Cennard Davies yw Llywydd Prifwyl Rhondda Cynon Taf
- Cyhoeddwyd
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai Cennard Davies - "un sydd wedi cyfrannu cymaint i fywyd Cymraeg ardal Treorci a’r Rhondda" - fydd Llywydd y Brifwyl eleni.
Fel rhan o'i rôl bydd yn annerch cynulleidfa'r Pafiliwn ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, sy'n cael ei chynnal ym Mhontypridd rhwng 3-10 Awst.
Cafodd Mr Davies ei ddisgrifio gan gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod eleni, Helen Prosser, fel "dyn ei filltir sgwâr sydd wedi cyfrannu at Gymru gyfan".
Ychwanegodd bod "ei gyfraniad i’r sector Dysgu Cymraeg – yn lleol ac yn genedlaethol – yn amhrisiadwy".
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2024
Yn frodor o Dreorci yng Nghwm Rhondda, mae Cennard Davies wedi byw yn y dref erioed, oni bai am gyfnodau ym Mhrifysgol Abertawe a blwyddyn yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd.
Ar ôl graddio fe ddychwelodd i’w hen ysgol, Ysgol Ramadeg y Porth, fel athro cyn mynd i Goleg y Barri i arwain cwrs yn y Gymraeg ar gyfer athrawon.
Fe dreuliodd weddill ei yrfa ar ôl hynny yn dysgu Cymraeg i oedolion, gan gynnwys dysgu cenedlaethau o drigolion yr ardal ar gwrs dwys.
Daeth yn bennaeth Canolfan Astudiaethau Iaith Prifysgol Morgannwg, ond mae hefyd wedi cyfrannu at ddatblygu dysgu Cymraeg i Oedolion yn genedlaethol.
Roedd ymhlith y tiwtoriaid a oedd yn gyfrifol am greu, a chyflwyno, y gyfres Catchphrase ar BBC Radio Wales.
Roedd Mr Davies ymhlith sylfaenwyr ardal Dysgu Cymraeg yr Eisteddfod Genedlaethol, yn un o’r arloeswyr cynnar yn Nant Gwrtheyrn, ac yn awdur nifer o lyfrau.
Yn y 1970au roedd yn gadeirydd ar Mudiad Meithrin, ac mae wedi "ymgyrchu'n ddiflino" i sefydlu ysgolion Cymraeg yng Nghwm Rhondda.
Mr Davies yw Llywydd Anrhydeddus Cronfa Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg - cronfa ar gyfer hybu addysg Gymraeg drwy gefnogi sefydlu ysgolion a chefnogi disgyblion.
Fe olygydd papur bro'r Rhondda, Y Glorian, am ddegawdau, yn gynghorydd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf, yn ddiacon ac yn ysgrifennydd Capel Hermon, Treorci.
Dywed Helen Prosser ei fod yn ŵr "bonheddig a sgwrsiwr heb ei ail" a'i bod yn "donic i gael treulio amser yn ei gwmni".