'Hollol gandryll' nad yw pleidlais bost wedi cyrraedd
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Benarth yn dweud ei bod hi'n "hollol gandryll" nad ydi hi wedi derbyn ei phapur pleidleisio drwy'r post a bod hynny'n golygu na fydd hi'n gallu pleidleisio yn yr etholiad cyffredinol ddydd Iau.
Dywedodd Mari Beynon Owen ei bod hi wedi gwneud cais am bleidlais bost yn etholaeth De Caerdydd a Phenarth ar amser a'i bod wedi cael e-bost yn cadarnhau ei chais.
Ond a hithau bellach yn y gogledd, dydi hi heb dderbyn y papur.
Pan gysylltodd hi â Chyngor Bro Morgannwg i egluro hynny, cafodd wybod bod 'na broblem wrth anfon y pleidleisiau post.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Cyngor Bro Morgannwg a Chyngor Caerdydd eu bod yn "ymwybodol o oedi wrth i'r Post Brenhinol gyflwyno tua 200 o bleidleisiau post i bleidleiswyr ardal Penarth".
Dywedodd llefarydd ar ran y Post Brenhinol eu bod "yn hyderus y bydd y pleidleisiau post gafodd eu rhoi i ni ar amser yn cael eu hanfon cyn y diwrnod pleidleisio".
Eglurodd Ms Owen ar raglen Dros Frecwast ei bod wedi gwneud cais am bleidlais bost ar 18 Mehefin am ei bod hi'n gwybod na fyddai hi ym Mhenarth ar ddiwrnod yr etholiad.
Er ei bod wedi cael e-bost yn cadarnhau bod ei chais yn llwyddiannus, mae'n dweud nad ydi hi wedi derbyn y papur.
“Dwi’n gandryll am y peth. Mae’r blerwch yma wedi f’atal rhag bwrw fy mhleidlais," meddai.
"Mae’n gwneud i mi feddwl faint o bobl eraill sydd heb dderbyn eu papurau pleidleisio a faint fydd yn methu gwneud hynny."
Mae'n dweud iddi ffonio Cyngor Bro Morgannwg a bod swyddog etholaethol wedi dweud wrthi y gallai hi fynd i'r Barri i nôl papur pleidleisio arall.
Eglurodd Mari nad oedd hynny'n bosib am ei bod hi "i ffwrdd".
Dydi Mari ddim yn credu y bydd modd iddi bleidleisio yn yr etholiad.
"Sut allai bleidleisio? Dwi yn Llanystumdwy.
"Mi allwn i ffonio eto ella a gofyn os oes modd cael pleidlais proxy ond dwi ddim yn gweld sut fysa hynna'n bosib oherwydd sa'n rhaid iddyn nhw anfon y papur pleidleisio newydd i Benarth, dwi ddim yn gwybod."
Mae'n dweud y byddai'n meddwl eto cyn gwneud cais am bleidlais bost y tro nesaf.
"Dyma'r tro cyntaf i fi neud hyn ac yn sicr, yn bendant fyswn i'n meddwl ddwywaith.
"Dwi wedi gwneud pleidlais proxy cynt yn llwyddiannus ond yn sicr os allai fyswn i'n neud hynny yn hytrach na phleidlais bost."
- Cyhoeddwyd24 Mehefin
- Cyhoeddwyd4 Mehefin
- Cyhoeddwyd5 Mehefin
Beth os nad yw fy mhleidlais bost wedi cyrraedd?
Mae modd i chi ofyn am becyn pleidleisio newydd gan swyddog canlyniadau eich cyngor tan 17:00 ddydd Iau.
Dylech geisio cysylltu â thîm gwasanaethau etholiadol eich cyngor cyn gynted â phosib - ni fydd y pecynnau ar gael mewn canolfannau pleidleisio.
Er mwyn sicrhau bod eich pleidlais chi'n cyfri, mae'n rhaid dychwelyd y ffurflenni pleidleisio i'ch canolfan pleidleisio cyn 22:00 nos Iau, neu mae modd mynd â'r ffurflenni i'r cyfeiriad ar eich pecyn pleidleisio yn ystod oriau gwaith cyn 17:00 ddydd Iau.
Ni fydd angen cerdyn adnabod, ond bydd rhaid i chi arwyddo dogfen.
Mae hawl gennych i fynd â ffurflenni pleidleisio sydd wedi eu cwblhau gan ffrindiau a theulu i ganolfannau pleidleisio ar eu rhan.
Gall ymgeiswyr gwleidyddol ac ymgyrchwyr ond gyflwyno pleidleisiau post ar ran aelodau agos o'r teulu, neu os ydyn nhw'n gofalu am rywun penodol.
Mewn rhai amgylchiadau, mae pleidleiswyr yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn gallu gofyn am bleidlais drwy ddirprwy ar frys, ond yn ôl y Comisiwn Etholiadol, dyw'r ffaith nad yw pleidlais bost wedi cyrraedd ddim yn rheswm dilys.
'Trefniadau ar waith'
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Cyngor Bro Morgannwg a Chyngor Caerdydd: "Rydym yn ymwybodol o oedi wrth i'r Post Brenhinol gyflwyno tua 200 o bleidleisiau post i bleidleiswyr yn ardal Penarth yn etholaeth De Caerdydd a Phenarth.
"Er bod Penarth yn dod o dan ardal Awdurdod Lleol Bro Morgannwg, mae hon yn rhan o etholaeth De Caerdydd a Phenarth, ac felly mae trefniadau pleidleisio yn cael eu rheoli gan Gyngor Caerdydd, sydd wedi cyhoeddi mwy na 56,000 o becynnau pleidleisio post yn ystod yr wythnosau diwethaf.
"Mae'r ddau gyngor yn pryderu am y sefyllfa hon ac yn gweithio gyda'r Post Brenhinol i nodi achos yr oedi.
"Mae cyfathrebu cychwynnol yn dangos bod nifer o bleidleisiau post wedi'u dal i fyny yn system didoli y Post Brenhinol.
"Mae trefniadau ar waith i drigolion Bro Morgannwg sydd heb dderbyn eu balotiau post gasglu'r rhain o'r Swyddfeydd Dinesig yn y Barri lle gellir eu cwblhau a'u cyflwyno hefyd er mwyn sicrhau bod y trigolion hyn yn gallu bwrw eu pleidlais."
Dywedodd llefarydd ar ran y Post Brenhinol: "Does gennym ni ddim pleidleisiau post wedi eu hel sy'n aros i gael eu postio, ac er nad oes gennym ni agwedd hunanfodlon, ry'n ni'n parhau i fod yn hyderus y bydd y pleidleisiau post gafodd eu rhoi i ni ar amser yn cael eu hanfon cyn y diwrnod pleidleisio.
"Ry'n ni wedi ymchwilio i bryderon penodol ac wedi cadarnhau bod y papurau yn cael eu hanfon ar unwaith pan maen nhw'n cyrraedd ein rhwydwaith ni."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf