Pensiynwr coll wedi'i ganfod mewn car yn y môr - cwest

Reginald ReesFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y gwrandawiad nad oedd amgylchiadau amheus ynghylch marwolaeth Reginald Rees

  • Cyhoeddwyd

Cafodd corff dyn 98 oed aeth ar goll o Abertawe ei ddarganfod yn ei gar, yn y môr, clywodd agoriad cwest.

Clywodd Llys y Crwner Abertawe i Reginald Rees o bentref Crofty gael ei ganfod yn agos at glogwyn ym Mae Rhosili ar 18 Awst.

Fe wnaeth y gwasanaethau brys gyhoeddi fod Mr Rees ar goll ar 14 Awst ar ôl i bryderon gael eu codi am ei “hwyliau gwael”.

Cafodd ei weld ddiwethaf yn gyrru car Renault Captur coch o’i gartref.

Fe ddangosodd archwiliad post-mortem iddo ddioddef nifer o anafiadau yn dilyn gwrthdrawiad.

Clywodd y crwner Aled Gruffydd nad oedd amgylchiadau amheus ynghylch ei farwolaeth ac fe gafodd y cwest ei ohirio tan fis Chwefror.

Pynciau cysylltiedig