Yassa Khan: Bywyd 'fel ffilm Goodfellas - ond yng Nghaernarfon'

Hassan Khan, a gyda'i fab YassaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Hassan Khan yn ddyn ifanc, a gyda'i fab Yassa Khan yn yr 1980au

  • Cyhoeddwyd

Mae mab i leidr banc adnabyddus o Gaernarfon - enillodd apêl wedi iddo gael ei garcharu ar gam - yn gwneud ffilm am eu bywyd.

Yn ystod yr 1980au a’r 90au roedd Hassan Khan yn enw cyfarwydd yn y newyddion, a nid yn unig am ei droseddau.

Cafodd sylw eang ar ôl cyhuddo ditectifs o'i fygwth a chreu cyfaddefiad ffug yn dweud mai fo oedd tu cefn i ladrad arfog.

Enillodd ei achos yn y Llys Apêl – un o ddegau o euogfarnau gafodd eu dileu oherwydd ymddygiad amhriodol uned troseddau difrifol Heddlu'r West Midlands.

Yr enwocaf oedd achos y Birmingham Six, ac fe gafodd yr uned ei diddymu yn dilyn ymchwiliad beirniadol.

Ond tu cefn i’r penawdau am Hassan Khan roedd 'na fywydau yn cael eu heffeithio – yn cynnwys ei blant oedd yn cael eu magu yng ngogledd Cymru.

Yr hynaf o dri oedd Yassa Khan, sydd bellach yn gyfarwyddwr ffilm.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Hassan a Yassa Khan. Yasser ydy enw bedyddiol y mab, wedi ei enwi ar ôl arweinydd grŵp Palestinaidd y PLO Yasser Arafat, oedd yn ffigwr adnabyddus yn yr 1980au a'r 1990au

Mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw, mae Yassa Khan yn dweud bod rhannau o’i fagwraeth yn ei atgoffa o’r ffilm maffia Goodfellas – ond yng Nghaernarfon, nid Efrog Newydd.

Doedd tyfu i fyny yn y dre' yn yr 1980au ddim yn hawdd iddo gyda'i dad i fewn ac allan o garchar.

Ac i wneud pethau'n anoddach, roedd o’n fachgen o dras Pakistani ac yn hoyw.

Ond mae ei fagwraeth liwgar wedi arwain ato'n gweithio fel cyfarwyddwr sydd wedi ffilmio'r Pet Shop Boys, Vivienne Westwood a Billie Eilish.

Wrth sgwrsio o'i fflat yn Llundain, mae'n cofio'n ôl i’w fagwraeth yn nhre'r Cofis pan oedd ei dad yn absennol am gyfnodau hir.

Disgrifiad,

Adroddiad newyddion BBC Cymru o gartref Hassan Khan yng Nghaernarfon yn 1990

Roedd Hassan Khan, sy'n wreiddiol o Birmingham, wedi rhoi gwreiddiau lawr yng Nghaernarfon ar ôl cyfarfod merch o'r dre'.

"Pan o’n i’n fabi bach oedd genno' nhw siop ar top Pool Street – y Cabin oedd enw fo – a gen i memories da o fan'no, fi a Mam," meddai Yassa Khan, sy’n 41 oed erbyn hyn.

"Dwi'n cofio bod yna pan o'n i tua tair oed ac oedd Dad yn carchar ers pan o'n i tua dau.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Hassan Khan o flaen y siop yng Nghaernarfon

"O'n i efo Mam ben fy hun am couple of years, ddaeth o allan, wedyn [naw mis wedyn] oedd gen i frawd. Wedyn aeth Dad 'nôl i fewn... dod allan eto... brawd arall.

"Dwi'n cofio mynd i weld o'n carchar.

"Dwi'n meddwl oedd gan Dad obsession efo pres a crime.

"Oedd o fewn yn y byd yna hook, line and sinker."

Apelio 15 mlynedd o garchar

Doedd Hassan Khan ddim yn angel.

Roedd ganddo record o droseddu ers iddo fod yn ei arddegau, yn cynnwys dwyn efo gwn tegan a derbyn nwyddau wedi eu dwyn.

Ond yn 1987 fe gafodd ei arestio am drosedd ddifrifol iawn.

Roedd o wedi clywed bod heddlu ardal Birmingham yn chwilio amdano ac felly aeth o'i wirfodd i'w orsaf leol yng Nghaernarfon.

Heb gael gweld twrna, fe gafodd ei roi mewn car gyda thri ditectif o Heddlu West Midlands wnaeth ei gyhuddo o ladrad arfog yn ardal Birmingham.

Ar ôl gwadu'r cyhuddiad, fe honnodd iddo gael ei guro a'i fygwth gan yr heddlu tan iddo gytuno i arwyddo datganiad yn cyfaddef i'r cyfan.

Fe gafodd ei ddyfarnu'n euog mewn achos llys a chael 15 mlynedd o garchar.

Ond fe frwydrodd yn erbyn y dyfarniad.

Ffynhonnell y llun, Independent Digital News & Media Ltd
Disgrifiad o’r llun,

Stori Hassan Khan ar dudalen flaen The Independent yn 1990

Rhan ganolog o'r achos yn erbyn Hassan Khan oedd ei gyfaddefiad a gafodd ei wneud, meddai'r heddlu, yn y car wrth deithio rhwng gogledd Cymru a Birmingham.

Roedd y 1,200 o eiriau o gyfaddefiad wedi eu hysgrifennu yn y car gan y ditectif oedd yn gwneud yr holi ac oedd yn defnyddio fflachlamp wedi ei roi o gwmpas ei wddf er mwyn gallu gweld yn iawn.

Yn ôl y barnwr, doedd llawysgrifen y ditectif wrth deithio yn y car yn y tywyllwch ddim yn wahanol iawn i'w lawysgrifen arferol.

Doedd yr euogfarn ddim yn ddiogel, meddai'r Llys Apêl, a chafodd Hassan Khan ei ryddhau ar ôl dwy flynedd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Yassa Khan wedi gadael Caernarfon ers dros 20 mlynedd ond yn "addoli bod fi'n Gymraeg"

Cof plentyn sydd gan Yassa Khan o’r cyfnod.

"Roedd y media storm rownd Dad yn quite massive, a wnaeth [y grŵp pop Cymraeg] Amddiffyn 'neud cân amdana fo," meddai.

"Roedd fi a Mam ar ITN a roedd 'na lot o interest yndda fo a dwi'n cofio bod yn overwhelmed efo faint o bobl am y tro cynta' yn eu bywyd oedd yn ralio dod dros Dad yn meddwl bod o'n innocent.

"Cyn hynny roedd pobl yn guilty without a trial. Dwi'n cofio roedd 'na petitions yn bob siop yn Dre."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Fe recordiodd y grŵp Amddiffyn gân am ymgyrch apêl Hassan Khan – gyda Yassa, oedd yn blentyn ysgol gynradd, yn y fideo

Ar y pryd roedd Yassa Khan yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd yr Hendre, Caernarfon.

Mae'n dweud ei fod wedi cael amser da yno, ond roedd 'na gysgod dros y cyfan.

"O'n i'n cael racism yn tyfu fyny a prejudice am Dad adag pan oedd o ar ei height of fame, pan oedd o ar ITN News a BBC Wales a petha - roedd o ar lot," meddai.

"Roedd rhai kids ifanc fatha fi yn meddwl ‘cŵl met’ ac o'n i'n 'neud ffrindia left, right and centre ond doedd rhai athrawon a pobl yn y stryd ddim mor forgiving felly roedd o'n anodd.

"Wedyn 'nath hynny amplifyo yn [ysgol uwchradd] Syr Hugh - aeth o'n waeth."

'Hogia Dre wedi gwirioni efo Dad'

Ond er y cyfnodau anodd a'r sefyllfa gartref yn llawn tensiwn ar adegau, mae Yassa yn cofio cyfnodau eraill gyda gwên gan bod ei fywyd yn llawn cymeriadau.

"Mae un neu ddau o scenes yn Goodfellas lle oedd o union yr un peth - jest gwahanol amser a lle gwahanol," meddai.

"Dwi'n cofio rhedeg i mewn trwy ffrynt unwaith ac oedd y genod i gyd yn y ffrynt yn sunbathio efo sigarét a panad, wedyn mynd trwy hallway i fewn i'r kitchen llawn plant yn chwarae a pobl eraill yn fan'na efo Dad.

"Mynd i'r ar' gefn a miwsig yn blario efo barbeciw yna a llwyth o characters... characters fasa chdi methu sgwennu.

"Oedd gan Dad gang a fo oedd y leader o'r gang, ac oedd hogia' Dre wedi gwirioni efo fo.

"Dwi'n meddwl yn ôl a pa mor crazy oedd o, ond yn ffordd ei hun roedd o yn magnificent. Oedd ffrindia' fi yn ista ar y wal methu disgwyl i fi invitio nhw fewn.

"Roedd 'na amser da, yn ganol fo i gyd. Oedd o'n lliwgar, tyfu fyny. Ond with light comes dark ac roedd lot o amser rili hyll."

Ffynhonnell y llun, Yassa Khan
Disgrifiad o’r llun,

Bydd ffilmio ar gyfer y ffilm fer PINK yn cychwyn fis Gorffennaf. Jim Caesar fydd yn actio rhan Yassa Khan ac Alexandra Roach yw'r uwch gynhyrchydd

Ffordd y mab o ddelio efo'r sefyllfa oedd gwylio ffilmiau.

Mae'n dweud ei fod wedi gweld Batman Returns 350 o weithiau a bob un o ffilmiau eraill y cyfarwyddwr, Tim Burton, o'r cyfnod tua 200 o weithiau.

"Dwi wedi bod trwy trauma a dyna pam nesh i gravitatio i ffilm achos roedd bywyd fi mor volatile.

"O'n i'n escapio i fewn i ffilms 'ma... cos oedd o mor nyts weithia."

Gadael Caernarfon

Erbyn iddo droi'n 18 oed roedd o hefyd yn gwybod ei fod yn hoyw, oedd ddim mor dderbyniol yn ei gymuned - felly doedd o ddim yn gweld dyfodol iddo yng Nghaernarfon.

"As soon as humanly possible nesh i redeg o Dre ac o'n i'n resentio'r lle ar yr adeg am bob dim o'n i 'di bod trwy," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Yassa Khan yn ei ddyddiau coleg pan ddaeth allan fel dyn hoyw

Tua'r un cyfnod roedd ei dad wedi cael cyfnod hir arall yn y carchar - dedfryd am oes yn 2005 am ladrad arfog yn ne Lloegr.

Fe geisiodd apelio unwaith eto gan godi cwestiynau am yr ymchwiliad ac ymddygiad un ditectif yn benodol - aelod o uned troseddau difrifol Heddlu West Midlands.

Ond ar ôl ymchwiliad fe benderfynodd Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol beidio rhoi'r achos gerbron y Llys Apêl.

Fe dreuliodd Hassan Khan y rhan fwyaf o'r ddau ddegawd diwethaf o dan glo cyn cael ei ryddhau ddwy flynedd yn ôl.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Yassa Khan heddiw

Yn y cyfamser roedd Yassa Khan wedi astudio dylunio graffeg ym Mhrifysgol Sheffield, cyn symud i Lundain a gweithio am flynyddoedd yn y byd hysbysebu.

Yna daeth Covid.

Ers blynyddoedd roedd o wedi ystyried sgwennu sgript ffilm o'i fywyd, a rhoddodd y pandemig yr amser iddo fynd ati o ddifri.

Pet Shop Boys a Billie Eilish

Rhoddodd o'r gorau i'w swydd, sgwennu sgript am ei fywyd a'i berthynas gyda'i dad a phenderfynu sefydlu ei hun fel cyfarwyddwr llawrydd.

Ei gynnig cyntaf am waith oedd i greu fideo i’r grŵp pop eiconig Soft Cell – a llwyddo.

Roedd o wedi synnu – yn enwedig pan gafodd wybod bod y Pet Shop Boys hefyd am fod yn rhan o'r prosiect.

Ffynhonnell y llun, Soft Cell-Purple Zone/Cyf Yassa Khan/Camp Productions
Disgrifiad o’r llun,

Marc Almond yn fideo Yassa Khan o Purple Zone gan Soft Cell a Pet Shop Boys

"O'n i'n meddwl oh my God! Wedyn wsos wedyn 'nath recording newydd ddod i mewn efo'r duet 'ma ac wsos wedyn o'n i mewn pyb yn ffilmio Soft Cell a Pet Shop Boys efo'i gilydd.

"Oedd o'n nyts, baptism of fire go iawn!"

Ers hynny mae o wedi gweithio ar raglenni dogfen, gan gynnwys un am yr amgylchedd gyda'r seren bop byd enwog Billie Eilish a'r dylunydd Vivienne Westwood.

Ffynhonnell y llun, Overheated/Cyf. Yassa Khan/Evoca Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Y dylunydd ffasiwn Vivienne Westwood yn rhaglen ddogfen Yassa Khan - Overheated

Y prosiect nesaf ydy ffilm am ei fywyd a'i berthynas gyda'i dad.

Mae o'n barod wedi casglu digon o arian, gan gynnwys nawdd gan Ffilm Cymru, i wneud ffilm fer am 24 awr o'u bywyd.

Mae o hefyd wedi cael nawdd i ddatblygu ei sgript ar gyfer ffilm hir o'u bywyd - Daffodil.

Mae'n dweud fod y cyfan wedi digwydd mor sydyn, yn rhannol gan ei fod wedi gwylio cymaint o ffilmiau i geisio dianc o'i fywyd ei hun.

Ac fel pob stori ffilm dda, mae 'na dro yn y gynffon.

Dros amser – a'i dad rŵan mewn cartref gofal - mae Yassa Khan yn gallu deall yn well sut wnaeth ei dad ddilyn ei lwybr bywyd.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cylch bywyd: Yassa Khan fel babi ym mreichiau ei dad, a llun diweddar o'r ddau

Mae'n dweud ei fod o wedi cael magwraeth anodd yn Birmingham mewn cyfnod pan oedd dod o dras Asiaidd yn anodd iawn, fe gafodd ei amddifadu pan yn blentyn a’i roi mewn gofal pan yn 12 oed.

Ac mae perthynas Yassa Khan gyda'i dref enedigol, lle fydd yn ymweld â'i deulu sawl gwaith y flwyddyn, hefyd wedi newid.

"Mae lot o residual pain pan dwi'n mynd adra hefyd blaw dwi'n addoli bod fi'n Gymraeg a na'i byth disrespectio'r past a lle dwi 'di dod o.

"Mae o mor intrinsic i pwy ydw i, mae o'n pishin mawr ohona fi – yn enwedig Dre.

"A Dad. Mae o 'di cymryd lot i fi ddechrau dallt y boi... achos oedd gen i gymaint o hatred idda fo, be' oedd o wedi 'neud i Mam, gadael hi am flynyddoedd, gadael fi i ffendio amdan fy hun.

"Ella bod fi rhy compassionate ond dwi’n dallt y trajectory 'nath o fynd ar.

"Ond dwi'm yn gw'bod os 'di hynny'n neud o'n haws."