Bwyd Hud gan Dylan - stori fuddugol Radio Cymru
- Cyhoeddwyd
Dylan o Ysgol Gynradd Gymraeg Pen-y-Groes, Caerdydd yw un o enillwyr Cystadleuaeth Sgwennu Stori Aled Hughes ar BBC Radio Cymru eleni.
Daeth Dylan yn fuddugol yn adran Cyfnod Allweddol 2B. Yr awdures Casia Wiliam oedd y beirniad mewn cystadleuaeth gref. Y gofynion oedd ysgrifennu stori dan y thema hud a lledrith.
Fel gwobr, fe luniodd yr artist Huw Griffiths lun clawr i stori Dylan.
Mwynhewch stori Dylan, Bwyd Hud.
Bwyd Hud
Un tro, roedd meteor wedi taro mewn i’r Ddaear. Daeth i stop ar ben creigiau miniog Ynys Môn.
Dechreuodd ollwng tonnau hud a deithiodd o gwmpas y byd ac i mewn i bob siop. Roedd y tonnau’n edrych fel tonnau’r môr ond yn amryliw ac yn dryloyw.
Doedden nhw ddim yn taro yn erbyn unrhyw beth ond yn treiddio trwy bopeth.
Ym mhob siop, unwaith i’r tonnau eu cyffwrdd, roedd ffrwythau a llysiau yn dod yn fyw.
Roedd yn broses araf i’r ffrwythau. Roedden nhw’n ddiog a ddim eisiau codi o’u gwlâu clud, tra roedd y llysiau yn codi fel milwyr, fel petai nhw’n mynd i frwydro.
Aeth y llysiau draw i’r eil ffrwythau a gofyn iddyn nhw os oedden nhw eisiau cymryd y byd drosodd.
Dywedodd y ffrwythau “Na!”, felly dywedodd y llysiau, “Rydyn ni’n mynd i gymryd dros eich eil!”
Dechreuodd y brocoli rwygo eu blodau a’u defnyddio fel clwb i daro’r ffrwythau. “Aww!” sgrechiodd y tomatos.
Roedden nhw’n mathru a’u sudd yn gollwng dros lawr yr eil.
Roedd y bananas yn agor eu croen fel siaced ac yn defnyddio y croen fel bwa.
Cydion nhw mewn ffyn cebab i saethu at y llysiau. Roedden nhw’n llwyddiannus wrth daro’r blodfresych.
Cynddeiriodd hyn y llysiau ac ymatebodd y pupur drwy rolio tatws ar draws y llawr fel eu bod yn bwrw dros y gellyg fel piniau bowlio.
Yn ystod y frwydr cododd y llysiau eu brenin – Winwnsyn – uwch eu pennau er mwyn iddo siarad gyda brenin y ffrwythau – Draigffrwyth.
“Ti'n meddwl bo' ti mor gryf Draigffrwyth! Ond ti’n wan.”
Atebodd y Draigffrwyth “Ha! Ha! Ha! Rydw i wedi hyfforddi fy milwyr yn well nag wyt wedi hyfforddi dy rhai di!”
“Falle bod dy filwyr di’n felys ond o leia dydyn ni ddim yn malu fel dy domatos di!” bloeddiodd Winwnsyn.
“Ond ni sydd â’r tir uwch ac felly’r fantais!”
A gyda hynny ymunodd y brenhinoedd yn y frwydr.
Rhwygodd Winwnsyn haenau o’i groen a’u lluchio at y ffrwythau.
Yn syth, dechreuodd eu llygaid i ddyfrio a doedden nhw ddim yn gallu gweld a ddim yn gallu brwydro.
Glaniodd darn o winwnsyn ar ben Draigffrwyth a waeddodd “Heeeelp!"
Wrth iddo geisio tynnu’r croen winwns oddi arno, cyrhaeddodd banana i saethu ffyn cebab at Winwnsyn.
Tarodd un ffon fraich Winwnsyn a ollyngodd ei fforc bach pren a chrio.
“Mae wedi cael fi, mae wedi cael fi!”
Erbyn hyn, llwyddodd Draigffrwyth i dynnu’r croen winwnsyn fel ei fod yn gallu gweld a pigodd fforc Winwnsyn i fyny a’i daflu o’i ysgwydd fel siotpwter.
Glaniodd y fforc yn nhalcen Winwnsyn. Cwympodd Winwnsyn i’r llawr yn farw.
Distawodd yr eil. Edrychodd pob llygad ar gorff Winwnsyn ar y llawr.
Deallodd y llysiau eu bod wedi colli a dechreuon nhw encilio.
Rhwygodd y bananas eu crwyn a defnyddio’r crwyn i glymu dwylo a thraed y llysiau fel na allen nhw symud.
Taflon nhw pob llysieuyn i’r rhewgell. Heb siacedi, roedden nhw’n oer.
Aethant ati i blisgo siacedi’r tatws a’u gwisgo fel cotiau eu hunain.
Wedyn aethant yn ôl i’w bocsys ar yr eil. Gwnaethant eu hunain yn gyfforddus, caeon nhw eu llygaid a mynd yn ôl i gysgu.
Y Diwedd.