Llechan Lân o'r diwedd i Gwilym ar ôl Covid

Y band GwilymFfynhonnell y llun, Rhys Grail
  • Cyhoeddwyd

Er eu llwyddiant, mae’r band Gwilym wedi cael eu siâr o anlwc - ond wrth baratoi i deithio Cymru i hyrwyddo eu halbwm newydd mae 'na gyfnod cyffrous o'u blaenau.

Fe wnaeth caneuon bachog, egnïol eu halbwm cyntaf Sugno Gola ddal sylw yn 2018, gan arwain at 2019 prysur iawn gyda dros 50 o gigs, pum gwobr Selar a chael cynnig cloi nos Wener Maes B yn Llanrwst... tan i storm roi stop ar hynny a gorfodi canslo’r ddwy noson olaf.

'Roedd o'n horrible'

Ar ddechrau 2020, roedden nhw yn dal ar frig y don gyda mwy o wobrau Selar ac yn edrych ymlaen at chwarae Gig y Pafiliwn yn yr haf a chloi noson olaf Maes B yn Nhregaron... tan i bandemig roi stop ar bopeth.

“Roedd o’n horrible,” meddai prif leisydd y band Ifan Pritchard. “Ar ôl y gwobrau Selar roeddan ni’n meddwl ‘da ni yn y sin rŵan ac mae pobl yn cefnogi ni’.

"Wnaethon ni gymaint o gigs - bob penwythnos roeddan ni’n gwneud rhywbeth a roeddan ni’n meddwl fasa’r haf yna yn haf da i ni. Wedyn wnaeth Covid hitio.

"Roeddan ni’n meddwl fasa dau fis yn gwneud daioni achos roeddan ni wedi blino ac angen brêc. Ond wnaeth dau fis droi yn ddwy flynedd.”

Fel nifer o artistiaid eraill, fe geisiodd y band bydru ‘mlaen orau allen nhw er gwaetha’r pandemig – er enghraifft rhyddhau'r sengl 50au yn ystod un o’r cyfnodau clo a gwneud Gigs Tŷ Nain pan laciwyd rhywfaint ar y cyfyngiadau.

Ffynhonnell y llun, FfotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Ifan Pritchard oedd un o drefnwyr Gigs Tŷ Nain oedd yn ceisio trefnu digwyddiadau byw rhithiol o fewn canllawiau Covid. Roedd Gwilym yn un o'r bandiau wnaeth berfformio yn y digwyddiad cyntaf

Ond roedd yn rhaid disgwyl tan Awst 2022, a chloi noson agoriadol Maes B a pherfformio yn Gig y Pafiliwn yn Eisteddfod Tregaron i deimlo eu bod nhw’n gallu symud ymlaen go iawn.

Meddai: “Wnaethon ni weithio mor galed am bum mlynedd ac wedyn roedd bod yn Gig y Pafiliwn o flaen ein teuluoedd a ffrindiau yn gwneud rhywbeth oeddan ni wedi gweld ein harwyr yn wneud – bandiau fel Sŵnami, Candelas, Yr Eira – roedd o fel ein bod ni wedi dod full circle ac yn cloi’r bennod ar yr hen ganeuon ac yn galluogi ni wedyn i ryddhau caneuon newydd.”

Ffynhonnell y llun, Gwilym/Cosh
Disgrifiad o’r llun,

Ail record hir Gwilym, gafodd ei rhyddhau haf 2023

Sain newydd

Ac mae’r rheiny i’w clywed ar Ti Ar Dy Ora’ Pan Ti’n Canu – albym sy’n cyflwyno Gwilym efo sain a chaneuon mwy aeddfed na’r band cyn-Covid.

“Dan ni’n well fel cerddorion, dyna’r prif beth i ni," meddai Ifan. "Pan wnaethon ni sgwennu rhai o’r caneuon ar yr albym gynta’ roeddan ni’n 16 ac 17.

“Roeddan ni’n trafod pynciau sy’n berthnasol i’r oedran yna ac mae llais fi yn fwy squeaky pan ti’n gwrando nôl ar ganeuon y cyfnod yna, fel Cwîn. Nid bod ni’n tynnu dim o’r cyfnod yna – dyna’r oedran oeddan ni a’r caneuon yna wnaeth wneud ni’n boblogaidd.

“Adeg hynny doedd 'na ddim pwysa arna ni – roedd rhan fwya’ wedi eu recordio cyn rhyddhau Cwîn a Catalunya fel senglau - felly roeddan ni’n hollol relaxed a ddim rili’n poeni achos doeddan ni ddim yn gwybod os fyddai pobl yn gwrando arnyn nhw neu ddim.

“Ond yn mynd fewn i'r albym yma yn gwybod bod pobl yn gwrando arna ni roedd pwysa i'w gael o yn iawn. Roeddan ni eisiau herio’r gynulleidfa hefyd a gwneud iddyn nhw ddweud bod hwn yn Gwilym gwahanol – dal i licio fo, ond bod o ddim yn Cwîn 2.0 neu Llechan Lân 2.0 – mae o’n wahanol. Mae’r geiriau yn wahanol, sonically mae o’n wahanol – ac mae angen diolch i Rich Roberts (y cynhyrchydd) am hynny.”

Ffynhonnell y llun, Gareth Bull
Disgrifiad o’r llun,

Daw aelodau Gwilym, yma ar lwyfan Maes B yn Eisteddfod Boduan 2023, o Ynys Môn, Pen Llŷn a Chaernarfon yn wreiddiol

Fe fydd y band yn mynd ar daith wythnos ar draws Cymru rhwng 22-29 Medi i hyrwyddo’r albym, gan ymweld â Wrecsam, Aberystwyth, Caerfyrddin, Abertawe a Chaerdydd, dolen allanol.

Y Cledrau fydd yn eu cefnogi nhw a bydd eu gitarydd nhw, Ifan Prys, hefyd yn chwarae'r gitâr i Gwilym, gan fod Ifan Pritchard wedi anafu ei fraich.

“Da ni’n rili edrych ymlaen at y daith – y tro cynta’ i ni wneud pedwar noson ar y trot,” meddai Ifan Pritchard.

“A dwi’n rili edrych ymlaen at chwarae mewn llefydd ‘da ni ddim yn chwarae yn aml. ‘Da ni mond wedi chwarae ddwywaith erioed yn Wrecsam er enghraifft.”

Cynlluniau'r dyfodol

Gyda’r aelodau i gyd mewn swyddi erbyn hyn mae’n anoddach cael amser i sgwennu, recordio a theithio. Ond gydag Ifan yn gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth yn Llundain mae o’n gobeithio y bydd y grŵp yn elwa o’r hyn mae o’n ei ddysgu yn ei waith bod dydd.

Tra bod bandiau fel Gwilym yn lwcus o gael marchnad o Gymry Cymraeg sydd eisiau gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg, dywed Ifan fod lle i ddatblygu gan fod cymaint yn gwrando ar gerddoriaeth o bob math o ddiwylliannau ac ieithoedd ar declynnau digidol ar draws y byd y dyddiau yma.

“Rhywbeth ‘da ni angen meddwl amdano ydi sut ydan ni’n cael cynulleidfa ehangach – sut ydan ni’n mynd ar 6 Music, neu sut ydan ni’n cael erthygl mewn cylchgronau.

“Mae ganddo ni i gyd gerddoriaeth o bob iaith ar draws y byd ar flaena’n bysedd – ar ein ffôns ac ati. Mae o yna a mor hawdd i’w ffeindio. Roedd o yna o’r blaen ond mae o fwy rŵan, ac yn haws, ac mae pobl wedi arfer efo fo felly mae pobl yn fwy parod i wrando ar fiwsig mewn ieithoedd tydyn nhw ddim yn ddeall."

Pynciau cysylltiedig