Ailagor eglwys yng Ngwynedd wedi degawd o fod ar gau
- Cyhoeddwyd
Mae eglwys yng Ngwynedd wnaeth gau’n swyddogol dros ddegawd yn ôl wedi ail agor yn dilyn ymgyrch gan y gymuned.
Fe gaeodd Eglwys Santes Fair ym Morfa Nefyn 2013 gydag ambell wasanaeth yn parhau bob blwyddyn wedi eu harwain gan wirfoddolwyr.
Ond ddydd Sul fe gafodd yr Eglwys ei hail gysegru gyda degau yn mynychu gwasanaeth arbennig i nodi’r achlysur.
Yn ôl Archesgob Cymru, mae’r newyddion yn un “llawn llawenydd”.
Cafodd yr eglwys ei chodi’n wreiddiol ym 1870 i wasanaethu ardal Morfa Nefyn ond mi gaeodd yn swyddogol yn 2013 oherwydd prinder aelodau.
Dros y ddegawd ddiwethaf mae ambell wasanaeth wedi ei chynnal yno ar adegau fel y Nadolig a’r diddordeb yna bellach wedi arwain at ei hail hagor yn swyddogol.
“Da ni 'di cal support da” meddai Roberts Jones, Cadeirydd ‘Cyfeillion Eglwys Santes Fair’.
“Mae pobl di cael eu bedyddio yma, priodasau, cynebryngau ac mae’n rhywle all bobl droi ato”.
“Ma’n neis bod eglwys fel hyn yn ail agor mewn adeg lle mae’n eglwysi, capeli, ysgolion yn cau”
“Mae hwn yn wych dydi”.
Yn ôl yr Eglwys yng Nghymru fe gaeodd 136 o eglwysi yng Nghymru rhwng 2014-2023.
Yn ôl aelod arall o’r criw sydd wedi bod yn ymgyrchu, Catrin Roberts, mae’r eglwys yn hwb ac yn ganolfan i’r gymuned.
“Da ni jest wedi rhoi pennau lawr- gweithio ar hyd y blynyddoedd i gadw’r adeilad, i gynnal gwasanaethau ac i hysbysebu i gal cynulleidfa”.
“Mae o wedi sefydlu hyn yn gadarn erbyn hyn”, meddai.
“Ma’r gymuned wedi bod yn gefnogol iawn i ni ac mi’n deimlad braf- teimlad bron bod ni’n coelio bod o’n digwydd ond da ni wedi cal dipyn o gefnogaeth”.
Gan ddilyn anghenion y gymuned, ni fydd yr eglwys yn cynnal gwasanaethau wythnosol.
Yn hytrach mi fydd rhai yn cael eu cynnal yn ôl angen y gymuned gyda’r hawl hefyd i gynnal priodasau, bedyddiadau ac angladdau yno unwaith eto.
Yn ôl y Gwir Parchedicaf Andrew John, Archesgob Cymru mae’n enghraifft o hyblygrwydd yr Eglwys yng Nghymru i wasanaethau cymunedau.
Dywedodd: “Efallai, un o’r camgymeriadau mae’r Eglwys yng Nghymru wedi gwneud yw meddwl mai one size fits all ond yma dydi o ddim yn gweithio”.
“Ond ma ewyllys a nerth a theimlad positif yn amlwg felly pam na allwn ni ddarparu rhywbeth arbennig i’r gymuned sy’n gofyn am y cyfle i addoli?”.
Ychwanegodd y Parchedig Kevin Ellis sydd wedi bod yn gwasanaethu’r Plwyf Madryn ers dwy flynedd fod yna ymdeimlad o "hapusrwydd" a’i fod yn edrych 'mlaen i ymuno ar daith yr eglwys.
Yn ôl ymgyrchwyr y gobaith rŵan ydi sicrhau fod yr eglwys unwaith eto wrth galon y gymuned ac yn cynnig cefnogaeth i bawb sydd ei angen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2024
- Cyhoeddwyd20 Medi 2023