Myfyrwyr tramor yn gorfod cysgu mewn ystafelloedd dysgu

Myfyriwr
  • Cyhoeddwyd

Mae rhai myfyrwyr rhyngwladol yng Nghymru yn gorfod cysgu mewn ystafelloedd dysgu ar gampysau oherwydd trafferthion dod o hyd i lety a swyddi, yn ôl ymchwil gan y BBC.

Yn ôl arweinwyr undebau myfyrwyr, trafferth dod o hyd i lety fforddiadwy yn agos i'r brifysgol yw'r rheswm pennaf am drafferthion myfyrwyr tramor, yn ogystal â diffyg cyfathrebu rhwng y prifysgolion a'r myfyrwyr cyn iddyn nhw gyrraedd.

Mae undeb myfyrwyr Prifysgol Bangor yn dweud bod myfyrwyr yn cysgu’n rheolaidd yng ngofod astudio 24 awr y brifysgol er mwyn arbed costau teithio.

Dywedodd corff Prifysgolion Cymru bod eu haelodau wedi ymrwymo i sicrhau bod y rhai sy'n dewis astudio yng Nghymru yn teimlo bod croeso iddynt yn y wlad.

Maen nhw hefyd yn annog unrhyw fyfyrwyr sy'n wynebu anhawster i siarad â'u prifysgol am gyngor ac arweiniad.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Nida Ambreen, mae myfyrwyr rhyngwladol yn ei chael hi'n anodd canfod llety ym Mangor

Yn ôl Nida Ambreen, swyddog gydag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor, mae myfyrwyr rhyngwladol ôl-raddedig yn cael eu taro’n arbennig o galed, gan eu bod yn aml yn dod gyda’u teuluoedd ac felly ddim yn gymwys ar gyfer llety prifysgol.

“Tai i fyfyrwyr yn unig yw’r rhan fwyaf o’r tai sydd ar gael ym Mangor," meddai, "felly mae pobl bellach yn dewis byw ym Manceinion neu Lerpwl, a theithio."

Ychwanegodd bod myfyrwyr yn cysgu dros nos ar bumed llawr adeilad Pontio er mwyn mynd i ddarlithoedd ym Mangor.

“Mae myfyrwyr yn dod o Lerpwl a Manceinion, yn teithio ac yna’n cymryd eu dosbarthiadau er enghraifft ar ddydd Llun ac yna’n aros dros nos.

"Yna ar ddydd Mawrth maen nhw’n mynd i ddarlith cyn mynd yn ôl i’w llety eto."

Ym mis Ebrill agorodd undeb y myfyrwyr ystafell bwrpasol gyda microdonau a thegellau i'r myfyrwyr gael paratoi prydau.

“Yn y brifysgol rydyn ni’n cynnig llety dros nos am rhwng £20 a 25 y noson," meddai Nida.

"Ond eto os yw myfyrwyr yn byw yn bell i ffwrdd o Fangor, mae’n gost ychwanegol iddyn nhw.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae undeb myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi creu lle i fyfyrwyr baratoi prydau bwyd

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf mae 20,920 o fyfyrwyr rhyngwladol o’r tu allan i’r UE yn astudio yng Nghymru, ac mae Prifysgolion Cymru yn anelu at gynyddu’r nifer hwnnw.

Mae ffioedd dysgu myfyrwyr tramor hyd at bedair gwaith yn uwch na ffioedd myfyrwyr domestig.

Cafodd trafferthion rhai myfyrwyr rhyngwladol ei godi'n ddiweddar gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd.

Dywedodd un o aelodau'r pwyllgor, Sioned Williams ei bod wedi clywed am achosion yn ei hetholaeth.

“Yr hyn maen nhw'n ei wneud weithiau yw cael llety gryn bellter o'r campws," meddai.

"Mae costau cludiant yn afresymol iawn ac felly beth maen nhw'n ei wneud pan maen nhw'n mynd i'r campws yw aros am ychydig ddyddiau, cysgu mewn mannau amhriodol ac yna'n mynd yn ôl i’w llety oherwydd na allan nhw fforddio byw’n lleol.”

'Diffyg cyfathrebu'

Dywedodd Ms Williams hefyd bod myfyrwyr rhyngwladol yn aml yn cyrraedd y wlad gyda'r argraff y byddai llety prifysgol ar gael i'w teulu hefyd.

“Rwyf wedi clywed am achosion lle mae myfyrwyr wedi dod draw gyda'u teulu ac yna'n cael cynnig ystafell sengl pan fyddant yn cyrraedd, a weithiau maen nhw'n cyrraedd ganol nos.

“Roedd yna fyfyrwraig a ddaeth draw gyda dau o blant bach a’i gŵr, ac yn eistedd yng ngorsaf fysiau Abertawe ar ei phen ei hun, yn oer heb wybod ble i droi.”

Rhoddwyd sylw i’r mater gan Brifysgol Abertawe unwaith i Ms Williams ei godi gyda nhw, ond dywedodd fod yr enghraifft yn dangos bod diffyg cyfathrebu yn aml rhwng prifysgolion a myfyrwyr ynglŷn â’r hyn y gallant ei ddisgwyl pan fyddant yn dod i Gymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gwasanaeth Iechyd Meddwl BAME eu bod yn gyrru pecynnau bwyd i fyfyrwyr rhyngwladol

Dywedodd Gwasanaeth Iechyd Meddwl BAME, sy'n cefnogi myfyrwyr rhyngwladol yn Abertawe, fod y galw am gymorth yn uwch nag erioed.

Dywedodd Alfred Oyekoya: “Mae gan rai gwerthwyr tai ddisgwyliadau afresymol, er enghraifft gofyn am chwe mis o slipiau cyflog gan bawb sydd am rentu, ond o ble mae'r rheiny yn mynd i ddod pan mae rhywun newydd gyrraedd y wlad?

“Felly hyd yn oed pan fydd pobl yn gallu fforddio eu rhent am y flwyddyn gyfan, ni allant gael y llety.”

Dywedodd Patience Otaigbe, sy’n astudio ym Mhrifysgol De Cymru ac a ddaeth i Gymru gyda’i phartner a dau o blant, fod yn rhaid i’w theulu rannu tŷ gyda phobl eraill am saith mis nes iddyn nhw ddod o hyd i lety addas.

“Wnes i erioed weld hwn yn dod," meddai.

"Roeddwn yn teimlo gan fod gennym yr arian y dylwn fod wedi gallu cael llety i mi a fy nheulu."

Mewn ymateb dywedodd Prifysgol De Cymru eu bod yn "pryderu o glywed hanesion yr unigolion yma a bod myfyrwyr o dramor yn cael gwybod am y galw uchel am lety preifat yn yr ardal... cyn iddyn nhw deithio."

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Abertawe eu bod yn drist i glywed am fyfyrwyr yn aros mewn llefydd amhriodol neu anaddas.

Dywedodd eu bod wedi ymrwymo i ddarparu cymorth ac arweiniad i sicrhau bod gan bob myfyriwr rhyngwladol fynediad i lety addas.

Yn ôl llefarydd ar ran Prifysgol Bangor mae ganddyn nhw swyddfa gymorth i fyfyrwyr rhyngwladol, sy'n cynnig arweiniad ar lety sydd ar gael yn ogystal â materion lles sy'n ymwneud a'u teuluoedd.

Dywedodd Prifysgolion Cymru eu bod yn bryderus o glywed am yr heriau yr oedd y myfyrwyr hyn yn eu hwynebu, gan ychwanegu bod prifysgolion yng Nghymru wedi ymrwymo i'r Fframwaith Ansawdd Asiantau, sy'n nodi arfer gorau wrth weithio gydag asiantaethau i sicrhau bod gwybodaeth briodol ar gael i ddarpar fyfyrwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod yn canolbwyntio ar daro’r cydbwysedd cywir rhwng gweithredu i leihau mudo net, a denu’r myfyrwyr gorau i astudio yn ein prifysgolion, gan gydnabod y cyfraniad sylweddol y maent yn ei wneud i’r DU.