Ffrae dros ddatganoli plismona a chyfiawnder i Gymru

Jo Stevens Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Jo Stevens yw llefarydd y blaid Lafur ar Gymru yn San Steffan

  • Cyhoeddwyd

Mae problemau gyda throseddau yn faterion sy'n ormod o frys i ddechrau “potsian” gyda datganoli heddlu, llysoedd a charchardai i Gymru, yn ôl llefarydd y blaid Lafur ar Gymru yn San Steffan.

Mae maniffesto Llafur ar gyfer yr etholiad cyffredinol wedi hepgor cefnogaeth i ddatganoli cyfiawnder troseddol, er gwaethaf galwadau hirsefydlog gan Lywodraeth Lafur Cymru.

Dywedodd Jo Stevens wrth S4C na fyddai neb "yn cael maddeuant am geisio rhwygo ac ail-greu'r Swyddfa Gartref a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar adeg pan mae trosedd yn difetha ein strydoedd".

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y dylai Llafur ganolbwyntio ar iechyd ac addysg.

Dywedodd Heledd Fychan o Blaid Cymru fod Ms Stevens yn chwerthin "yn wyneb adroddiadau a gomisiynwyd gan Lafur sy'n cyflwyno yr achos cadarnhaol dros ddatganoli plismona a chyfiawnder".

Yn y cyfamser, mae Vaughan Gething wedi gwadu yn ystod sesiwn gwestiynau i'r Prif Weinidog yn y Senedd ei fod yn "ffigwr ymylol" o fewn y blaid Lafur.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i'w weld yn rhyngweithiol. Yn agor mewn tab porwr newydd Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Wrth siarad â Catrin Haf Jones ar raglen Y Byd yn ei Le ar S4C, dywedodd ysgrifennydd yr wrthblaid dros Gymru fod y cyhoedd yng Nghymru yn "bryderus am drosedd a chyfraith a threfn a gallaf ddeall pam".

“Pan rydyn ni wedi cael 14 mlynedd o lywodraeth Geidwadol ac rydyn ni wedi gweld yr hyn maen nhw wedi'i wneud i'r system blismona a chyfiawnder troseddol, wrth dorri 20,000 o swyddogion yr heddlu oddi ar y stryd.

“Mae gennym ni ddioddefwyr trais rhywiol sy’n aros am 1,000 o ddyddiau i’w hachos gael ei glywed.

"Os ydych chi'n edrych trwy'r lens hynny ar y system cyfiawnder troseddol rydych chi'n mynd i fod eisiau i bethau gael eu trwsio."

'Datganoli yn gytundeb'

Ychwanegodd nad oedd am "botsian gyda strwythurau a systemau pan mae yna bethau brys i'w gwneud i drwsio pethau, sef blaenoriaethau ein pobl yng Nghymru".

Dywedodd Ms Stevens hefyd: "Wrth gwrs fy mod yn ymddiried yn fy nghydweithwyr yng Nghymru, ond mae datganoli yn gytundeb.

"Nid yw datganoli yn ddigwyddiad, mae'n broses."

Dywedodd maniffesto Llafur y byddai'n "archwilio" datganoli'r gwasanaeth prawf, ac yn "ystyried" datganoli cyfiawnder ieuenctid.

Roedd yr iaith ofalus er gwaethaf adroddiad gan Gordon Brown oedd yn cefnogi'r ddau gynnig.

Wrth amddiffyn yr ymrwymiad yn y maniffesto, dywedodd Ms Stevens: "Os nad ydych chi'n meddwl amdanyn nhw cyn i chi eu gwneud nhw fe gewch chi drychineb."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi galw ers tro am ddatganoli materion fel yr heddlu

Cafodd datganoli pwerau cyfiawnder a phlismona i Lywodraeth Cymru a’r Senedd ei gefnogi gan gyn arglwydd brif farnwr mewn adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2019.

Roedd yr Arglwydd John Thomas o Gwmgiedd wedi dweud bod y rhaniad cyfrifoldebau rhwng San Steffan a Chaerdydd "wedi creu cymhlethdod dibwrpas, dryswch ac anghydlyniaeth mewn cyfiawnder a phlismona yng Nghymru".

Roedd comisiwn annibynnol arall yn cefnogi datganoli plismona.

Dywedodd un o gyd-gadeiryddion y comisiwn, Laura McAllister, ar X: “Mae manteision datganoli’r heddlu, y gwasanaeth prawf a chyfiawnder troseddol eisoes wedi’u hymchwilio’n drylwyr ac yn briodol, a’u tystiolaethu.

"Felly mae'n sarhaus siarad am 'archwilio' ac 'ystyried'."

Roedd hi'n cwestiynu a oes gan "unrhyw un" o Lafur Cymru "hyd yn oed owns o fewnbwn" i'r maniffesto.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig: “Mae sôn am ddatganoli rhagor o bwerau yn tynnu sylw eto oddi wrth Lafur.

“Yn lle ailwampio ein cyfansoddiad, dylai Llafur ganolbwyntio ar y llanast maen nhw wedi’i wneud yn ein GIG, lle mae gennym ni’r rhestrau aros hiraf yn y DU ac yn ein system addysg lle cawsom y gostyngiad mwyaf yng nghanlyniadau PISA.”

Dywedodd Heledd Fychan ar ran Plaid Cymru: “Mae ei haeriad bod datganoli cyfiawnder yn gyfystyr â chwarae o gwmpas gyda strwythurau a systemau yn chwerthinllyd yn wyneb adroddiadau a gomisiynwyd gan Lafur sy’n cyflwyno’r achos cadarnhaol dros ddatganoli plismona a chyfiawnder.

“Dangosodd y cyfweliad agwedd nawddoglyd a dirmygus tuag at Gymru gan brif dîm Keir Starmer."

Vaughan Gething 'ymhell o fod yn ffigwr ymylol'

Yn ystod sesiwn gwestiynau i'r Prif Weinidog yn y Senedd, cafodd Mr Gething ei feirniadu gan y gwrthbleidiau ynghylch ymrwymiadau maniffesto ei blaid ar gyfer y DU.

Honnodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, fod sylwadau Jo Stevens yn ei chyfweliad ag S4C nos Lun yn dangos y bydd Mr Gething “yn ffigwr ymylol”, gan nodi diffyg ymrwymiad i drydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru.

Dywedodd Mr Gething wrth Mr Davies: “Fe welwch chi fod yna arweinydd Llafur Cymru sydd ymhell o fod yn ffigwr ymylol.”

Ychwanegodd ei fod yn disgwyl y bydd Llafur "yn buddsoddi mwy mewn gwasanaethau rheilffordd ar draws gogledd Cymru”, ac fe gyhuddodd y Ceidwadwyr o addo “ymosodiad uniongyrchol ar ddatganoli” wrth addo dadwneud y terfyn cyflymder 20mya a'r ddeddf undebau llafur.

Dywedodd Heledd Fychan o Blaid Cymru fod yr iaith ar gronfeydd strwythurol yn y maniffesto – lle mae Llafur yn addo adfer y penderfyniadau a wneir i “gynrychiolwyr” Cymru - yn annelwig.

Pan ofynnodd hi iddo esbonio pwy sy’n siarad ar ran Llafur – Jo Stevens neu ef – dywedodd Mr Gething: “Mae’n syml iawn, fi sydd wedi fy ethol yn arweinydd Llafur Cymru.”

Dywedodd Mr Gething na allai’r maniffesto “fod yn gliriach” ynglŷn â dyrannu cronfeydd strwythurol.