Creu categori galwadau 999 newydd ar gyfer strôc

Ambiwlans
  • Cyhoeddwyd

Fe fydd categori "oren" newydd ar gyfer galwadau ambiwlans 999 yn cael ei gyflwyno yng Nghymru gyda'r nod o gyflymu a gwella gofal strôc a rhai chyflyrau difrifol eraill.

Ar hyn o bryd mae cleifion sydd wedi cael strôc neu fath penodol o drawiad y galon wedi eu cynnwys mewn categori eang o'r enw "ambr" - sy'n cynrychioli 70% o holl alwadau 999 i'r gwasanaeth.

Mae amseroedd ymateb i alwadau ambr wedi dirywio'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.

Fe fydd y dull newydd yn gweld nyrsys a pharafeddygon yn sgrinio galwadau i adnabod y cleifion sy'n debygol o angen ymateb cyflym ynghyd â gofal parafeddygol arbenigol cyn eu bod nhw'n cael eu trosglwyddo i'r ysbyty.

Er na fydd targed amser penodol ynghlwm â'r categori oren newydd, fydd yn cael ei gyflwyno yn y gaeaf, fe fydd yr amseroedd ymateb cyfartalog a'r amseroedd ymateb hiraf yn cael eu cofnodi.

Fe fydd y math o ofal mae claf yn ei dderbyn cyn cyrraedd ysbyty hefyd yn cael ei fonitro.

Beth yw'r categorïau newydd?

Mae'r newidiadau'n disodli'r categori ambr presennol ac yn creu'r dosbarthiadau canlynol:

'Oren: sensitif o ran amser'

Mae hwn ar gyfer cyflyrau fel strôc sydd angen ymateb cyflym a gofal gan glinigwyr ambiwlans cyn cludo'r claf i'r ysbyty.

'Melyn: asesu ac ymateb'

Dyma'r categori ar gyfer cyflyrau y mae angen asesiad clinigol pellach i benderfynu ar y llwybr gofal gorau, er enghraifft, person sy'n dioddef o boen yn yr abdomen a allai fod yn addas i aros gartref, neu a allai fod angen ymchwiliadau pellach.

'Gwyrdd: ymateb wedi'i gynllunio'

Mae'r dosbarth yma ar gyfer cyflyrau fel cathetr wedi blocio a allai fod angen gofal cymunedol, neu gludiant wedi'i gynllunio i wasanaethau gofal brys.

Mae'r cam yn dilyn newidiadau gafodd eu cyflwyno yn gynharach y mis hwn i'r ffordd mae'r galwadau 999 mwyaf difrifol yn cael eu categoreiddio.

'Colli dwy filiwn o gelloedd ymennydd bob munud'

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles: "I bobl sydd wedi cael strôc, mae pob munud yn cyfri' os ydyn ni am achub bywydau a lleihau neu atal anabledd - gyda phob munud sy'n pasio, mae tua dwy filiwn o gelloedd yr ymennydd yn cael eu colli.

"Dyna pam rydyn ni'n cyflwyno categori oren newydd i'r system a fydd yn helpu ein gwasanaeth ambiwlans i adnabod yn gyflym y cyflyrau sy'n sensitif o ran amser fel strôc a sicrhau fod cleifion yn cael y driniaeth arbenigol gywir yn gyflymach.

"Bydd hyn yn helpu i wneud yn siŵr bod pobl sy'n dioddef strôc yn cael yr ymateb cyflym ac wedi'i deilwra sydd ei angen arnyn nhw i oroesi, gwella a chryfhau wedi hynny."

Abiwlansys

Ynghyd â'r newidiadau i'r categorïau mae cynllun brysbennu (triage) drwy gysylltiad fideo hefyd yn cael ei dreialu mewn pum ardal.

Mae hyn yn caniatáu i barafeddygon drafod ag arbenigwyr strôc cyn bod claf yn cyrraedd yr ysbyty er mwyn gwella asesiadau a diagnosis.

Dywedodd Andy Swinburn, Cyfarwyddwr Gweithredol Parafeddygaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, ei fod yn croesawu'r newid a'r ffocws ar ganlyniadau cleifion ac nid amseroedd ymateb yn unig.

"Mae natur y galwadau 999 y mae pobl yn eu gwneud wedi newid ac mae'n bwysig adlewyrchu hyn yn y ffordd rydyn ni'n ymateb, yn gyntaf oll i gynyddu nifer yr ambiwlansys sydd ar gael ar gyfer y rhai sydd wir eu hangen ond hefyd i sicrhau bod cleifion y gellir gofalu amdanyn nhw yn agosach i'r cartref yn cael y cyfle hwnnw.

"Mae'r newid diweddaraf hwn, sy'n adeiladu ar y newidiadau sydd eisoes wedi'u cyflwyno ar gyfer y galwadau sy'n peryglu bywyd fwyaf, yn gam arall tuag at greu'r fframwaith i gyflawni hyn."

Pwysleisiodd Dr Shakeel Ahmad, arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer strôc yng Nghymru, bod triniaeth frys yn hanfodol i strôc.

"Nod hyn yw adfer llif y gwaed i'r ymennydd ar gyfer y cleifion hynny sy'n gymwys i gael triniaethau i chwalu neu gael gwared ar glotiau gwaed o'r ymennydd."

Dywedodd y byddai'r categori oren newydd yn blaenoriaethu cleifion sydd angen triniaeth o'r fath.

Ychwanegodd: "Mae'r newidiadau i'r categorïau yn gamau pwysig tuag at fodel wedi'i drawsnewid ar gyfer gofal strôc yng Nghymru. Bydd hyn yn gwella'r llwybr strôc gan arwain at fwy o gleifion yn cael triniaethau sy'n newid bywyd yn brydlon."

Porffor a Choch

Mae'r newidiadau i'r categori ambr yn dilyn cyflwyno categorïau newydd ar gyfer ymateb i'r galwadau 999 mwyaf difrifol yn gynharach y mis hwn.

Bryd hynny cafodd categori newydd "porffor" ei gyflwyno ar gyfer cleifion sy'n dioddef ataliad y galon neu'n stopio anadlu, a chategori "coch brys" ar gyfer argyfyngau eraill sy'n peryglu bywyd yn cynnwys trawma.

Disgwylir i ambiwlansys ymateb i'r galwadau hyn o fewn chwech i wyth munud ar gyfartaledd.

Jason Killens
Disgrifiad o’r llun,

Wrth adael Gwasanaeth Ambiwlans Cymru dywedodd Jason Killens bod oedi yng Nghymru'n "anghynaladwy ac annerbyniol"

Mae'r newidiadau yn dilyn cyfnod pan fo amseroedd ymateb ambiwlans wedi dirywio'n sylweddol.

Yn Ionawr 2020 roedd galwad "ambr" yn cael ymateb mewn tua 35 munud ar gyfartaledd.

Erbyn Ionawr 2025 roedd hynny wedi ymestyn i tua 150 o funudau ar gyfartaledd.

Fis diwethaf rhybuddiodd pennaeth y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru fod oedi hir pan mae ambiwlansys yn gorfod aros y tu fas i unedau brys yn "anghynaladwy ac annerbyniol".

Ar ôl saith mlynedd wrth y llyw dywedodd Jason Killens fod yr oedi, sydd bedair gwaith yn hirach na pan gafodd ei benodi, yn golygu fod cannoedd o gleifion y mis yn wynebu niwed allai fod wedi ei osgoi.