Actor o Fôn yn gwireddu breuddwyd ar Doctor Who

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd Gwïon Morris Jones yn gyfarwydd i wylwyr S4C fel y rafin, Carbo, yn y gyfres ddrama Dal y Mellt.

Ers ymddangos yn y gyfres honno, a gafodd ei gwerthu i'r gwasanaeth ffrydio Netflix – y ddrama Gymraeg gyntaf i wneud hynny – mae'r actor ifanc wedi bod yn brysur eithriadol.

Ond nawr, mae'r hogyn o Fôn yn mynd i weld ei freuddwyd yn dod yn wir pan fydd o'n ymddangos mewn pennod o Doctor Who.

Ffynhonnell y llun, Gwïon Morris Jones

Wrth sôn am ymddangos yn y gyfres dywedodd Gwïon wrth Cymru Fyw:

"Ers o’n i’n ifanc, o’n i’n mynd i’r Doctor Who Experience yng Nghaerdydd a’r hen le yn y Red Dragon Centre a dw i wedi sdicio efo’r gyfres ers hynny.

"O hynny ddes i’n obsessed efo gwaith Russell T Davies a bob dim mae o wedi’i greu.

"Oedd Queer as Folk yn uffar o ddylanwad arna i pan o’n i’n fengach, wedyn Cucumber a Banana ar ôl hynny. Dw i jyst wedi dilyn ei yrfa fo. Felly i gael cynnig dod i weithio ar un o’i sgriptiau fo wedyn...does gen i ddim geiriau."

Croeso i'r Whoniverse

Roedd yn brofiad rhyfedd iddo gamu ar y set meddai:

"Dw i’n meddwl nath o’n hitio fi pan nes i gamu mewn i ’nhrelar ac oedd ’na gardyn bach yna gan y tîm cynhyrchu. A’r unig oedd o oedd logo bach Doctor Who ar y ffrynt a dyma fi’n agor o wedyn i neges bach yn dweud ‘Welcome to the Whoniverse’.

"Nath hynna jyst gneud fi feddwl ‘oce waw dw i’n rhan o hyn rŵan’."

Ffynhonnell y llun, gwïon morris jones

Dechrau actio

I fod wedi cyflawni breuddwyd ag yntau mor gynnar yn ei yrfa mae'n ddifyr clywed Gwïon yn sôn am ble ddechreuodd ei gariad at berfformio.

"Dw i wedi bod yn hogyn ’steddfod erioed, a pan o’n i yn fy arddegau nes i ddechrau cael mwy o lwyddiant yn yr adran unawd sioe gerdd. Nes i ennill honna rhyw ddwy/dair gwaith yn y Genedlaethol, dw i’n meddwl.

"Dyna ro’th yr hwb i mi i feddwl bod hyn ddim yn rhywbeth dw i’n ’neud am laff, mae o’n rhywbeth fedra’ i ddilyn fel gyrfa.

"Y flwyddyn honno o’n i’n gadael ’rysgol a nes i gymryd blwyddyn allan a penderfynu ’na i gael go ar actio, ’na i drio fo. Ond doedd gen i ddim syniad be’ o’n i’n ’neud!"

Ffynhonnell y llun, Sally J Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwïon dal i ymwneud ag eisteddfodau lleol. Roedd yn arwain Eisteddfod Marianglas yn gynharach eleni.

Gyda'i flwyddyn allan fe wnaeth Gwïon lawer o ymchwil, sawl clyweliad a nifer o geisiadau am le mewn ysgol ddrama. Cafodd ei dderbyn i'r Royal Central School of Speech and Drama yn Llundain, a symudodd yno yn 2018.

"Pan ddaeth y llythyr cyntaf ’na i ddweud ’mod i wedi cael i mewn, dyna oedd y foment lle nes i feddwl 'ocê, dydi hyn ddim yn chwarae bach ddim mwy. Dw i ’di cael fewn. Dw i’n mynd.”

'Wedyn ddaeth yr holl rigmarôl o symud i Lundain a gweithio hynny allan. Lle fyswn i’n byw? Doedd gen i ddim syniad sut i fyw mewn dinas, hogyn y wlad o’n i 'de?!

"Nid yn unig o’n i’n cael y learning curve enfawr ’na efo hyfforddiant proffesiynol actio, oedd mor wahanol i unrhyw hyfforddiant eisteddfodol o’n i wedi’i gael cynt, ro’n i hefyd yn addasu i fyw mewn dinas ac roedd hynny’n dipyn o sioc i’r system hefyd."

Dwy iaith, dau ddiwydiant

"Be’ sy’n fendith mawr i ’ngyrfa fi ydy bod gen i ddau ddiwydiant i chwarae ato fo. Mae’r ddau wedi bwydo’i gilydd. Dw i’m yn meddwl y baswn i wedi gallu gwneud be’ dw i wedi’i wneud yn Saesneg heb wneud Dal y Mellt.

Ffynhonnell y llun, S4C/VOX Pictures

"Dw i’n meddwl oedd Dal y Mellt, cyfres un, fel rhyw ail ysgol ddrama i mi. Yn y dair blynedd ’na yn coleg, pythefnos wnaethon ni ar actio sgrin.

"Mae Central yn ysgol draddodiadol, a’r farn gyffredinol ydi mai actio llwyfan ydi actio yn ei buraf ffurf a’r unig beth ti angen ’neud ar gyfer teledu ydi ‘tone it down’ ond fysa hynny’m yn gallu bod dim pellach o’r gwir.

"Mae nyled i’n fawr i Rory Taylor, y Director of Photography ar Dal y Mellt, achos nath o jyst dysgu bob dim i mi o ran techneg camera – y dechneg benodol o ‘dyma lle mae’r focus yn fa’ma, dyma lle ti angen hitio’. Pethau doedd gen i ddim syniad amdano fo.

"A dwi mor ddiolchgar am Dal y Mellt. Fyswn i ddim yr un actor heb Dal y Mellt."

'Blwyddyn anhygoel'

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Gwïon wedi ymddangos mewn nifer o ddramâu gan gynnwys cynhyrchiadau i Apple TV, ITV a'r BBC a bu rhaid iddo ffitio ffilmio Doctor Who mewn i'w amserlen brysur.

"Oedd hi’n gyfnod prysur prysur iawn i mi pan o’n i’n ffilmio’r bennod Doctor Who. Mi oedd 2022 yn flwyddyn anhygoel. Mi wnes i gyfres gyntaf Dal y Mellt, nes i Wolf, nes i The Winter King, nes i Doctor Who ac Itopia yn Gymraeg.

"Felly nes i weithio ar bum cynhyrchiad teledu mewn blwyddyn ac o’n i mor lwcus!

"Pan o’n i’n mynd mewn i ’neud Doctor Who o’n i’n gorfod slotio fo mewn i’r dyddiau off oedd gen i o The Winter King. Felly oedd o’n brofiad ofnadwy o od i gamu rhwng dau gymeriad hollol wahanol, efo acenion gwahanol, osgo gwahanol a bob dim."

Cadw'r gyfrinach

Mae cyfrinachedd ar gynhyrchiad Doctor Who yn dynn, gyda'r actorion weithiau ddim ond yn cael gwybod yr hyn sydd eu hangen arnyn nhw i gyflawni eu rôl.

Ac yntau wedi ffilmio'r bennod ym mis Rhagfyr 2022 a'r cyhoeddiad ei fod o ynddi ddim yn cael ei wneud tan fis Mawrth 2024, roedd cadw'r gyfrinach oddi wrth un person yn dipyn o her i Gwion.

"Peidio dweud wrth Nain oedd y peth anoddaf, deud gwir! ’Chos dw i’n d'eud bob dim wrth Nain.

"Roedd hi wedi gweithio allan bod ’na un peth bach do’n i’m yn ei ddweud wrthi. Oedd hi’n rhyw brocio a rhyw holi a dw i’n meddwl ebryn diwedd ’nath hi rhyw fath o ddallt “Doctor Who ydy o Gwion?!” Ond eto, do’n i’m yn cael dweud wrthi nes y cyhoeddiad gan Doctor Who Magazine."

'Tend your dream'

Wrth ei holi am sut mae wir yn teimlo i fod ar y gyfres eiconig hon, mae Gwïon yn dweud:

"Neshi dyfu fyny ar Doctor Who a mae ’di bod i raddau yng nghefn fy meddwl i mai dyna oedd y gôl efo fy ngyrfa i – dim ots be arall sy’n digwydd dw i isio bod ar Doctor Who. Bod hynny wedi digwydd blwyddyn ar ôl i mi raddio – dyna pryd ges i ’nghastio – chwalu pen!

"Ar y pryd, o’n i’n gwrando lot ar Merrilly We Roll Along gan Sondheim, mae’n sôn lot am freuddwydion, ac un o’r leins yn honna ydi ‘tend your dream’ ac oedd honna jyst yn ringian yn fy mhen i wrth i mi fynd i ffilmio."

Bydd y gyfres newydd o Doctor Who, gyda Ncuti Gatwa fel y Doctor, yn dechrau nos Sadwrn, Mai 11 ar BBC One.

Pynciau cysylltiedig