Cymru heb gorff i oruchwylio deddfau amgylcheddol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Coed sydd newydd eu plannuFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae diffyg corff annibynnol i oruchwylio cyfreithiau a thargedau amgylcheddol a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfri ar faterion fel llygredd afon wedi'i feirniadu gan bwyllgor o aelodau'r Senedd.

Fe ddywedon nhw y byddai'n "fethiant anfaddeuol" pe na bai trefniadau yn eu lle cyn yr etholiad nesaf.

Cymru yw'r unig wlad yn y DU sydd eto i sefydlu corff parhaol wedi'i ffocysu ar blismona record ei llywodraeth ar yr amgylchedd ar ôl Brexit.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod wrthi'n paratoi'r ddeddfwriaeth angenrheidiol.

Mewn adroddiad hynod feirniadol mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd ac Isadeiledd y Senedd yn dweud bod ymdrechion i gyflwyno mesurau llywodraethu amgylcheddol ar ôl Brexit yn "annigonol".

Cyn Brexit roedd modd i bobl gwyno yn rhad ac am ddim i'r Comisiwn Ewropeaidd, allai wedyn benderfynu ymchwilio ar eu rhan, ynglŷn ag a oedd llywodraethau a'u cyrff cyhoeddus yn cadw at dargedau a deddfwriaethau gwyrdd.

Mae esiamplau o Gymru yn cynnwys cwyn ynglŷn â'r ymateb i lygredd amaethyddol mewn afonydd a lefelau niweidiol o lygredd aer o bwerdy glo Aberddawan ym Mro Morgannwg.

Fe sefydlodd Llywodraeth Prydain gorff annibynnol - the Office for Environmental Protection (OEP) - yn 2021 er mwyn cyflawni rôl debyg yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, tra bod Llywodraeth Yr Alban wedi creu corff o'r enw Environmental Standards Scotland yn yr un flwyddyn.

Yn gynharach yn y mis fe wnaeth ymchwiliad gan yr OEP awgrymu bod Llywodraeth y DU o bosib wedi torri'r gyfraith drwy fethu â gwneud mwy i atal carthion rhag llygru afonydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyrff annibynnol yng ngweddill y DU yn edrych i gwynion am faterion yn cynnwys llygru afonydd

Mae adroddiad y pwyllgor yn pwysleisio bod saith mlynedd wedi pasio bellach ers refferendwm Brexit a bod Cymru'n dal bell ar ei hôl hi o ran sefydlu fersiwn ei hun o'r OEP.

Ar ben hynny mae'n dweud nad yw Llywodraeth Cymru "wedi cynnal trafodaethau gyda chyrff Lloegr a'r Alban i ddysgu gwersi o sefydlu eu cyrff priodol" a "dylai hyn ddigwydd ar unwaith".

Llythyr agored

Ym mis Chwefror, fe ysgrifennodd 300 o gyrff a sefydliadau dan faner Climate Cymru lythyr agored at y Prif Weinidog yn galw arno i gyflwyno "Bil Natur Bositif" fyddai'n cynnwys cynlluniau ar gyfer corff newydd i "oruchwylio a gorfodi gweithredu ar dargedau a mesurau i warchod yr amgylchedd".

Tra does 'na ddim cynlluniau i gyflwyno mesur o'r fath eleni, mae'r llywodraeth wedi dweud y gwnawn nhw gyhoeddi papur gwyn - braslun o'u hamcanion - cyn diwedd 2023.

Maen nhw wedi apwyntio "Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd" - Dr Nerys Llewellyn-Jones - yn rhan amser, er mwyn derbyn cwynion gan y cyhoedd a chyhoeddi adroddiadau thematig gydag argymhellion i'r llywodraeth.

Ond roedd y pwyllgor yn feirniadol o ddiffyg capasiti ac adnoddau wedi'u cynnig i'r rôl, gyda Dr Llewellyn-Jones yn "dal i aros i'r Gweinidog Newid Hinsawdd ddarparu arian am staff ychwanegol er gwaetha addewidion blaenorol".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Nerys Llewellyn-Jones wedi cael ei phenodi'n Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd rhan amser gan Lywodraeth Cymru

Mewn dwy flynedd, dim ond un adroddiad oedd wedi'i gwblhau a'i anfon i'r llywodraeth, medd y pwyllgor, gan ddod i'r casgliad bod y mesurau interim yn "annigonol" a bod "Cymru ar ei cholled".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai'n "cyflwyno'r ddeddfwriaeth yn ystod tymor y Senedd yma i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol i Gymru."

"Bydd y mesur yn cynnwys targedau ar fioamrywiaeth ac adfer natur yn ogystal â threfniadau llywodraethu amgylcheddol yn sgil gadael yr UE," ychwanegodd.

"Mae Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd i Gymru wedi cael ei sefydlu, sy'n bencampwr ar gyfer gwarchod yr amgylchedd ac yn gweithredu rôl bwysig yn adolygu fframwaith ein cyfreithiau amgylcheddol."