Byd natur Cymru yn wynebu 'difodiant ar raddfa eang'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Sir Gaerfyrddin

Mae byd natur yng Nghymru yn wynebu "difodiant ar raddfa eang" medd elusennau amgylcheddol wrth annog gweithredu gan y gwleidyddion sy'n sefyll yn etholiad y Senedd.

Maen nhw am weld y pwnc yn cael yr un flaenoriaeth ag ymdrechion i daclo newid hinsawdd.

Awgrymodd astudiaeth yn 2019 bod 17% - neu un ym mhob chwe rhywogaeth - mewn perygl o ddiflannu o'r amgylchedd yng Nghymru.

Yn ôl yr ymgyrchwyr mae angen deddfu i osod targedau llym i gynyddu bioamrywiaeth.

Maen nhw hefyd am weld Gwasanaeth Natur Cenedlaethol, a fyddai'n cynnig swyddi i bobl ar gynlluniau gwarchod bywyd gwyllt, a sicrhau bod 30% o dirwedd a moroedd Cymru'n cael eu rheoli er lles natur erbyn 2030.

Mae'r elusennau yn dadlau y byddai'r cyhoedd yn gefnogol iawn i'r fath syniadau yn dilyn blwyddyn pan fo pobl wedi ailgysylltu â mannau gwyrdd lleol yn ystod y cyfnodau clo.

Ffynhonnell y llun, Vaughn Matthews
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r gloÿnnod byw mwyaf prin ym Mhrydain - Brith y Gors

Y llynedd, roedd y DU yn un o 65 o wledydd i addo gwrthdroi'r colledion ym myd natur erbyn 2030, gyda chynhadledd fawr gan y Cenhedloedd Unedig ar y pwnc i'w chynnal ym mis Hydref eleni yn China.

Mae'r goblygiadau'n enfawr oherwydd mae'r ecosystemau sy' dan fygythiad yn y byd naturiol yn cefnogi'n cymdeithasau ni - o'r peillwyr sy'n ein galluogi ni i dyfu bwyd, i'r coed a'r planhigion sy'n helpu atal llifogydd ac amsugno'r allyriadau o'n ceir a'n diwydiannau.

Angen cynlluniau 'ar frys'

Dywedodd Rachel Sharp, prif weithredwr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru bod yn rhaid i'r llywodraeth nesa' gyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer adfer a buddsoddi mewn natur "ar frys".

"Ry'n ni yng nghanol cyfnod o ddifodiant ar raddfa eang ym myd natur," meddai.

"Mae'n drasig na cheith cenedlaethau'r dyfodol brofi'r natur ry'n ni'n ei brofi nawr.

"Ry'n ni i gyd yn gwybod y bydd na alwadau lu ar y llywodraeth nesa' rhwng creisis Covid a'r creisis economaidd. Ond mewn gwirionedd mae natur a'r economi gwyrdd yn cynnig cyfleoedd anferth i Gymru.

"Mae gennym ni'r tirweddau a'r moroedd mwyaf anhygoel a ry'n ni'n barod yn gweld cynnydd mewn twristiaeth wrth i bobl ddod i ddeall a pharchu hynny. Fe allai'r economi werdd newydd - os gewn ni hyn yn gywir - gynnig swyddi a gyrfaoedd newydd i bobl."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rachel Sharp bod natur yn cael ei "adael allan"

Tra'n cydnabod bod y pleidiau wedi rhoi ffocws ar swyddi gwyrdd yn ystod yr ymgyrch hyd yma, dywedodd Ms Sharp eu bod fel arfer yn golygu gwaith mewn meysydd fel trin gwastraff, cynhyrchu ynni a thrafnidiaeth.

"Mae natur yn cael ei adael allan o bethau," honnodd, gan ddadlau bod y pleidiau mewn perygl o "ymateb i un creisis ar draul y llall" os nad yw'r dirywiad ym myd natur a newid hinsawdd yn cael eu trin yn gyfartal.

"Ry'n ni'n edrych i sefydlu gwasanaeth natur cenedlaethol fyddai'n cynnig cyfleoedd cyflogaeth sylweddol drwy Gymru, a sicrhau hefyd bod 30% o'n tir a'n môr ni yn cael ei reoli er lles bioamrywiaeth.

"Dewch i ni wirioneddol daclo'r argyfwng natur, a dangos go iawn sut all Cymru arwain y byd."

'Dyma'r cyfle diwethaf'

Yn ôl Arfon Williams, rheolwr defnydd tir RSPB Cymru "mae 'na lot o bwysau ar y llywodraeth nesa' i 'neud y penderfyniadau iawn".

"Mae'r adroddiadau sy'n dod mas gan y Cenhedloedd Unedig yn dangos bod gyda ni 10 mlynedd i gael gafael ar newid hinsawdd a bywyd gwyllt," meddai.

"Felly ma' be ma'r llywodraeth nesa yn penderfynu rhoi yn ei lle yn hollbwysig.

"Dyma'r cyfle diwetha' sy' 'da ni yng Nghymru i gael gafael yn y broblem yma."

Yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Sir Gaerfyrddin, mae Rob Parry, prif weithredwr Menter Cadwraeth Natur Cymru yn gyfrifol am gynllun i geisio magu un o'r gloÿnnod byw mwyaf prin ym Mhrydain - Brith y Gors.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rob Parry bod perygl mawr o golli rhywogaethau dirifedi o Gymru "os na wnawn ni rywbeth"

Ar ôl casglu £60,000 drwy roddion elusennol ar gyfer y cynllun wyth mlynedd o hyd, y bwriad yn y pendraw yw rhyddhau'r gloÿnnod byw i dir comin yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf er mwyn ceisio sicrhau poblogaeth sefydlog yn yr ardal.

"Pan y'ch chi'n eu gweld nhw mas yn y wlad mae'n olygfa ffantastig," meddai Mr Parry.

Mae'r pili pala prin yn dibynnu ar rwydwaith o wlyptiroedd gwelltog, sydd fel arfer yn cael eu pori gan wartheg, a digonedd o'i hoff fwyd sef planhigyn o'r enw Bara'r Cythraul.

Ond mae prinder cynefinoedd o'r fath bellach yn golygu bod poblogaethau'r rhywogaeth wedi syrthio'n sylweddol - a'r glöyn byw bychain, sgleiniog ond i'w weld mewn llond llaw o safleoedd drwy Gymru erbyn hyn.

"Os na wnawn ni rywbeth yna fe fydd Brith y Gors a rhywogaethau dirifedi eraill yn cael eu colli'n llwyr o Gymru - dyma'r mesur ola' sy' gyda ni," meddai Mr Parry, gan ragweld y bydd angen "y math yma o gynllun ar gyfer lot fawr o wahanol rywogaethau yn y dyfodol".

Perygl o golli un ym mhob chwe rhywogaeth

Dangosodd adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019 bod 666 - un ym mhob chwech o'r rhywogaethau a astudiwyd - dan fygythiad o ddiflannu o Gymru, gyda 73 eisoes wedi'u colli.

"Mae pobl Cymru wir wedi gwneud eu teimladau'n glir yn ystod y cyfnodau clo gan wir gysylltu gyda byd natur," meddai Mr Parry.

"Felly mae angen i unrhyw lywodraeth nawr wrando ar hynny a blaenoriaethu prosiectau fel yr un yma a chadwraeth natur yn gyffredinol achos dyna mae pobl ei angen ar hyn o bryd."

Dywedodd Cyswllt Amgylchedd Cymru - sy'n cynrychioli amryw o gyrff amgylcheddol a chefn gwlad - eu bod hefyd am weld mwy o wersi ar newid hinsawdd a natur mewn ysgolion, ac i'r gwasanaeth iechyd gynnig presgripsiynau gwyrdd - megis gwirfoddoli gyda phrosiectau natur ar gyfer gorbryder ac iselder, lle bo hynny'n addas.

Yn y cyfamser, mae Rhwydwaith Ffermio'n Gyfeillgar i Natur Cymru - sy'n cyhoeddi adroddiad heddiw gyda gofynion y grŵp i wleidyddion - yn awgrymu bod ffermwyr "mewn sefyllfa unigryw i sicrhau newid cadarnhaol ar raddfa fawr" os ddaw cyllid digonol gan y llywodraeth.

Beth mae'r pleidiau yn ei ddweud?

Dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru y bydden nhw'n deddfu i gyflwyno "targedau adfer natur gyda cherrig milltir rheolaidd, wedi'u cefnogi gan fonitro ac adrodd cyson" yn ogystal â "Chynlluniau Adfer Natur a Morol".

Fe fyddent hefyd yn gwneud pob tref yng Nghymru yn Dref Goed - gydag o leiaf 20% o orchudd coed mewn ardaloedd trefol a gwerth 30% o orchudd coed ar gyfer pob datblygiad adeiladu newydd.

Byddai gorchudd coed ar ffermydd hefyd yn cael ei gefnogi drwy ariannu cynllun Gwrychoedd ac Ymylon.

Dywedodd Plaid Cymru y byddai'n cyflwyno Deddf Natur i osod dyletswydd a thargedau cyfreithiol i adfer bioamrywiaeth ar dir ac yn y môr.

"Byddwn yn buddsoddi mewn diogelu a datblygu rhwydwaith helaeth o safleoedd bywyd gwyllt... a byddwn hefyd yn cau'r bwlch llywodraethu amgylcheddol a grëwyd gan ein ymadawiad o'r UE, drwy sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol i Gymru," meddai llefarydd.

Byddai cyllid ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru a pharciau cenedlaethol hefyd yn "adlewyrchu'r rôl allweddol sydd ganddynt i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth".

Dywed y Ceidwadwyr Cymreig y byddent yn cael gwared ar y rheoleiddiwr amgylcheddol presennol Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd llefarydd y byddai'r blaid yn sicrhau bod dyletswyddau rheoleiddio a masnachol y sefydliad yn cael eu cyflawni ar wahân, "fel y gallwn fynd i'r afael â materion fel colli natur a gwella bioamrywiaeth mewn modd mwy effeithiol a deinamig".

Mae'r etholiad yn cynnig cyfle i "newid", meddai a "bydd y Ceidwadwyr yn defnyddio'r cyfle hwn i wella'r modd y mae'r amgylchedd yn cael ei ddiogelu, rheoleiddio a'i gadw yng Nghymru".

Dywedodd Llafur Cymru pe baent yn cael eu hailethol y bydden nhw'n gwahardd mwy o'r plastigau un tro mwyaf cyffredin, ac yn creu Coedwig Genedlaethol i Gymru.

Bydd system newydd o daliadau amaethyddol i wobrwyo arferion ffermio sy'n garedig i natur, ac mae 'na addewid hefyd i gadw gwaharddiadau ar hela llwynogod a difa moch daear.

Dywedodd llefarydd y byddai cynlluniau'r blaid hefyd yn "adeiladu ar record ailgylchu Cymru sy' gyda'r gorau yn y byd drwy weithredu pellach i gefnogi economi gylchol, gan helpu i leihau ein heffaith fyd-eang ar fioamrywiaeth".