn a 12:00 ddydd Sul.
Mae rhybudd melyn mewn grym ar gyfer Cymru gyfan rhwng 12:00 ddydd Sadwrn tan 23:59 nos Sul.
Yn ôl yr arbenigwyr, sy'n rhagweld hyd at 7cm o eira yn gyffredinol, fe allai hyd at 30cm o eira syrthio ar dir uchel, gan achosi lluwchfeydd wrth i'r gwynt gryfhau.
Mae disgwyl i'r amodau gwaethaf achosi trafferthion teithio a thoriadau trydan, ac fe allai'r cymunedau mwyaf gwledig gael eu cau gan eira.
Wrth i awyr fwynach symud tua'r gogledd, fe allai'r eira droi'n law rhewllyd mewn mannau, ac mae'n bosib y gallai'r eira ddechrau dadmer yn gymharol gyflym.
Roedd y Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew ar gyfer rhannau o'r wlad nos Iau a bore Gwener, a ddaeth i ben am 10:00.
Ond mae rhybudd arall am rew mewn grym ar gyfer rhannau o'r gogledd rhwng 16:00 ddydd Gwener a 10:00 fore Sadwrn.
Mae sawl cyngor a chorff cyhoeddus yn dweud bod trefniadau ar waith i ymdopi â'r tywydd garw.
Mae Cyngor Caerdydd wedi apelio ar yrwyr i fod yn ofalus, gan ddweud y bydd yn defnyddio hyd at 60 tunnell fetrig o raean bob nos i leihau trafferthion ar y ffyrdd.
Maen nhw hefyd yn annog trigolion i ddefnyddio'r 400 o finiau halen ar draws y ddinas.
Dywed y Grid Cenedlaethol, sy'n gyfrifol am rwydwaith cyflenwi trydan yn ne a chanolbarth Cymru, eu bod "wedi bod yn paratoi ar gyfer y gaeaf trwy gynnal atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw rhagblaen".
Ychwanegodd eu Cyfarwyddwr Rheoli Asedau, Phillipa Slater: "Gallai'r rhagolygon ar gyfer y penwythnos achosi rhywfaint o drafferthion mewn mannau ac mae ein peirianwyr yn barod i atgyweirio unrhyw ddifrod y gallai'r tywydd drwg ei achosi."
Dywed Dŵr Cymru eu bod yn dosbarthu offer insiwleiddio a lapio am ddim er mwyn atal peipiau rhag rhewi a byrstio.
Maen nhw'n hefyd yn dweud bod angen i breswylwyr wybod ble mae stop-tap eu cartrefi er mwyn ei gau i leihau difrod petai pibell yn byrstio.
Maen nhw'n argymell cau'r tap mewn adeiladau gwag, sy'n fwy agored i risg.
Cadw golwg ar bobl oedrannus
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori pobl i gadw golwg ar y wybodaeth ddiweddaraf am y tywydd yn lleol ac am y sefyllfa i deithwyr.
Maen nhw eu hannog i ddilyn cyngor y gwasanaethau brys, ac i gadw golwg ar "anwyliaid a chymdogion, yn enwedig y rhai a allai fod angen cymorth ychwanegol".
Hefyd mae yna gyngor i bobl i wisgo sawl haen denau o ddillad, cael digon o fwyd a diodydd poeth trwy'r diwrnod ac aros adref os nad oes angen mynd allan.
Neges debyg sydd gan Llio Jones o'r elusen Age Cymru yng Ngwynedd a Môn, ond mae hi hefyd yn awgrymu i bobl "gau drysa' 'stafelloedd sydd ddim yn ca'l eu defnyddio" a chau llenni wrth iddi dywyllu.
Mae pobl oedrannus, meddai, yn gallu bod "yn rhy falch" i ofyn am help, ac felly mae angen cadw golwg agosach arnyn nhw yn ystod tywydd garw.
"Os 'dach chi'm 'di gweld rywun am 'chydig o ddiwrnoda', plîs cerwch i weld nhw, i weld os ydyn nhw'n iawn," dywedodd.
Dywedodd y cynghorydd Keith Henson, aelod cabinet Cyngor Ceredigion, fod "gwaith paratoi yn mynd ymlaen yn y cefndir" ar gyfer y penwythnos.
"Mae staff gweithredol yn edrych ar y data sy'n dod trwyddo bob dydd oddi wrth y Swyddfa Dywydd i gael gweld beth yw'r rhagolygon am y 24 awr nesaf."
Dywedodd Mr Henson fod cynllun gweithredol yn ei le ar gyfer pa ffyrdd fydd yn cael eu blaenoriaethu o ran graeanu.
"Mae angen sicrhau bod y prif ffyrdd yn cael eu gwneud a bod ffyrdd sy'n bwydo fewn i'r prif ffyrdd yn cael eu graeanu hefyd.
"Os mae digon o staff a graean ar gael bydde rhewlydd eraill yn cael eu gwneud. Ond y prif beth yw bod y prif ffyrdd yn cael eu gwneud yn ddiogel."
Ychwanegodd y cynghorydd y byddai'n cynghori pobl i osgoi teithio os na bod rhaid ac i yrru i'r amodau.
Dywedodd hefyd ei fod yn bwysig i fod mewn cyswllt â ffrindiau a theulu a phobl fregus rhag ofn eu bod yn cael eu gadael heb drydan.
Bu'n rhaid i dimau achub ymateb i alwad frys ar gopa mynydd uchaf y de ddydd Iau.
Roedd amheuaeth bod menyw wedi torri ffêr ar ôl llithro ar Ben y Fan ym Mannau Brycheiniog.
Gyda'r tymheredd yn rhewllyd, fe gafodd hofrennydd Gwylwyr y Glannau ei anfon i gludo'r fenyw o'r copa i droed y mynydd o ble y cafodd ei chludo i'r ysbyty mewn ambiwlans.
Bu'n rhaid achub pedwar a chludo person i'r ysbyty wedi i gar droi ar ei ochr ger cronfa ddŵr ym Mhowys ddydd Iau hefyd, gyda'r gwasanaethau brys yn dweud fod yr amodau rhewllyd yn "arbennig o heriol".
Cafodd y gêm rhwng Y Bala a Chaernarfon yn y Cymru Premier ei gohirio nos Wener hefyd am fod y cae wedi rhewi.
Daw'r rhybudd tywydd diweddaraf wedi dyddiau o law trwm a gwyntoedd cryfion ar draws Cymru.
Bu tirlithriad ar yr A470 ger Dinas Mawddwy yng Ngwynedd a bu'n rhaid achub dau berson o gerbyd yn ardal Llanrwst wedi i Afon Conwy orlifo'i glannau gan achosi llifogydd.
Roedd yna rybudd melyn am rew mewn grym yn rhannau helaeth o'r gogledd a'r canolbarth ers prynhawn Dydd Calan ond fe ddaeth hwnnw i ben am 10:00 fore Iau.
Roedd amryw o rybuddion llifogydd, dolen allanol mewn grym ddydd Mercher a dydd Iau, ond fe gafodd yr olaf o'r rheiny eu dileu ddydd Iau.