Etholiadau heddlu: Plaid Cymru am newid rheolau cyffuriau
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru wedi galw am ddad-droseddoli cyffuriau fel rhan o'u hymgyrch yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd.
Yn ôl y blaid dylai'r heddlu fod yn canolbwyntio ar y rhai hynny sy'n cyflenwi cyffuriau yn hytrach nag unigolion.
Maen nhw'n galw ar y Swyddfa Gartref i glirio cofnodion troseddol pobl sydd wedi cael eu cyhuddo o droseddau cyffuriau lle nad oes unrhyw ffactorau eraill i'w hystyried.
Bydd etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd Cymru yn cael eu cynnal ar 2 Mai.
- Cyhoeddwyd24 Ebrill
- Cyhoeddwyd30 Ebrill
Er nad yw Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn gyfrifol am benderfyniadau ynglŷn â gwaith dydd i ddydd yr heddlu, maen nhw'n gosod blaenoriaethau a chyllideb flynyddol ar gyfer pob ardal.
Yng Nghymru mae pedwar Comisiynydd, un ar gyfer pob ardal blismona - De Cymru, Gwent, Dyfed-Powys, a Gogledd Cymru.
Mae ymgeisydd Plaid Cymru, Dafydd Llywelyn, yn gomisiynydd yn Nyfed Powys ers 2016.
Yn eu maniffesto ar gyfer yr etholiadau, mae Plaid Cymru yn addo system gyfiawnder "decach a mwy cyfartal".
'Targedu'r rhai sy'n elwa ar ddioddefaint'
Mae Plaid Cymru'n dadlau y dylai heddluoedd Cymru dderbyn rhagor o arian gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac y dylai rheolaeth dros gyfiawnder troseddol gael eu datganoli i'r Senedd.
Yn ôl maniffesto’r blaid, dylai helpu dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol fod yn ganolog i waith yr heddlu, ac maen nhw'n addo amddiffyn gorsafoedd heddlu cymunedol pan fo rheswm digonol i wneud hynny.
Yn ogystal, mae Plaid Cymru yn awgrymu y dylai'r heddlu "ganolbwyntio ar dargedu'r rhai sy'n cyflenwi ac yn gwerthu cyffuriau yn hytrach na'r defnyddwyr unigol - os nad yw'r unigolion hynny yn achosi unrhyw niwed ehangach".
"Drwy ddad-droseddoli cyffuriau, polisi a fyddai'n parchu dewis unigolion, gallwn ddefnyddio adnoddau'r heddlu i dargedu grwpiau troseddol sy'n elwa ar ddioddefaint eraill," meddent.
Mae Plaid Cymru'n dadlau bod dulliau traddodiadol o geisio cadw trefn ar gyffuriau a gweithgarwch grwpiau troseddol wedi methu, a bod hynny wedi arwain at "awyrgylch gas a threisgar".
O ganlyniad maen nhw'n galw am gynnal adolygiad i bolisïau cyffuriau a phlismona.
Hefyd yn y maniffesto mae Plaid Cymru'n galw am roi ad-daliad o £1m i Heddlu Dyfed-Powys yn sgil costau yn gysylltiedig â'r protestiadau yng Ngwesty Parc y Strade, Llanelli.
Mae'r ddogfen hefyd yn awgrymu y gallai rhai gwasanaethau weithio'n well o fewn un sefydliad yn hytrach na'u rhannu ar hyd y pedwar llu.
'Haeddu gwell'
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth bod "degawdau o doriadau gan lywodraethau Ceidwadol yn golygu bod ein heddluoedd wedi eu tan gyllido", a bod "Cymru'n derbyn llai na'r hyn sy'n deg o ystyried maint y boblogaeth".
"Mae'r sefyllfa wedi cael ei gwneud yn waeth yn sgil penderfyniad Llywodraeth Lafur Cymru i leihau nifer y swyddogion cymorth cymunedol a thorri cyllid rhaglen ysgolion yr heddlu yng Nghymru.
"Mae Plaid Cymru yn credu ein bod ni'n haeddu gwell," meddai.
"Mae'r maniffesto yn uchelgeisiol ac yn cynnwys ystod eang o bolisïau gyda thegwch wrth wraidd y cyfan, ond mae o hefyd yn pwysleisio'r ffaith y dylai rheolaeth dros gyfiawnder yng Nghymru gael ei drosglwyddo i Gymru."
Pwy sy'n sefyll y tro hwn?
Yn Nyfed-Powys yr ymgeiswyr yw:
Justin Griffiths, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Ian Harrison, Ceidwadwyr Cymreig
Dafydd Llywelyn, Plaid Cymru
Philippa Ann Thompson, Llafur Cymru.
Yng Ngwent:
Donna Cushing, Plaid Cymru
Mike Hamilton, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Hannah Jarvis, Ceidwadwyr Cymreig
Jane Mudd, Llafur Cymru.
Yng Ngogledd Cymru:
Andy Dunbobbin, Llafur Cymru
Ann Griffith, Plaid Cymru
Brian Jones, Ceidwadwyr Cymreig
David Richard Marbrow, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
Yn Ne Cymru:
Sam Bennett, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
George Carroll, Ceidwadwyr Cymreig
Dennis Clarke, Plaid Cymru
Emma Wools, Llafur Cymru.