‘Llafur am droi’r cloc nôl ar ddatganoli’

Yr Athro Richard Wyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro Richard Wyn Jones yn recordio'r podlediad Etholiad Vaughan a Richard

  • Cyhoeddwyd

San Steffan a Llundain ydi canolbwynt yr Etholiad Cyffredinol ar 4 Gorffennaf, ond os fydd Llafur yn ennill beth fydd yr effaith ar y Senedd ym Mae Caerdydd?

Dyna un o’r pynciau trafod yn ail bodlediad Etholiad Vaughan a Richard yn dilyn sylwadau llefarydd y blaid Lafur ar Gymru yn San Steffan Jo Stevens na fydden nhw’n dechrau ‘potsian’ gyda datganoli heddlu, llysoedd a charchardai i Gymru.

Mae maniffesto Llafur wedi hepgor cefnogaeth i ddatganoli cyfiawnder troseddol, er gwaetha galwadau hirsefydlog gan Lywodraeth Lafur Cymru.

Yn y podlediad, dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, bod angen edrych tu hwnt i’r system gyfiawnder.

'Tensiwn' os fydd newid

“Yr hyn dwi’n clywed a’r hyn dwi’n ei weld yn eu maniffesto (Llafur) ydi’r syniad y bydd Swyddfa Cymru - yr hen Swyddfa Gymreig - yn chwarae llawer iawn, iawn mwy o rôl yn y ffordd mae Cymru yn cael ei llywodraethu o hyn ymlaen,” meddai.

“Hynny yw troi y cloc yn ôl ar y math o ddatganoli sydd wedi datblygu - symud i gyfeiriad math o ddatganoli fyddai Llafur wedi gwrthwynebu petai’r Ceidwadwyr yn ceisio gwneud hyn mewn llywodraeth yng Nghymru a nhw yn llywodraethu yng Nghymru.

“A dyma lle mae’r tensiwn am fod - dydi cyfiawnder ddim ond yn un rhan fechan iawn o batrwm newydd y mae Llafur yn mynd i geisio ei gweithredu am flwyddyn neu ddwy. Dwi ddim yn gallu gweld nhw’n para yn hirach na hynny achos dwi’n meddwl bod nhw’n mynd i dalu pris etholiadau uchel os yn dechrau gwneud hyn.”

Ychwanegodd mai Aelodau Seneddol Llafur o Gymru yn hytrach nag Aelodau Llafur yn Senedd Cymru sydd o blaid y symudiad yma er mwyn iddyn nhw gael llawer mwy o ddylanwad ar Gymru.

Angen blaenoriaethu

Dywedodd Owen John, cyn ymgynghorydd arbennig i gyn Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ei fod o blaid datganoli cyfiawnder mewn egwyddor ond yn deall dadl Jo Stevens bod angen blaenoriaethu materion eraill cyn gwneud newidiadau cyfansoddiadol os ydi Llafur yn ennill grym.

Ychwanegodd mai dim ond yn lled ddiweddar mae adroddiadau manwl wedi eu gwneud ar sut i ddatganoli’r system gyfiawnder a bod angen gwneud mwy o waith cyn dechrau ar unrhyw newidiadau ymarferol.

Roedd y podlediad, sy'n cael ei gyflwyno gan Ohebydd Materion Cymreig BBC Cymru Vaughan Roderick, hefyd yn canolbwyntio ar etholaethau'r Canolbarth a'r Gorllewin.

Gwrandewch ar bodlediad wythnosol Etholiad Vaughan a Richard.